Arwain y gwaith o gefnogi creadigrwydd plant a phobl ifanc
URN: HSCCLD431
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth arwain y gwaith o gefnogi creadigrwydd plant a phobl ifanc mewn partneriaeth â phlant a phobl ifanc, teuluoedd ac eraill. Mae hyn yn cynnwys cefnogi arsylwadau o ddatblygiad creadigol plant a phobl ifanc ynghyd â hwyluso’r gwaith o ddarparu amgylchedd sy’n hybu ac yn gwella creadigrwydd. Mae hefyd yn cynnwys cefnogi’r gwaith o fonitro, gwerthuso a chynllunio gwelliannau i hybu datblygiad creadigol plant a phobl ifanc.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod canllawiau neu fframweithiau cwricwlwm ar gyfer creadigrwydd yn cael eu nodi a’u dilyn
- gweithio ar y cyd ag eraill i ddatblygu gwahanol ddulliau ar gyfer arsylwi ac asesu creadigrwydd plant neu bobl ifanc
- defnyddio arsylwadau ac adborth gan blant neu bobl ifanc, teuluoedd ac eraill i asesu creadigrwydd
- eirioli dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn drwy gynnwys plant neu bobl ifanc mewn arsylwadau o’u creadigrwydd
- sicrhau bod arsylwadau’n canolbwyntio ar y plentyn, yn ddilys ac yn ddibynadwy, gan ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth amrywiol
- cefnogi eraill i gydnabod ac ymateb i blant neu bobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol
- cefnogi eraill i fyfyrio ar ymarfer a gwella’r cymorth creadigol
- arwain y gwaith o ddatblygu rhaglenni a gweithgareddau sy’n hybu datblygiad creadigol plant neu bobl ifanc
- cefnogi eraill i nodi’r gwahanol ffyrdd mae plant neu bobl ifanc yn mynegi creadigrwydd
- sicrhau bod mannau, profiadau a rhyngweithiadau wedi'u cynllunio a’u trefnu’n dda gyda digon o adnoddau ar gyfer mynegiant creadigol
- sicrhau bod profiadau ymatebol a bwriadol yn benagored er mwyn caniatáu mynegiant creadigol
- hwyluso a chefnogi arddangosfeydd gweledol a chyffyrddadwy i ysgogi chwilfrydedd a meithrin hunan-barch plant neu bobl ifanc
- hybu’r defnydd o gyfleoedd i blant neu bobl ifanc fod yn greadigol, a mynd ati i archwilio ac arloesi
- hybu a gwreiddio’r defnydd o ddyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi creadigrwydd, gan sicrhau bod adnoddau digidol yn cefnogi yn hytrach na disodli profiadau chwarae cyfoethog yn y byd go iawn
- modelu disgwyliadau uchel ac agweddau cadarnhaol tuag at greadigrwydd plant neu bobl ifanc
- sicrhau bod gan bob plentyn neu berson ifanc fynediad at gyfleoedd creadigol
- datblygu systemau sy’n monitro ac yn gwerthuso datblygiad creadigol plant neu bobl ifanc
- gweithio gydag eraill i werthuso addasrwydd y ddarpariaeth ar gyfer creadigrwydd i gwrdd ag anghenion a galluoedd plant neu bobl ifanc
- nodi meysydd i’w gwella a chynllunio ar gyfer datblygu cyfleoedd creadigol yn barhaus
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain y gwaith o gefnogi creadigrwydd plant a phobl ifanc
- annog eraill i fyfyrio a gwerthuso eu harferion eu hunain ac arferion y sefydliad o ran cefnogi creadigrwydd
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arwain y gwaith o gefnogi creadigrwydd plant neu bobl ifanc
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae sicrhau bod gwybodaeth am greadigrwydd ar gael i blant a phobl ifanc ac eraill
- sut mae cefnogi plant a phobl ifanc â’r newidiadau y gallant eu profi
- sut mae cefnogi eraill i nodi pwysigrwydd y broses greadigol yn hytrach na’r canlyniad
- sut mae cefnogi eraill i nodi pwysigrwydd creadigrwydd ym mhob maes sy'n gysylltiedig â datblygiad plant a phobl ifanc
- sut mae annog creadigrwydd plant a phobl ifanc
- sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi datblygiad creadigol plant a phobl ifanc
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol i hybu datblygiad creadigol plant a phobl ifanc
- yr ystod o ffactorau cymdeithasol, corfforol ac economaidd a allai effeithio ar greadigrwydd plant a phobl ifanc
- dylanwad diwylliant a chefndir ar ddatblygiad creadigol plant a phobl ifanc
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ddatblygiad creadigol plant a phobl ifanc
- eich rôl o ran arwain gweithdrefnau’r gweithle ar gyfer arsylwi ac asesu, a sut mae'r rhain yn cysylltu â fframweithiau cwricwlwm neu ddatblygu
- y cyfraniad mae chwarae'n ei wneud at ddatblygiad creadigrwydd
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi creadigrwydd plant a phobl ifanc
- sut mae darparu mannau a rhaglenni o brofiadau a rhyngweithiadau i gefnogi creadigrwydd a chynaliadwyedd
- sut mae arwain systemau a gweithdrefnau sy’n cefnogi creadigrwydd plant a phobl ifanc
- sut mae cefnogi eraill i addasu eu hymarfer a’u hamgylcheddau i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cymryd rhan gyfartal mewn cyfleoedd creadigol
- sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i hybu datblygiad creadigol plant a phobl ifanc
- sut mae gwerthuso effeithiolrwydd cynllunio ar gyfer creadigrwydd
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi creadigrwydd plant a phobl ifanc
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain y gwaith o gefnogi creadigrwydd plant a phobl ifanc
- theorïau sy'n berthnasol i arwain y gwaith o gefnogi creadigrwydd plant a phobl ifanc
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain y gwaith o gefnogi creadigrwydd plant a phobl ifanc
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain y gwaith o gefnogi creadigrwydd plant a phobl ifanc
- sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth arwain y gwaith o gefnogi creadigrwydd plant a phobl ifanc, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth arwain y gwaith o gefnogi creadigrwydd plant a phobl ifanc
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD431
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cefnogi Creadigrwydd Plant a Phobl Ifanc, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu