Arwain y gwaith o gefnogi dulliau cyfathrebu plant a phobl ifanc
URN: HSCCLD430
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth arwain y gwaith o asesu, gwerthuso a chefnogi dulliau cyfathrebu plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys cefnogi’r gwaith o asesu dulliau cyfathrebu, iaith a llythrennedd ac mae’n hwyluso’r gwaith o ddarparu amgylchedd sy’n hybu ac yn gwella dulliau cyfathrebu, iaith a llythrennedd plant a phobl ifanc. Mae hefyd yn cynnwys cefnogi’r gwaith o fonitro, gwerthuso a chynllunio gwelliannau o ran dulliau cyfathrebu, iaith a llythrennedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi gofynion perthnasol y fframweithiau asesu a chwricwlwm
- datblygu dulliau i asesu dulliau cyfathrebu, iaith a llythrennedd plant neu bobl ifanc
- arwain y defnydd o arsylwadau ac adborth gan blant neu bobl ifanc ac eraill i gefnogi dulliau cyfathrebu, iaith a llythrennedd
- annog plant neu bobl ifanc ac eraill i gymryd rhan mewn asesiadau a gwerthusiadau
- hybu dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn mewn asesiadau
- cefnogi eraill i adnabod gwahanol agweddau ar gyfathrebu, iaith a llythrennedd mewn prosesau asesu
- cydweithio ag eraill i fyfyrio ar ymarfer a modelu sgiliau myfyrio
- cynllunio a datblygu rhaglenni a gweithgareddau sy’n hybu dulliau cyfathrebu, iaith a llythrennedd plant neu bobl ifanc ac sy’n cyd-fynd â fframweithiau asesu a chwricwlwm
- hybu cydraddoldeb mynediad a chymryd rhan mewn rhaglenni a phrofiadau cyfathrebu
- gweithio ag eraill i greu amgylchedd cyfathrebu cefnogol sy’n gwella dulliau cyfathrebu, iaith a llythrennedd plant neu bobl ifanc
- caffael ac arwain y defnydd o arddangosfeydd, adnoddau, dyfeisiau ac adnoddau digidol er mwyn cefnogi dulliau cyfathrebu, iaith a llythrennedd
- cefnogi’r defnydd o arferion er mwyn hybu dulliau cyfathrebu, iaith a llythrennedd
- hybu gweithgareddau sy’n cael eu harwain gan blant yn ogystal ag oedolion i gefnogi dulliau cyfathrebu, iaith a llythrennedd
- annog ymyriadau ymatebol a sensitif i gefnogi dulliau cyfathrebu ac iaith
- datblygu gweithdrefnau ar gyfer monitro a gwerthuso datblygiad dulliau cyfathrebu, iaith a llythrennedd plant neu bobl ifanc
- cefnogi eraill i fonitro a gwerthuso datblygiad dulliau cyfathrebu, iaith a llythrennedd plant neu bobl ifanc
- nodi arferion da, newidiadau gofynnol a chynlluniau ar gyfer datblygiad parhaus
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain y gwaith o gefnogi dulliau cyfathrebu plant a phobl ifanc
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arwain y gwaith o gefnogi dulliau cyfathrebu plant a phobl ifanc
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- patrwm disgwyliedig datblygiad o ran cyfathrebu ar gyfer plant a phobl ifanc
- natur holistaidd datblygiad sy’n ymwneud â dulliau cyfathrebu plant a phobl ifanc
- ffactorau sy’n effeithio ar ddatblygiad o ran cyfathrebu plant a phobl ifanc
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y gwaith o gefnogi dulliau cyfathrebu plant a phobl ifanc
- dylanwad diwylliant a chefndir ar ddulliau cyfathrebu plant a phobl ifanc
- sut y gall anghenion cyfathrebu effeithio’n sylweddol ar ganlyniadau bywyd
- effaith ymyrryd yn gynnar ar iaith a chyfathrebu
- sut mae newidiadau’n gallu effeithio ar ddulliau cyfathrebu plant a phobl ifanc
- pwysigrwydd data dilys a dibynadwy wrth asesu datblygiad plant a phobl ifanc o ran dulliau cyfathrebu, iaith a llythrennedd
- sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi dulliau cyfathrebu
- sut mae arwain y prosesau a’r gweithdrefnau ar gyfer arsylwi ac asesu yn y gweithle
- y sail resymegol dros y dulliau asesu sy’n cael eu defnyddio yn y gweithle
- ystyriaethau penodol sy’n ymwneud â threfniadau dysgu plant a phobl ifanc drwy iaith ychwanegol
- dulliau o gefnogi llythrennedd gyda phlant a phobl ifanc
- sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi mewn perthynas â’r gwaith o gefnogi dulliau cyfathrebu plant a phobl ifanc
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth gyfathrebu
- sut mae ymgorffori datblygiad cyfathrebu a llythrennedd mewn meysydd chwarae, dychymyg a dysgu mewn ffyrdd sy'n ystyrlon ac yn ddymunol i blant a phobl ifanc
- y gwahanol fathau o ddulliau cyfathrebu llafar a di-lafar a all gael eu defnyddio, gan gynnwys strategaethau i blant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol i gyfathrebu
- y mathau o adnoddau, cyfarpar, dyfeisiau ac adnoddau digidol, gweithgareddau a phrofiadau sydd fwyaf cynhyrchiol o ran datblygu dulliau cyfathrebu
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain y gwaith o gefnogi dulliau cyfathrebu plant a phobl ifanc
- theorïau sy'n berthnasol i arwain y gwaith o gefnogi dulliau cyfathrebu plant a phobl ifanc
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain y gwaith o gefnogi dulliau cyfathrebu plant a phobl ifanc
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain y gwaith o gefnogi dulliau cyfathrebu plant a phobl ifanc
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi dulliau cyfathrebu plant a phobl ifanc
- sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth arwain y gwaith o gefnogi dulliau cyfathrebu plant a phobl ifanc, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi dulliau cyfathrebu plant a phobl ifanc
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD430
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cefnogi dulliau cyfathrebu plant a phobl ifanc, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu