Arwain a datblygu ymarfer myfyriol
URN: HSCCLD43
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth ddatblygu eich ymarfer myfyriol ac wrth arwain ymarfer myfyriol pobl eraill. Mae'n golygu cysoni ymarfer â gweledigaeth, gwerthoedd a safonau proffesiynol y gweithle, ac arwain diwylliant o ymarfer myfyriol a datblygiad proffesiynol parhaus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar sut mae eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn cyd-fynd â gweledigaeth, gwerthoedd a chanlyniadau'r gweithle
- nodi safonau cyfredol ymarfer proffesiynol sy'n berthnasol i'ch rôl a'ch cyfrifoldebau gwaith
- gwerthuso eich arddull arwain, eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch ymarfer yn erbyn safonau ymarfer proffesiynol cyfredol
- gofyn am adborth gan eraill ynghylch eich arweinyddiaeth a'ch ymarfer proffesiynol
- datblygu eich sgiliau ymarfer myfyriol
- myfyrio ar eich profiadau ymarfer a nodi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu o fyfyrio a sut i wella'r ffordd rydych chi'n gweithio.
- dadansoddi a gwerthuso sut mae eich gwerthoedd, eich diwylliant a'ch rhagdybiaethau yn effeithio ar eraill
- blaenoriaethu meysydd i'w datblygu, pennu deilliannau dysgu a chynllunio sut y bydd dysgu a datblygu yn cael eu cyflawni
- nodi heriau i'ch dysgu a'ch datblygiad, a'u goresgyn
- cydweithio ag eraill i rannu gwybodaeth a dysgu drwy rwydweithio
- ymgymryd â gweithgareddau dysgu a datblygu a defnyddio dysgu newydd yn eich ymarfer
- defnyddio prosesau goruchwylio ac arfarnu ar gyfer ymarfer myfyriol a datblygu dysgu a datblygu newydd
- defnyddio prosesau goruchwylio ac arfarnu i fonitro a gwerthuso dysgu a datblygu newydd
- arwain, monitro a rhoi adborth i eraill ar safonau ymarfer proffesiynol cyfredol
- arwain ymarfer myfyriol a datblygu sgiliau myfyriol pobl eraill
- defnyddio prosesau goruchwylio ac arfarnu i gefnogi pobl eraill i fyfyrio ar eu dysgu a'u datblygiad, ynghyd â'u datblygu
- cefnogi eraill i wella eu rheolaeth emosiynol, eu gwydnwch a'u llesiant yn y gweithle
- grymuso eraill i gynllunio a chael gafael ar adnoddau dysgu a datblygu unigol ac ar y cyd
- sut i gefnogi eraill i fonitro, defnyddio a gwerthuso dysgu a datblygu newydd
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i nodi a goresgyn heriau i ddysgu a datblygu
- arwain y gwaith o rannu gwybodaeth ac arferion newydd
- modelu, hybu ac arwain diwylliant o fyfyrio a datblygiad proffesiynol parhaus
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i arwain a datblygu ymarfer myfyriol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae ymarfer myfyriol yn gallu cefnogi gweledigaeth, gwerthoedd a chanlyniadau'r gweithle
- rôl ymarfer myfyriol wrth arwain safonau ymarfer proffesiynol
- pwysigrwydd defnyddio tystiolaeth, safonau ac adborth gan eraill i lywio ymarfer myfyriol
- sut mae gwerthuso eich arddull arwain, eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch ymarfer yn erbyn safonau ymarfer proffesiynol cyfredol
- sut mae gofyn am adborth gan unigolion ac eraill, a defnyddio hyn i ddatblygu ymarfer proffesiynol
- sut mae defnyddio modelau myfyriol i ddatblygu eich sgiliau myfyrio a gwella'r ffordd rydych chi’n gweithio
- egwyddorion ymarfer myfyriol a pham ei fod yn bwysig o ran gwella dysgu a datblygu
- sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma mewn ymarfer myfyriol a dysgu a datblygu
- sut mae myfyrio wrth weithredu a defnyddio profiadau dyddiol fel cyfleoedd dysgu
- sut mae myfyrio ar brofiadau ymarfer blaenorol a defnyddio'r profiadau hyn fel cyfleoedd dysgu
- dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar ymarfer myfyriol
- sut mae ymarfer myfyriol yn gallu gwella rheoleiddio emosiynol, gwydnwch a llesiant yn y gweithle
- sut mae defnyddio cyflawniadau a heriau fel cyfleoedd dysgu a datblygu
- strategaethau i oresgyn heriau i'ch dysgu a'ch datblygiad
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar arwain a datblygu ymarfer myfyriol a dysgu a datblygu
- pwysigrwydd rhwydweithio wrth ddysgu a datblygu
- gwahanol ddulliau dysgu a sut y mae modd dod o hyd iddynt a darparu adnoddau ar eu cyfer, gan ystyried cynaliadwyedd ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol ar gyfer ymarfer myfyriol a datblygiad proffesiynol parhaus
- rôl prosesau goruchwylio ac arfarnu mewn ymarfer myfyriol a datblygiad proffesiynol parhaus
- sut mae cefnogi eraill i fonitro, defnyddio a gwerthuso dysgu a datblygu newydd
- sut mae defnyddio technegau hyfforddi a mentora i gefnogi eraill wrth arwain a datblygu ymarfer myfyriol
- cyfrifoldebau arwain ar gyfer ymarfer myfyriol a datblygiad proffesiynol parhaus
- sut mae modelu, arwain a hybu diwylliant o ddatblygiad proffesiynol parhaus a myfyrio
- sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth ddatblygu ymarfer myfyriol
- gofynion y gweithle o ran rheoli perfformiad
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i arwain a datblygu ymarfer myfyriol
- theorïau sy’n berthnasol i arwain a datblygu ymarfer myfyriol
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain a datblygu ymarfer myfyriol
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain a datblygu ymarfer myfyriol
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain a datblygu ymarfer myfyriol, a sut i fynd i'r afael â hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD43
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Arwain, Datblygu, Ymarfer Myfyriol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu