Arwain darpariaeth ar gyfer datblygiad holistaidd plant a phobl ifanc
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion ar gyfer arwain darpariaeth ar gyfer datblygiad holistaidd plant a phobl ifanc. Mae’n cynnwys sut rydych chi’n cefnogi’r gwaith o asesu eu datblygiad corfforol, gwybyddol, emosiynol, cymdeithasol ac ieithyddol. Mae hefyd yn cynnwys arwain rhaglenni strwythuredig sy’n hybu twf a dysg ac yn hwyluso dulliau sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac sy’n seiliedig ar chwarae mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc, teuluoedd ac eraill. Mae hefyd yn cynnwys sut y byddech yn hwyluso datblygiad plant drwy gasglu data’n effeithiol, yn ogystal â monitro a gwerthuso’r ddarpariaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
arwain gweithdrefnau ar gyfer arsylwi, asesu ac adolygu datblygiad plant neu bobl ifanc
nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n ymwneud â’r gwaith o arsylwi, gan sicrhau eich bod yn cydweithio ag eraill
neilltuo amser ac adnoddau ar gyfer arsylwi yn ystod profiadau strwythuredig sy’n seiliedig ar chwarae
gweithio gyda phlant neu bobl ifanc ac eraill i feithrin a chynnal perthnasoedd cadarnhaol
sicrhau a chefnogi annibyniaeth plant neu bobl ifanc ac eraill mewn asesiadau
sicrhau bod asesiadau’n canolbwyntio ar y plentyn, yn ddilys ac yn ddibynadwy, gan ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth amrywiol
gweithio gydag eraill i ddatblygu gwahanol ddulliau ar gyfer arsylwi ac asesu plant neu bobl ifanc
sicrhau bod arsylwadau, asesiadau ac adolygiadau’n cael eu cofnodi
defnyddio gwybodaeth fonitro i lywio’r ddarpariaeth ar gyfer cwrdd ag anghenion datblygiadol
cynllunio darpariaeth gytbwys a hyblyg ag eraill, gan integreiddio chwarae ac archwilio
annog plant neu bobl ifanc i gymryd rhan yn y gwaith o gynllunio darpariaeth sy’n cwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion datblygiadol
mynd ati gydag eraill i nodi a dod o hyd i’r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar gyfer plant neu bobl ifanc
arwain y gwaith o fonitro a chofnodi cynnydd unigolion, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu datblygiad holistaidd plant neu bobl ifanc
cydlynu systemau, gweithdrefnau ac arferion sy’n cefnogi datblygiad plant neu bobl ifanc
arwain eraill yn y gwaith o hybu gwydnwch plant neu bobl ifanc a’u gallu i hunanreoleiddio
cyfathrebu disgwyliadau o ran ymddygiad i blant neu bobl ifanc ac eraill
nodi a rhoi technegau ar waith i gefnogi datblygiad mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc ac eraill
gwerthuso effeithiolrwydd y cymorth ar gyfer datblygiad plant neu bobl ifanc
sicrhau bod lleisiau plant neu bobl ifanc yn cael eu clywed mewn cynlluniau dysgu a datblygu personol
cefnogi eraill i ddiweddaru cofnodion cynnydd datblygiadol
cymryd cyfrifoldeb dros systemau atgyfeirio pan fydd pryderon am gynnydd datblygiadol yn codi
cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer datblygiad holistaidd plant neu bobl ifanc
myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arwain darpariaeth ar gyfer datblygiad holistaidd plant neu bobl ifanc
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut mae cefnogi plant a phobl ifanc â’r newidiadau y gallant eu profi
datblygiad cyn geni a ffactorau sy'n effeithio ar dwf y ffetws a datblygiad yr ymennydd
y patrwm o ran datblygiad o adeg geni hyd at 21 oed
dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ddatblygiad plant a phobl ifanc
dylanwad diwylliant a chefndir ar ddatblygiad plant a phobl ifanc
yr ystod o ffactorau cymdeithasol, corfforol ac economaidd sy’n effeithio ar ddatblygiad plant a phobl ifanc
sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth ddarparu ar gyfer datblygiad holistaidd plant a phobl ifanc
eich rôl o ran arwain gweithdrefnau’r gweithle ar gyfer arsylwi ac asesu, a sut mae'r rhain yn cysylltu â fframweithiau cwricwlwm neu ddatblygu
sut mae rheoli a threfnu amgylcheddau ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n hwyluso ymlyniadau diogel ac yn annog llesiant emosiynol a gwydnwch
sut mae hybu ffordd iach o fyw ar gyfer plant a phobl ifanc
y cyfraniad mae chwarae'n ei wneud at ddatblygiad holistaidd
sut mae darparu mannau a rhaglenni o brofiadau a rhyngweithiadau i gefnogi datblygiad gwybyddol a dysgu
sut mae darparu mannau a rhaglenni o brofiadau a rhyngweithiadau i gefnogi cyfathrebu, iaith a llythrennedd
sut mae darparu mannau a rhaglenni o brofiadau a rhyngweithiadau i gefnogi datblygiad corfforol
sut mae darparu mannau a rhaglenni o brofiadau a rhyngweithiadau i gefnogi datblygiad emosiynol a chymdeithasol
sut mae sicrhau bod mannau, profiadau a rhyngweithiadau yn cael eu hasesu am risg ac yn cefnogi cymryd risgiau cadarnhaol
sut mae arwain systemau, gweithdrefnau ac arferion sy’n cefnogi datblygiad plant a phobl ifanc
sut mae cefnogi eraill i addasu eu hymarfer ac amgylcheddau i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cymryd rhan gyfartal
sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi mewn perthynas â datblygiad holistaidd plant a phobl ifanc
sut mae annog ymatebion realistig, cyson a chefnogol i ymddygiad plant a phobl ifanc
sut mae hybu datblygiad plant a phobl ifanc mewn ffordd sy'n cefnogi rheoleiddio emosiynol
sut mae ymateb i adroddiadau ynghylch gwahaniaethu
pwysigrwydd arwain eraill wrth ddarparu mannau, profiadau a rhyngweithiadau sy’n adlewyrchu cyfiawnder cymdeithasol, diogelu’r amgylchedd, dinasyddiaeth fyd-eang a dysgu yn yr awyr agored
sut mae gwerthuso effeithiolrwydd cynlluniau dysgu a datblygu
sut mae defnyddio dull gwella ansawdd i gefnogi gwelliant parhaus a chynnal safonau ansawdd ar gyfer dysgu a datblygu
sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i arwain darpariaeth ar gyfer datblygiad holistaidd plant a phobl ifanc
sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i arwain darpariaeth ar gyfer datblygiad holistaidd plant a phobl ifanc
y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain darpariaeth ar gyfer datblygiad holistaidd plant a phobl ifanc
theorïau sy’n berthnasol i arwain darpariaeth ar gyfer datblygiad holistaidd plant a phobl ifanc
y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain darpariaeth ar gyfer datblygiad holistaidd plant a phobl ifanc
gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain darpariaeth ar gyfer datblygiad holistaidd plant a phobl ifanc
sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth arwain darpariaeth ar gyfer datblygiad holistaidd plant a phobl ifanc, a sut i fynd i'r afael â hyn
rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth arwain darpariaeth ar gyfer datblygiad holistaidd plant a phobl ifanc
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.