Arwain darpariaeth y cwricwlwm o addysg gynnar i blant
URN: HSCCLD428
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion pan fyddwch yn arwain darpariaeth sy’n cynnig addysg gynnar. Mae’n gofyn i chi arwain y gwaith o gynllunio’r cwricwlwm a modelu arfer da wrth ddarparu addysg gynnar o ansawdd uchel i blant a’u teuluoedd. Mae’n disgwyl i chi sicrhau bod digon o adnoddau i gyflwyno ac asesu’r cwricwlwm, yn ogystal â gwerthuso effeithiolrwydd a phennu strategaethau ar gyfer gwella .
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill mewn perthynas â darparu’r cwricwlwm
- arwain darpariaeth y cwricwlwm ar gyfer addysg gynnar er mwyn cwrdd ag anghenion pob plentyn
- cefnogi eraill i ddatblygu cynlluniau’r cwricwlwm i gwrdd â gofynion y fframweithiau blynyddoedd cynnar
- cynnwys plant a theuluoedd yn y gwaith o gynllunio’r cwricwlwm
- nodi a chaffael adnoddau i roi cynlluniau’r cwricwlwm ar waith
- arwain y gwaith o ddarparu’r cwricwlwm gan ddefnyddio dulliau addysgegol personol
- rhoi cynlluniau ar waith a modelu arferion gorau drwy weithio’n uniongyrchol â phlant
- rhoi arweiniad a chymorth i eraill er mwyn nodi a chael gafael ar adnoddau
- arwain asesiadau o brofiadau ar draws y cwricwlwm
- hwyluso’r gwaith o weithredu cylchoedd cynllunio
- arwain y gwaith o ddatblygu systemau a gweithdrefnau i fonitro, gwerthuso a gwella darpariaeth y cwricwlwm
- cefnogi eraill i fonitro a gwerthuso darpariaeth y cwricwlwm
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain darpariaeth y cwricwlwm o addysg gynnar i blant
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arwain darpariaeth y cwricwlwm o addysg gynnar i blant
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- arwyddocâd cyfathrebu, iaith a llythrennedd ar y ffordd mae plant yn dysgu ac yn datblygu
- sut mae cynnwys datblygiad cyfathrebu, iaith a llythrennedd ym mhob rhan o’r cwricwlwm
- sut mae defnyddio ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddatblygu systemau a gweithdrefnau i fonitro, gwerthuso a gwella darpariaeth y cwricwlwm
- pwysigrwydd cynnwys plant a theuluoedd yn y gwaith o gynllunio’r cwricwlwm
- sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi mewn perthynas â darpariaeth y cwricwlwm o addysg gynnar i blant
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth gynllunio cwricwlwm
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ddarpariaeth y cwricwlwm
- dylanwad diwylliant a chefndir ar ddarpariaeth y cwricwlwm
- pwysigrwydd ymyrryd yn gynnar mewn perthynas â darpariaeth y cwricwlwm
- sut mae cefnogi eraill i sicrhau darpariaeth y cwricwlwm
- sut mae sicrhau data dilys a dibynadwy wrth wneud asesiadau ynghylch datblygiad plant
- sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth arsylwi ac asesu
- prosesau a gweithdrefnau’r gweithle ar gyfer arsylwi ac asesu
- sut mae prosesau a gweithdrefnau eich gweithle’n cysylltu â fframweithiau allanol y cwricwlwm
- y newidiadau y gall plant neu bobl ifanc eu profi
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol wrth arwain darpariaeth y cwricwlwm o addysg gynnar i blant
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain darpariaeth y cwricwlwm o addysg gynnar i blant
- theorïau sy'n berthnasol i arwain darpariaeth y cwricwlwm o addysg gynnar i blant
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain darpariaeth y cwricwlwm o addysg gynnar i blant
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain darpariaeth y cwricwlwm o addysg gynnar i blant
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain darpariaeth y cwricwlwm o addysg gynnar i blant, a sut i fynd i’r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu mewn perthynas â darpariaeth y cwricwlwm o addysg gynnar i blant
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD428
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cwricwlwm o Addysg Gynnar i Blant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu