Arwain y gwaith o gefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar sy’n gweithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol
URN: HSCCLD427
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth arwain y gwaith o gynghori a chefnogi ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar. Bydd gofyn i chi gynllunio a hybu ymyriadau sydd wedi’u cynllunio i gwrdd ag anghenion plant sydd angen cymorth ychwanegol. Bydd gofyn i chi hefyd arwain y gwaith o ddatblygu’r gwasanaeth yn y lleoliadau yn yr ardal leol rydych chi’n gyfrifol amdani.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- rhoi strategaethau ar waith i gefnogi a chynghori ymarferwyr ynglŷn â chynnydd plant
- gweithio gydag ymarferwyr i feithrin perthynas â theuluoedd
- gweithio ar y cyd ag amrywiaeth o asiantaethau
- helpu ymarferwyr i nodi plant a allai fod angen cymorth ychwanegol
- arwain ymarferwyr i rannu pryderon am blant gyda theuluoedd
- cefnogi ymarferwyr i weithio ar y cyd â theuluoedd i gasglu gwybodaeth am ddewisiadau ac anghenion plant
- arwain y gwaith o ddatblygu cynlluniau personol i gefnogi plant ag anghenion ychwanegol, gan weithio’n agos ag ymarferwyr a theuluoedd
- datblygu a gweithredu strategaethau ar gyfer monitro a gwerthuso cynlluniau personol
- defnyddio cyllidebau ac adnoddau i fanteisio i’r eithaf ar y cymorth a gynigir i blant ag anghenion ychwanegol
- rhannu gwybodaeth ag eraill i lywio eu gwaith nhw a'ch gwaith
- cefnogi ymarferwyr i baratoi plant ar gyfer symud i leoliadau eraill
- cynnig cefnogaeth a chyngor i ymarferwyr yn eu gwaith o ddydd i ddydd gyda phlant ag anghenion ychwanegol
- hybu amgylcheddau diogel lle gall ymarferwyr drafod agweddau ar eu gwaith yn gyfrinachol ag eraill
- datblygu polisïau ar gyfer cynhwysiant a mynediad ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol
- blaenoriaethu ac ymateb i ymarferwyr sydd angen cefnogaeth
- sicrhau bod gweithdrefnau atgyfeirio yn glir, a bod cofnodion yn drefnus ac yn berthnasol
- modelu ac annog rhyngweithiadau ymatebol sy'n meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant a theuluoedd
- cydnabod cyfraniadau ymarferwyr wrth weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol
- gweithio gydag eraill i ddarparu pecynnau cefnogaeth addas ar gyfer plant a theuluoedd
- cyfrannu at y gwaith o ddatblygu adnoddau a gwasanaethau lleol
- cynnal perthynas gadarnhaol a dulliau cyfathrebu effeithiol gydag ymarferwyr
- datblygu a rhannu arferion gorau wrth weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol
- nodi cyfleoedd datblygu proffesiynol addas ar gyfer ymarferwyr er mwyn gwella’r ffordd maen nhw’n ymarfer
- cefnogi ymarferwyr i gael mynediad at gyfleoedd dysgu a datblygu
- gwerthuso effeithiolrwydd y gwasanaethau a ddarperir i blant ag anghenion ychwanegol
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arwain y gwaith o gefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar sy’n gweithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cefnogi â’r newidiadau y gallai plant ag anghenion ychwanegol eu profi
- egwyddorion cynhwysiant ac integreiddio a sut maen nhw’n cael eu defnyddio o dan y canllawiau cyfredol
- y fframwaith asesu a ddefnyddir yn eich ardal leol, gan gynnwys ei egwyddorion, ymyriadau cysylltiedig, a sut mae’n berthnasol i blant ag anghenion ychwanegol
- ble i ddod o hyd i wybodaeth am anghenion ychwanegol
- yr adnoddau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sydd ar gael i gefnogi plant ag anghenion ychwanegol
- sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma yn y ddarpariaeth i blant ag anghenion ychwanegol
- y camau i'w cymryd os oes gennych bryderon am ddatblygiad plant
- nodau dysgu a datblygu realistig ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ddatblygiad plant
- dylanwad diwylliant a chefndir ar blant ag anghenion ychwanegol
- sut mae cynorthwyo ymarferwyr â strategaethau ac adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i blant ag anghenion ychwanegol
- sut mae cynorthwyo ymarferwyr mewn sefyllfaoedd heriol
- sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar
- sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi plant ag anghenion ychwanegol
- sut mae datblygu cwricwla gwahaniaethol, yn seiliedig ar anghenion unigol plant
- y gwahaniaeth rhwng darparu dysgu wedi'i bersonoli a chwricwlwm gwahaniaethol
- yr amrywiaeth o gymhorthion, adnoddau, dyfeisiau ac adnoddau digidol ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol, a sut i gael gafael arnynt
- sut mae sicrhau bod eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch cyngor ar gael i ymarferwyr
- y ffynonellau o gymorth personol a phroffesiynol sydd ar gael i chi
- manteision gweithio fel rhan o dîm integredig
- pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a strategaethau i ddatblygu’r partneriaethau hyn
- rôl y gymuned leol o ran rhoi cefnogaeth a darparu gwybodaeth
- sut a pham y dylid cynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau er mwyn dylanwadu ar newid
- egwyddorion personoli mewn gofal, a sut i reoli hyn yn y gweithle
- pwysigrwydd eiriolaeth o ran hawliau a chyfranogiad plant
- sut mae gwerthuso gwasanaethau ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain y gwaith o gefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar sy’n gweithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol
- theorïau sy'n berthnasol i arwain y gwaith o gefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar sy’n gweithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain y gwaith o gefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar sy’n gweithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain y gwaith o gefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar sy’n gweithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol
- sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth arwain y gwaith o gefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar sy’n gweithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth arwain y gwaith o gefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar sy’n gweithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD427
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cefnogi Ymarferwyr, Gweithio gyda Phlant ag Anghenion Ychwanegol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu