Arwain timau i gefnogi eraill i ofalu am blant a’u diogelu

URN: HSCCLD426
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion ar gyfer grymuso eraill i ddatblygu a defnyddio sgiliau i ofalu am blant yn eu gofal, a’u diogelu. Mae’r ffocws ar arwain timau i nodi’r sgiliau angenrheidiol, darparu cymorth, monitro cynnydd, a sicrhau dulliau cyfathrebu a chydlynu effeithiol ag eraill.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod profiad, arbenigedd a galluoedd eraill o ran gofalu am blant a’u diogelu  
  2. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau timau o ran cefnogi eraill i ofalu am blant a’u diogelu  
  3. sicrhau bod timau’n cyfathrebu’n effeithiol ag eraill  
  4. cefnogi timau i weithio ar y cyd ag eraill i sicrhau dealltwriaeth gyffredin o ofalu ac amddiffyn  
  5. gweithio gyda thimau i nodi a rheoli’r risgiau i lesiant plant  
  6. cefnogi timau i gydweithio ag eraill i nodi eu sgiliau yn ogystal â meysydd i’w datblygu  
  7. grymuso timau i gefnogi eraill i gael gafael ar wybodaeth ac adnoddau  
  8. arwain timau yn y gwaith o sefydlu cytundebau ag eraill ar sut i roi adborth, sut y bydd risgiau’n cael eu rheoli, a sut y byddir yn mynd i’r afael â phryderon  
  9. cydweithio i ddatblygu cynlluniau gweithredu i gefnogi eraill i gryfhau sgiliau gofalu  
  10. monitro ac adolygu arsylwadau gan dimau o ryngweithiadau rhwng plant ac eraill, gan sicrhau bod adborth yn cael ei roi  
  11. annog timau i gadarnhau rhyngweithiadau ac ymddygiadau cadarnhaol sy’n cefnogi llesiant plant
  12. cefnogi timau i nodi pryd y mae angen datblygu sgiliau gofalu pobl eraill ymhellach a sicrhau bod cymorth addas yn cael ei roi  
  13. hwyluso trafodaethau mewn timau ynghylch pryderon a chydweithio ag eraill i fynd i’r afael â’r rhain  
  14. arwain timau i gefnogi eraill i ymarfer a myfyrio ynghylch sgiliau gofalu  
  15. gweithio ar y cyd i gefnogi eraill i adnabod cynnydd, dathlu cyflawniadau, a chynllunio rhagor o waith datblygu sgiliau  
  16. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain timau i gefnogi eraill i ofalu am blant a’u diogelu
  17. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i arwain timau i gefnogi eraill i ofalu am blant a’u diogelu

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. dulliau o rymuso timau i gefnogi eraill i ofalu am blant a’u diogelu  
  2. sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth ofalu am blant a’u diogelu
  3. technegau ar gyfer datrys problemau a meddwl yn flaengar mewn timau, yn enwedig wrth fynd i’r afael â bylchau mewn sgiliau gofalu
  4. sut mae arwain timau i gael gafael ar adnoddau, gwybodaeth a chymorth i lywio ymarfer wrth helpu eraill
  5. pwysigrwydd hunaniaeth a hunan-barch o ran datblygu hyder a sgiliau pobl eraill, a sut i hybu hyn drwy arweinyddiaeth tîm  
  6. sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi timau ac eraill
  7. sut mae straen yn dylanwadu ar alluoedd gofalu, a sut i gefnogi timau i fynd i’r afael â hyn  
  8. dulliau ar gyfer cyfathrebu â phlant ac eraill, gan gynnwys dulliau cyfathrebu di-lafar, a sut i gefnogi timau â hyn
  9. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol yn ystod y broses o ofalu am blant a’u diogelu  
  10. y ffactorau sy’n effeithio ar iechyd a llesiant plant ac eraill, a sut i fynd i’r afael â hyn drwy gymorth tîm
  11. pwysigrwydd perthnasoedd a bondio, ac effaith tarfu ar blant ac eraill, a sut y dylai eich tîm ymateb i’r heriau hyn
  12. dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol o ran llunio anghenion plant ac eraill, a sut i sicrhau bod timau’n rhoi ystyriaeth i hyn  
  13. defnyddio technegau arsylwi i nodi a chofnodi rhyngweithiadau, a sut y gall eich tîm ddefnyddio hyn yn effeithiol  
  14. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i’w cefnogi i ofalu am blant a’u diogelu  
  15. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y cymorth sydd ei angen ar blant ac eraill, a sut i sicrhau bod timau’n rhoi ystyriaeth i hyn
  16. y mathau o dystiolaeth sydd eu hangen mewn ymchwiliadau ac wrth amddiffyn plant, a sut i arwain eich tîm wrth gasglu tystiolaeth ddilys  
  17. ffiniau’r gweithle o ran diogelu a chasglu tystiolaeth, a phryd i ofyn am gymorth  
  18. y mentrau lleol a chenedlaethol sy'n hybu llesiant plant, a sut i gael gafael arnynt
  19. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i arwain timau i gefnogi eraill i ofalu am blant a’u diogelu  
  20. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain timau i gefnogi eraill i ofalu am blant a’u diogelu
  21. theorïau sy'n berthnasol i gefnogi eraill i ofalu am blant a’u diogelu
  22. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain timau i gefnogi eraill i ofalu am blant a'u diogelu
  23. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain timau i gefnogi eraill i ofalu am blant a’u diogelu  
  24. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain timau i gefnogi eraill i ofalu am blant a’u diogelu, a sut i fynd i'r afael â hyn    
  25. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi eraill i ofalu am blant a’u diogelu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD426

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cefnogi eraill, Diogelu, Gofalu am blant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu