Arwain darpariaeth gofal plant integredig

URN: HSCCLD425
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth arwain a rheoli darpariaeth gofal plant integredig. Darpariaeth integredig yw pan fydd ystod o wasanaethau ac amgylcheddau ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd yn cael ei darparu. Nid oes yn rhaid iddo fod yn lleoliad ffisegol, ond gallai gynnwys ystod o wasanaethau neu adnoddau sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc a theuluoedd. Rhaid i chi allu arwain a rheoli eraill yn ogystal ag arwain dulliau integredig o ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar anghenion plant a phobl ifanc.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sefydlu ac arwain timau i gyflawni darpariaeth gofal plant integredig
  2. hybu pwrpas a gweledigaeth a rennir i sicrhau dulliau sy’n canolbwyntio ar y plentyn
  3. gwerthfawrogi a pharchu eraill, gan gydnabod eu cryfderau a’u harbenigedd
  4. hybu diwylliant o urddas, caredigrwydd a thosturi er mwyn cefnogi amgylcheddau gwaith cadarnhaol
  5. hwyluso cyfathrebu effeithiol i hybu pobl eraill i gydweithio
  6. hybu dysgu a datblygu drwy annog eraill i ysgwyddo cyfrifoldebau arwain a rheoli
  7. cefnogi eraill i ddatblygu rhwydweithiau sy’n gwella’r modd y darperir gwasanaethau
  8. sefydlu trefniadau i nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau o fewn darpariaeth integredig
  9. datblygu systemau a phrotocolau i rannu a storio gwybodaeth yn y gweithle
  10. sicrhau bod dulliau darparu gwasanaethau’n cael eu cyfuno a’u bod yn canolbwyntio ar anghenion, hawliau a dewisiadau plant neu bobl ifanc a theuluoedd
  11. gwrando ar farn plant neu bobl ifanc a theuluoedd, ac ymateb iddynt, gan sicrhau eu bod yn llywio’r broses o wneud penderfyniadau
  12. dyrannu adnoddau yn ôl anghenion a nodwyd
  13. cefnogi eraill i fynd i’r afael â gwrthdaro, a’i ddatrys, er mwyn hybu canlyniadau cadarnhaol  
  14. monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y ddarpariaeth o ran sicrhau gofal plant integredig
  15. gweithio ar y cyd ag eraill i nodi meysydd o arferion gorau a gwelliannau o ran darparu gwasanaethau
  16. datblygu cynlluniau gweithredu i fynd i’r afael â meysydd i’w gwella yn ogystal ag ychwanegu at drefniadau gweithio integredig
  17. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i arwain darpariaeth gofal plant integredig
  18. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arwain darpariaeth gofal plant integredig

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. egwyddorion gweithio integredig a manteision cydweithio
  2. sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma mewn darpariaeth gofal plant integredig
  3. sut mae ymgysylltu ag eraill i gefnogi darpariaeth gwasanaeth integredig a phartneriaethau cydweithredol
  4. mentrau lleol a chenedlaethol sy'n hybu llesiant plant a phobl ifanc
  5. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar brofiadau plant a phobl ifanc a darpariaeth gwasanaeth
  6. rôl diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol o ran llunio’r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd
  7. dulliau ar gyfer monitro a gwerthuso effeithiolrwydd darpariaeth gwasanaeth integredig
  8. strategaethau ar gyfer ymdrin â materion a phryderon er mwyn meithrin perthnasoedd cadarnhaol
  9. sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi mewn darpariaeth gofal plant integredig
  10. sut mae hwyluso cyfathrebu effeithiol a chydweithio mewn darpariaeth gofal plant integredig
  11. sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol mewn darpariaeth gofal plant integredig
  12. sut mae arwain mewn perthynas â systemau, gweithdrefnau ac arferion i gefnogi darpariaeth gofal plant integredig
  13. dulliau i ddatblygu cynlluniau gweithredu i wella trefniadau gweithio mewn partneriaeth a chanlyniadau gwasanaethau
  14. sut mae defnyddio data ac arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i lywio’r broses o wneud penderfyniadau a gwella’r gwaith o ddarparu gwasanaethau
  15. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i arwain darpariaeth gofal plant integredig
  16. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i arwain darpariaeth gofal plant integredig
  17. theorïau sy’n berthnasol i arwain darpariaeth gofal plant integredig
  18. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain darpariaeth gofal plant integredig
  19. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain darpariaeth gofal plant integredig
  20. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain darpariaeth integredig, a sut i fynd i'r afael â hyn  
  21. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu o ran arwain darpariaeth gofal plant integredig

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD425

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Arwain darpariaeth gofal plant integredig, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu