Arwain prosiect ymchwil

URN: HSCCLD424
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth arwain prosiect ymchwil diogel a moesegol mewn maes ymarfer, gan ddefnyddio sgiliau casglu, dadansoddi a gwerthuso data. Rhaid i chi allu cynllunio’r gwaith ymchwil sy’n ofynnol ar gyfer y prosiect, casglu’r canfyddiadau a’u cyflwyno mewn fformat sydd fwyaf addas ar gyfer y pwrpas a’r gynulleidfa darged.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi’r angen am yr ymchwil neu’r pynciau  
  2. diffinio cwestiynau ymchwil clir a pherthnasol yn ogystal â chanlyniadau  
  3. adolygu gwybodaeth ac ymchwil presennol a nodi bylchau mewn gwybodaeth  
  4. cynllunio a pharatoi methodolegau a dyluniadau ymchwil ar gyfer y canlyniadau a’r cynulleidfaoedd targed  
  5. dewis dulliau ymchwil a’r mathau o ddata i’w cynhyrchu  
  6. cynllunio a pharatoi ar gyfer casglu a dadansoddi data  
  7. defnyddio dulliau cynhwysol a hygyrch i gynllunio a pharatoi i gynnwys cyfranogwyr  
  8. hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau mewn perthynas â dylunio ymchwil a chynrychioli cyfranogwyr  
  9. cytuno ar faint y samplau a chynlluniau wrth gefn ar gyfer nifer isel o ymatebion a rhwystrau posibl  
  10. diffinio a threfnu camau allweddol, tasgau, adnoddau, lleoliadau ac amserlenni ar gyfer yr ymchwil
  11. gwneud yn siŵr bod y cynlluniau ymchwil yn cadw at safonau moesegol ac yn sicrhau cyfrinachedd
  12. cytuno ag eraill ynghylch y gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am gynnydd  
  13. gosod meini prawf a dulliau i werthuso llwyddiant yr ymchwil  
  14. cael caniatâd pawb sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil
  15. casglu a threfnu data gan ddefnyddio’r dulliau ymchwil a ddewiswyd  
  16. monitro’r gwaith o roi arferion ymchwil diogel a moesegol mewn lle
  17. monitro faint o wybodaeth sy’n cael ei chasglu o ffynonellau penodol  
  18. strwythuro, delweddu a dadansoddi data  
  19. adnabod patrymau, themâu, perthnasoedd a gwybodaeth allweddol o ddata  
  20. dehongli canfyddiadau mewn perthynas â chanlyniadau a chwestiynau ymchwil  
  21. cyflwyno’r canfyddiadau a chefnogi casgliadau mewn fformatau sy’n cyd-fynd â’r canlyniadau a’r cynulleidfaoedd targed
  22. defnyddio ystod o wahanol ddyfeisiau ac adnoddau digidol ar gyfer ymchwil diogel a moesegol
  23. defnyddio canfyddiadau ymchwil, gan ddefnyddio dulliau addas  
  24. gwerthuso prosesau’r gwaith ymchwil yn ogystal â’r canlyniadau
  25. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain prosiect ymchwil
  26. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arwain prosiect ymchwil

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd diffinio cwestiynau ymchwil clir a pherthnasol yn ogystal â chanlyniadau
  2. sut mae cael gafael ar ymchwil sy'n bodoli’n barod ac ymchwil cyfredol am bwnc y prosiect, a sut mae mynd ati i’w hadolygu
  3. sut mae gwerthuso pa mor ddilys a dibynadwy yw’r gwaith ymchwil presennol  
  4. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol o ran cymorth ar ddyluniad, methodoleg a chanlyniadau’r ymchwil
  5. dylanwad diwylliant a chefndir ar ddyluniad, methodoleg a chanlyniadau’r ymchwil
  6. heriau wrth ymgysylltu â chyfranogwyr a’u cynnwys mewn gwaith ymchwil
  7. sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma mewn prosiect ymchwil diogel a moesegol
  8. sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth arwain prosiect ymchwil
  9. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol yn ystod prosiect ymchwil
  10. moeseg ymgymryd â gwaith ymchwil, gan gynnwys caniatâd a chyfrinachedd  
  11. gwahanol ddulliau ymchwil a’r mathau o ddata sy'n cael eu cynhyrchu ganddynt
  12. sut mae gwerthuso tueddiadau gwahanol ddulliau ymchwil a’u goresgyn  
  13. gwahaniaethau rhwng ymchwil sylfaenol ac eilaidd
  14. y gwahaniaethau rhwng methodolegau ansoddol a meintiol
  15. dulliau casglu, delweddu, cyfuno a dadansoddi data  
  16. sut mae gwahaniaethu rhwng ffeithiau a dehongliadau
  17. sut mae datblygu adnoddau dadansoddi data  
  18. pwysigrwydd delweddu data a nodi patrymau, perthnasoedd a gwybodaeth allweddol  
  19. sut mae cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd sy’n gynhwysol ac yn ystyrlon i’r gynulleidfa sy’n ei derbyn
  20. sut a pham y dylid gwerthuso llwyddiant ymchwil  
  21. sut y gall proses a chanfyddiadau'r ymchwil wella gwybodaeth bersonol, broffesiynol a sefydliadol  
  22. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i arwain ymchwil diogel a moesegol
  23. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain prosiect ymchwil
  24. theorïau sy'n berthnasol i arwain prosiect ymchwil
  25. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain prosiect ymchwil  
  26. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain prosiect ymchwil  
  27. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain prosiect ymchwil, a sut i fynd i'r afael â hyn
  28. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu o ran arwain prosiect ymchwil

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD424

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Arwain Prosiect Ymchwil, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu