Arwain y gwaith o hybu’r gweithle
URN: HSCCLD423
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth arwain y gwaith o hybu’r gweithle a’r gwasanaethau mae’n eu darparu. Mae’r gofynion yn cynnwys datblygu cynlluniau i hybu’r gweithle a’i wasanaethau, cyfleu gwybodaeth allweddol i gynulleidfaoedd targed, a gwerthuso effeithiolrwydd gweithgareddau hybu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi cynulleidfaoedd targed a’r hyn a allai fod o ddiddordeb iddynt o ran y gweithle a’r gwasanaethau mae’n eu darparu
- nodi a chytuno ag eraill ynghylch gwybodaeth allweddol i’w chyfleu, a sicrhau ei bod yn gywir ac yn unol â gofynion y gweithle
- nodi a gwerthuso’r ffyrdd gorau o gyrraedd cynulleidfaoedd targed
- dewis gweithgareddau hybu sy’n gynhwysol, yn hygyrch ac yn gynaliadwy yn unol ag adnoddau a gofynion y gweithle
- cynllunio sut mae gwerthuso llwyddiant y gweithgareddau hybu
- defnyddio digwyddiadau wedi’u cynllunio a chyfleoedd heb eu cynllunio i hybu’r gweithle a’r gwasanaethau mae’n eu darparu
- rhoi cymorth i’r rhai sy’n ymwneud â’r gwaith o hybu’r gweithle
- rhoi cyfleoedd i’r gynulleidfa darged ofyn cwestiynau a chadarnhau ei bod yn deall gwybodaeth allweddol
- defnyddio dulliau addas i werthuso a oedd yr wybodaeth allweddol yn taro tant â chynulleidfaoedd targed
- dadansoddi canlyniadau gwerthusiadau a’u defnyddio i nodi arferion da a’r newidiadau sydd eu hangen ar gyfer gwaith hybu yn y dyfodol
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain y gwaith o hybu’r gweithle
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arwain y gwaith o hybu’r gweithle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gweithle, ei bwrpas, ei werthoedd a’r gwasanaethau mae’n eu darparu
- cynulleidfaoedd targed a’u diddordeb yn y gweithle
- cynllun hybu’r gweithle
- sut mae dewis y cyfleoedd mwyaf effeithiol i gyfleu gwybodaeth allweddol o blith ystod o weithgareddau hybu
- gyda phwy mae angen i chi gytuno ar wybodaeth allweddol a chyfleu cynlluniau hybu cyn lledaenu gwybodaeth, a pham mae hyn yn bwysig
- sut mae sicrhau pa mor gywir a chyfredol yw eich gwybodaeth
- sut mae sicrhau cynhwysiant, hygyrchedd a chynaliadwyedd wrth rannu gwybodaeth am y gweithle a’r gwasanaethau mae’n eu darparu
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol wrth hybu’r gweithle
- pwy sydd ar gael i hybu eich gweithle a’i wasanaethau, a sut i’w cefnogi â’u rolau a’u cyfrifoldebau
- sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth hybu’r gweithle
- sut mae cyfathrebu gwybodaeth gymhleth yn effeithiol â chynulleidfaoedd amrywiol
- dylanwad diwylliant a chefndir y gynulleidfa darged ar weithgareddau hybu
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol y gynulleidfa darged ar weithgareddau hybu
- sut mae rhoi cyfleoedd i gynulleidfaoedd targed ofyn cwestiynau a chael eglurhad
- sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu’r gweithle
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol yn ystod gweithgareddau hybu
- dulliau ar gyfer gwerthuso effeithiolrwydd cynlluniau a gweithgareddau hybu
- sut mae defnyddio gwybodaeth y gwerthusiad i nodi arferion da a’r newidiadau sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau hybu yn y dyfodol
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain y gwaith o hybu’r gweithle
- theorïau sy’n berthnasol i arwain y gwaith o hybu’r gweithle
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain y gwaith o hybu’r gweithle
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain y gwaith o hybu’r gweithle, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth arwain y gwaith o hybu’r gweithle
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD423
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Arwain, Hybu'r gweithle, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu