Arwain ar ddefnyddio technoleg ddigidol
URN: HSCCLD422
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion pan fyddwch yn arwain ar ddefnyddio technoleg ddigidol i wella gofal a chymorth i unigolion. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i dechnoleg ddigidol arloesol a chyfredol, rhoi newidiadau ar waith, a chefnogi sgiliau digidol pobl eraill.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- arwain cyfleoedd am arloesedd ddigidol yn y gweithle
- gweithio ar y cyd i ddatblygu systemau a gweithdrefnau ar gyfer dod o hyd i, gweithredu, cefnogi ac adolygu'r defnydd o dechnoleg ddigidol
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill wrth ganfod, gweithredu, cefnogi ac adolygu’r defnydd o dechnoleg ddigidol
- sefydlu manteision defnyddio technoleg ddigidol i wella’r gofal a’r cymorth i unigolion
- cefnogi unigolion ac eraill i gael gafael ar yr wybodaeth, yr adnoddau, neu’r cymorth ymarferol sydd eu hangen arnyn nhw i ddefnyddio technoleg ddigidol
- gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill ar reoli risg a chymryd risgiau cadarnhaol gydag offer digidol, dyfeisiau a phlatfformau ar-lein
- cefnogi unigolion ac eraill i nodi, gosod a chael mynediad at amgylcheddau sy’n cefnogi'r defnydd o dechnoleg ddigidol
- rhoi gweithdrefnau ar waith i gefnogi unigolion ac eraill i archwilio ac ymgyfarwyddo ag offer a dyfeisiau digidol ar eu cyflymder eu hunain
- annog hyder a hunan-barch unigolion ac eraill drwy brofiadau digidol cadarnhaol
- datblygu eich hunaniaeth ddigidol eich hun a hunaniaeth ddigidol eich gweithle
- sefydlu dulliau i unigolion ac eraill adolygu sut mae technoleg ddigidol wedi cwrdd â’u dewisiadau a'u hanghenion, gan nodi a mynd i’r afael â newidiadau
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer defnyddio technoleg ddigidol
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau eich hun i adnabod technoleg ddigidol a’i rhoi ar waith er mwyn gwella’r gofal a’r cymorth i unigolion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut y gall technoleg ddigidol wella’r gofal a’r cymorth i unigolion
- y rôl arweinyddol wrth gefnogi arloesedd ddigidol yn y gweithle
- sut mae cydweithio ag eraill i fanteisio ar y gwahanol arbenigedd a sgiliau sydd ganddyn nhw wrth ddefnyddio technoleg ddigidol
- sut mae creu profiadau digidol cadarnhaol i unigolion drwy gymhwyso egwyddorion sy'n ystyriol o drawma
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth ddefnyddio technoleg ddigidol
- sut mae arwain ar urddas, caredigrwydd a thosturi wrth ddefnyddio technoleg ddigidol i wella’r gofal a’r cymorth
- egwyddorion rheoli risg a chymryd risgiau cadarnhaol gyda thechnoleg ddigidol
- sut mae cydweithio ag unigolion ac eraill i adolygu a rhoi adborth ar y ffordd mae technoleg ddigidol wedi cwrdd â dewisiadau ac anghenion
- sut mae cefnogi niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol drwy wella mynediad at dechnoleg ddigidol a’r defnydd ohoni gan unigolion ac eraill
- sut mae ymateb i broblemau a phryderon ynghylch arloesedd a thechnoleg ddigidol i wella’r gofal a’r cymorth
- sut mae datblygu systemau a phrosesau i gynorthwyo unigolion ac eraill gyda llythrennedd digidol
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am ddiwylliant cadarnhaol ym maes arweinyddiaeth ddigidol, a sut mae adolygu a gwerthuso’r wybodaeth honno
- sut mae defnyddio technoleg ddigidol a data i ddarparu gwybodaeth i wella iechyd, llesiant ac annibyniaeth unigolyn
- y gofynion cofnodi ac adrodd sy’n ymwneud â thechnoleg ddigidol wrth ddarparu gofal
- sut mae gwneud unrhyw atebion digidol yn gynaliadwy, gan gynnwys unrhyw strategaethau ymadael posibl os oes dibyniaeth ar fathau o dechnoleg ddigidol
- theorïau sy’n berthnasol i arwain ar ddefnyddio technoleg ddigidol
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain ar ddefnyddio technoleg ddigidol
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain ar ddefnyddio technoleg ddigidol
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain ar ddefnyddio technoleg ddigidol, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth arwain ar ddefnyddio technoleg ddigidol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD422
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
technoleg digidol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu