Arwain newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
URN: HSCCLD421
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion pan fyddwch yn arwain newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle. Mae’r gofynion yn cynnwys cyfrannu at adnabod potensial ar gyfer datblygu neu adolygu yn y gweithle a chyflwyno gwybodaeth a syniadau i gyfrannu at newidiadau yn y gweithle. Mae hefyd yn cynnwys gweithredu a gwerthuso’r newidiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- arwain o ran adnabod meysydd i’w newid ym mholisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
- adnabod a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun, unigolion ac eraill o ran newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
- gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i gasglu a darparu gwybodaeth hygyrch am feysydd i’w newid yn y gweithle
- datblygu a chynnal systemau cyfathrebu y cytunwyd arnynt ar gyfer newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
- arwain y gwaith o sefydlu pwrpas, nodau ac amcanion ar gyfer newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
- cytuno ag unigolion ac eraill ar y dulliau, yr amserlenni a’r adnoddau sydd eu hangen i gwrdd â’r nodau ac amcanion ar gyfer newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
- gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i nodi unrhyw heriau a sut y byddir yn mynd i’r afael â’r rhain
- arwain y gwaith o roi newidiadau ar waith ym mholisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
- grymuso a chefnogi eraill i ymwneud â newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
- gwerthuso, ar y cyd ag unigolion ac eraill, sut mae newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle wedi cwrdd â’r nodau ac amcanion y cytunwyd arnynt
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i arwain o ran newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- polisïau, gweithdrefnau ac arferion eich gweithle, a’r rhesymau dros newid
- pam ei fod yn bwysig ymateb, a gweithredu ar y newidiadau a nodwyd
- dulliau monitro a gwerthuso gwahanol yn y gweithle
- rolau a chyfrifoldebau unigolion ac eraill o ran newidiadau yn y gweithle, a sut i gydlynu’r rhain
- dulliau ymchwil ar gyfer newidiadau yn y gweithle
- ystod o ddulliau cyflwyno hygyrch ar gyfer gwybodaeth a syniadau am newidiadau yn y gweithle
- sut mae sefydlu pwrpas, nodau ac amcanion ar gyfer newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
- pwysigrwydd grymuso a chefnogi eraill yn ystod y newid
- sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma ym mholisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
- y mathau o wybodaeth, adnoddau, cymorth, a dysg a datblygiad sydd ar gael yn ystod y newid yn y gweithle
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i ddarparu gwybodaeth
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
- sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion ac eraill drwy newid yn y gweithle
- sut mae cydweithio ag unigolion ac eraill i adolygu a gwerthuso newidiadau yn y gweithle, a pham fod hyn yn bwysig
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth roi newidiadau ar waith yn y gweithle
- sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol yn ystod newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
- theorïau sy'n berthnasol i arwain newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i arwain newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu o ran newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD421
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Newidiadau i Bolisiau, Gweithdrefnau ac Arferion, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu