Arwain o ran gofynion rheoliadol yn y gweithle

URN: HSCCLD420
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag arwain y gweithle i gwrdd â gofynion rheoliadol, yn unol â gofynion eich gwlad. Mae’n cynnwys cynllunio ar gyfer arolygiadau, casglu tystiolaeth, adnabod bylchau a chymryd camau addas i gwrdd â gofynion.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adolygu’r safonau rheoliadol y disgwylir i’r gweithle lynu wrthynt  
  2. myfyrio ynghylch pwrpas, disgwyliadau a chwmpas arolygiadau  
  3. sicrhau bod gwybodaeth am arolygiadau ar gael i eraill a chyfathrebu eu pwrpas a’u manteision  
  4. archwilio systemau yn y gweithle i wneud yn siwr eu bod yn cwrdd â safonau rheoliadol
  5. sicrhau bod polisïau’n gyfredol ac mewn lleoliad sy’n hygyrch i bobl eraill  
  6. grymuso eraill i fod yn hyderus o ran eu gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau  
  7. cefnogi eraill i deimlo’n hyderus wrth ddefnyddio iaith sy’n ymwneud â gofynion rheoliadol
  8. esbonio a chefnogi eraill i gwrdd ag amodau cofrestru
  9. gweithio ar y cyd ag eraill i adnabod meysydd i’w datblygu o ran arferion
  10. rhoi cyfle i eraill ddysgu o enghreifftiau o arferion gorau fel rhan o ymdrechion dysgu a datblygu
  11. caniatáu mynediad at adroddiadau arolygu blaenorol fel sail i hunanwerthuso a gwella ymarfer
  12. gweithio ar y cyd i gynllunio’r broses arolygu gydag eraill  
  13. sicrhau bod cynlluniau gofal a chymorth a chynlluniau eraill yn cwrdd â gofynion cyfreithiol ac anghenion unigolion
  14. rhoi gwybod i unigolion ac eraill bod angen ymgymryd ag arolygiad ac y byddir yn ymgynghori â nhw  
  15. ymgymryd ag archwiliadau o’r gweithle a chyfarpar i wneud yn siwr eu bod yn cwrdd â gofynion iechyd a diogelwch  
  16. adolygu gwahanol ffynonellau tystiolaeth i ddangos cydymffurfiaeth â gofynion rheoliadol  
  17. sicrhau cefnogaeth pobl eraill o ran adnabod tystiolaeth sy’n cwrdd â safonau
  18. cynnal tystiolaeth sy’n dangos cydymffurfiaeth â rheoliadau iechyd a diogelwch, iechyd yr amgylchedd, a thân  
  19. sicrhau bod cofnodion ac adroddiadau ar gael  
  20. sicrhau bod systemau rheoli’n cael eu cynnal  
  21. gwerthuso argymhellion o arolygiadau, eu cymharu ag asesiadau blaenorol, a chytuno ag eraill ar gynllun i gwrdd ag argymhellion
  22. mynd ati ag eraill i adnabod meysydd o ymarfer da yn y gweithle
  23. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gwrdd â gofynion rheoliadol
  24. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i arwain o ran gofynion rheoliadol yn y gweithle

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwrpas a disgwyliadau’r arolygiadau rheoliadol  
  2. y safonau rheoliadol y mae’n rhaid i’r gweithle lynu wrthynt  
  3. ble i ddod o hyd i wybodaeth am y gofynion ar gyfer arolygiadau  
  4. pam ei fod yn bwysig cynllunio ar gyfer arolygiadau
  5. pam ei fod yn bwysig rhoi gwybod i unigolion ac eraill am arolygiad  
  6. dylanwad ffactorau sy’n ymwneud â diwylliant a chefndir ar gynnwys unigolion ac eraill mewn arolygiadau
  7. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar brofiadau unigolion ag arolygiadau  
  8. sut mae ymgymryd ag archwiliadau rheolaidd o’r gweithle a chyfarpar i wneud yn siwr eu bod yn cwrdd â gofynion iechyd a diogelwch
  9. pwysigrwydd archwilio systemau yn rheolaidd yn y gweithle i wneud yn siwr eu bod yn cwrdd â safonau rheoliadol
  10. pwysigrwydd cynnal a chadw gwybodaeth gywir am gymwysterau, statws iechyd a chyfrifoldebau pobl eraill  
  11. sut mae sicrhau bod cofnodion ac adroddiadau am unigolion yn cael eu cadw’n gywir ac yn gyfredol
  12. sut mae cadw cofnodion ac adroddiadau cywir am gyfarfodydd a thrafodaethau  
  13. sut mae adolygu gwahanol ffynonellau tystiolaeth i ddangos cydymffurfiaeth â gofynion rheoliadol, a’r gwahanol bolisïau, gweithdrefnau, cofnodion ac adroddiadau a fydd yn rhoi tystiolaeth ar gyfer gofynion rheoliadol  
  14. sut mae darparu tystiolaeth sy’n dangos cydymffurfiaeth â rheoliadau iechyd a diogelwch, iechyd yr amgylchedd, a thân
  15. pwysigrwydd sicrhau bod systemau rheoli ar waith i gynorthwyo â chydymffurfiaeth reoliadol  
  16. strategaethau i gynorthwyo eraill i fagu hyder o ran eu gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau a’u dealltwriaeth o’u rolau a’u cyfrifoldebau unigol mewn perthynas â chydymffurfiaeth reoliadol
  17. sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma yn y gweithle
  18. sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth arwain a rheoli’r gweithle
  19. sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol yn ystod arolygiadau rheoliadol
  20. sut mae cadw polisïau yn gyfredol a sicrhau bod modd cael gafael arnynt yn y gweithle  
  21. dulliau ar gyfer hunanwerthuso yn erbyn gofynion rheoliadol  
  22. sut mae defnyddio adroddiadau arolygu blaenorol i wella ymarfer  
  23. sut mae gwerthuso argymhellion o arolygiadau, eu cymharu ag asesiadau blaenorol, a chytuno ar gynllun ag eraill i gwrdd ag argymhellion  
  24. strategaethau ar gyfer adnabod meysydd o arferion gorau gydag eraill yn y gweithle
  25. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i arwain o ran gofynion rheoliadol  
  26. theorïau sy’n berthnasol i arwain o ran gofynion rheoliadol yn y gweithle
  27. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain o ran gofynion rheoliadol yn y gweithle
  28. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain o ran gofynion rheoliadol yn y gweithle
  29. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth arwain o ran gofynion rheoliadol yn y gweithle

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD420

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gofynion Rheoliadol yn y Gweithle, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu