Arwain gweithle iach a diogel

URN: HSCCLD42
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth arwain gweithle iach a diogel. Mae hyn yn cynnwys modelu, monitro a gwelliant parhaus polisïau, gweithdrefnau ac arferion ym maes iechyd a diogelwch.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun, unigolion ac eraill i gynnal gweithle iach a diogel  
  2. sicrhau mynediad at weithdrefnau iechyd a diogelwch ac asesiadau risg  
  3. rhoi arweiniad a chefnogi eraill i gynnal eu hylendid personol, eu hiechyd a’u hymddangosiad i gefnogi gweithle iach a diogel
  4. hybu diwylliant lle mae ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a llesiant meddyliol yn ogystal â monitro a gweithredu pryderon yn y gweithle  
  5. grymuso eraill i nodi a rhoi gwybod am bryderon yn y gweithle  
  6. rhoi polisïau ac arferion ar waith sy’n lleihau ymddygiad treisgar, bygythiol neu camdriniol
  7. arwain arferion gorau o ran diogelwch yn y gweithle ac annog unigolion ac eraill i wneud hynny  
  8. ymateb i sefyllfaoedd sy’n cyflwyno perygl neu argyfwng iechyd a diogelwch, a rheoli neu gefnogi â’r sefyllfa  
  9. sicrhau y gwrandewir ar unigolion neu eraill sy'n ymwneud â pheryglon neu argyfyngau, a’u bod yn cael cefnogaeth  
  10. rheoli ymarfer pobl eraill i sicrhau bod arferion iach a diogel yn cael eu dilyn yn y gweithle  
  11. cefnogi cyfleoedd i wella er mwyn atal neu leihau peryglon neu argyfyngau
  12. arwain y gwaith o ddarparu cyfleoedd i unigolion gymryd risgiau cadarnhaol, a chefnogi eraill i ddefnyddio gweithdrefnau rheoli risg
  13. datblygu a chynnal cynlluniau ymateb i argyfwng
  14. cefnogi a grymuso eraill i baratoi ar gyfer sefyllfaoedd argyfwng drwy ddarparu mynediad at gynlluniau ymateb i argyfwng ac asesiadau risg unigol
  15. sicrhau bod eraill yn cael mynediad at adnoddau dysgu a datblygu iechyd a diogelwch yn y gweithle
  16. rhoi cyfleoedd i unigolion ac eraill gynllunio, monitro a rhoi adborth ar iechyd a diogelwch y gweithle  
  17. gweithio ar y cyd ag eraill i sicrhau bod unrhyw newidiadau a bennir yn cael eu hadolygu a’u gweithredu lle bo angen
  18. ymchwilio i ddamweiniau yn y gweithle a damweiniau fu bron â digwydd i atal hyn rhag digwydd eto  
  19. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain gweithle iach a diogel, a chefnogi eraill i wneud hynny  
  20. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i arwain gweithle iach a diogel

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae arwain ymarfer o ran hylendid personol, iechyd ac ymddangosiad, a’i rôl mewn gweithle iach a diogel
  2. sut mae arwain mewn perthynas ag arferion atal a rheoli heintiau, a’r defnydd o gyfarpar diogelu personol
  3. sut mae cynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, a phwysigrwydd modelu’r arfer hwn  
  4. achosion cyffredin straen yn y gweithle, a sut i’w rheoli’n effeithiol  
  5. sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu gweithle iach a diogel  
  6. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i arwain gweithle iach a diogel  
  7. sut mae darparu mynediad a chefnogi eraill i ddilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch ac asesiadau risg  
  8. y gweithdrefnau rheoli risg a ddefnyddir i gefnogi unigolion i gymryd risgiau cadarnhaol  
  9. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar asesiadau risg iechyd a diogelwch    
  10. gwahanol fathau o beryglon iechyd a diogelwch a all godi yn eich gweithle, a sut i fynd i’r afael â nhw
  11. gwahanol fathau o argyfyngau a all godi yn eich gweithle, a sut i fynd i’r afael â nhw
  12. sut mae rôl, cyfrifoldebau a lleoliad yn dylanwadu ar y ffordd yr ymdrinnir â pheryglon ac argyfyngau  
  13. sut mae modelu a chefnogi rheoleiddio emosiynol yn ystod cyfnodau o bwysau yn y gweithle
  14. y mathau o gymorth sydd ar gael i unigolion ac eraill sy'n ymwneud â sefyllfaoedd brys a pheryglus
  15. sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma mewn gweithle iach a diogel  
  16. eich cyfrifoldeb arwain i gadw chi eich hun, unigolion ac eraill yn ddiogel yn y gweithle  
  17. dylanwad diwylliant a chefndir ar ganfyddiadau o beryglon iechyd a diogelwch    
  18. y mathau o weithdrefnau diogelwch sydd eu hangen i sicrhau gweithle iach a diogel
  19. y mathau o bryderon diogelwch a sut i ymdrin â nhw  
  20. ystyriaethau allweddol a gweithdrefnau’r gweithle i gefnogi’r rhai sy’n gweithio ar eu pennau eu hunain
  21. strategaethau i atal ymddygiad treisgar, bygythiol neu chamdriniol yn y gweithle
  22. sut mae ymchwilio i ddamweiniau yn y gweithle a damweiniau fu bron â digwydd i atal hyn rhag digwydd eto  
  23. sut mae datblygu a chynnal cynlluniau ymateb i argyfwng, a pham eu bod yn bwysig
  24. sut mae monitro a grymuso eraill i ymgymryd â driliau argyfwng
  25. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain gweithle iach a diogel  
  26. theorïau sy’n berthnasol i arwain gweithle iach a diogel
  27. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain gweithle iach a diogel
  28. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain gweithle iach a diogel    
  29. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu arwain gweithle iach a diogel    
  30. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain gweithle iach a diogel, a sut i fynd i'r afael â hyn
  31. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth arwain gweithle iach a diogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD42

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweithle Iach a Diogel, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu