Arwain asesiadau sicrhau ansawdd

URN: HSCCLD419
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae’r safon hon yn nodi’r meini prawf ar gyfer arwain asesiadau sicrhau ansawdd. Mae’n cynnwys nodi gofynion sicrhau ansawdd y gwasanaeth, asesu’r ddarpariaeth, a rhoi adborth i ddarparwr y gwasanaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. paratoi gwybodaeth berthnasol am y gwasanaeth, gan gynnwys adroddiadau o arolygiadau blaenorol
  2. meithrin perthynas broffesiynol ac ymddiriedaeth â darparwyr gwasanaethau  
  3. sicrhau bod y meini prawf sicrhau ansawdd ar gael i ddarparwyr
  4. esbonio cwmpas a phwrpas arolygiadau a sut bydd y canfyddiadau’n cael eu rhannu a’u cyhoeddi  
  5. arwain a chefnogi darparwyr i hunanwerthuso a gwella’n barhaus
  6. cydweithio â darparwyr i nodi ffynonellau tystiolaeth sy’n gysylltiedig â meini prawf sicrhau ansawdd
  7. gweithio mewn partneriaeth â darparwyr i gynllunio arolygiadau  
  8. cadarnhau bod tystiolaeth sicrhau ansawdd ar gael gan ddarparwyr
  9. arwain y gwaith o asesu a gwerthuso prosesau sicrhau ansawdd  
  10. cadarnhau bod tystiolaeth yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn ddiduedd  
  11. arsylwi ar arferion ac ymgysylltu ag unigolion ac eraill i werthuso eu profiadau a’u barn ynghylch ansawdd y gwasanaeth
  12. nodi bylchau mewn tystiolaeth â darparwyr a dod o hyd i ffynonellau eraill
  13. sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn cydymffurfio â gofynion rheoliadol ac arferion gorau  
  14. nodi meysydd allweddol o arferion sicrhau ansawdd effeithiol, pwyntiau gweithredu a meysydd i’w gwella  
  15. paratoi adroddiadau â chanlyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, arferion gorau, ac argymhellion ar gyfer gwella
  16. rhoi adborth adeiladol y mae modd gweithredu arno i ddarparwyr  
  17. cydweithio â darparwyr i gefnogi gwelliant ac arloesedd a chyfeirio at arferion da  
  18. rhoi cyfleoedd i ddarparwyr ymateb i adroddiadau a gofyn cwestiynau  
  19. cytuno ar amserlenni gyda darparwyr ar gyfer rhoi gwelliannau ar waith a’u hadolygu
  20. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain asesiadau sicrhau ansawdd
  21. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arwain asesiadau sicrhau ansawdd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae sefydlu perthynas broffesiynol ac ymddiriedaeth
  2. sut mae hybu perchnogaeth o ran hunanwerthuso a gwella’n barhaus  
  3. pwysigrwydd hunanwerthuso yn drylwyr, yn systematig ac yn dryloyw
  4. pwysigrwydd cydweithio â darparwyr i nodi ffynonellau tystiolaeth posibl sy’n gysylltiedig â meini prawf sicrhau ansawdd
  5. technegau ar gyfer datrys problemau a meddwl yn flaengar  
  6. egwyddorion asesu risg a rheoli risg wrth arwain asesiadau sicrhau ansawdd  
  7. egwyddorion cymryd risgiau cadarnhaol wrth arwain asesiadau sicrhau ansawdd  
  8. yr ystod a'r math o dystiolaeth y gall darparwyr ei chyflwyno i ddangos sicrwydd ansawdd  
  9. gwerth gwahanol fathau o dystiolaeth o ran dangos meini prawf sicrhau ansawdd  
  10. sut mae cadarnhau bod tystiolaeth yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn ddiduedd
  11. sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi mewn perthynas ag asesiadau sicrhau ansawdd
  12. sut mae arsylwi ar ymarfer heb amharu ar weithgareddau gwaith, unigolion neu eraill  
  13. pwysigrwydd arsylwi ar ymarfer gydag unigolion ac eraill
  14. pwysigrwydd ymgysylltu ag unigolion ac eraill i gael eu barn a gwerthuso ansawdd y gwasanaeth
  15. sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma yn ystod asesiadau sicrhau ansawdd
  16. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol o ran cymorth ar asesiadau sicrhau ansawdd
  17. dulliau gwerthuso ac asesu tystiolaeth yn erbyn meini prawf sicrhau ansawdd  
  18. sut mae gwneud dyfarniadau gwrthrychol sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn erbyn meini prawf sicrhau ansawdd a sut mae blaenoriaethu pwyntiau gweithredu ar gyfer gwella  
  19. pwysigrwydd tynnu sylw at feysydd o ymarfer da
  20. sut mae paratoi adroddiadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth gyda chanlyniadau y mae modd gweithredu arnynt a’u cyflawni
  21. sut mae rhoi adborth adeiladol y mae modd gweithredu arno i ddarparwyr, gan gynnwys meysydd i’w gwella
  22. sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol yn ystod asesiadau sicrhau ansawdd
  23. sut mae ymateb i faterion neu bryderon sy’n gysylltiedig ag asesiadau sicrhau ansawdd  
  24. pwysigrwydd adolygu gwelliannau o fewn amserlenni y cytunir arnynt
  25. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i arwain asesiadau sicrhau ansawdd
  26. theorïau sy’n berthnasol i arwain asesiadau sicrhau ansawdd
  27. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain asesiadau sicrhau ansawdd
  28. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain asesiadau sicrhau ansawdd
  29. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain asesiadau sicrhau ansawdd, a sut i fynd i'r afael â hyn
  30. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth arwain asesiadau sicrhau ansawdd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD419

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Asesiadau Sicrhau Ansawdd, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu