Arwain o ran cynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau

URN: HSCCLD418
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn amlinellu'r gofynion pan fyddwch yn arwain o ran cynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau. Mae’n cynnwys datblygu, cytuno, monitro ac adolygu cynlluniau cyflenwi gwasanaethau ar gyfer gwasanaethau iechyd, cymdeithasol neu ofal arall. Mae hefyd yn cynnwys gwneud unrhyw addasiadau sydd eu hangen i gynlluniau cyflenwi gwasanaethau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i ddatblygu cynlluniau cyflenwi gwasanaethau yn seiliedig ar anghenion dynodedig  
  2. nodi a rheoli anghydbwysedd pŵer wrth hwyluso trafodaethau sy’n ymwneud â chynllunio gwasanaethau  
  3. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau pawb sy’n ymwneud â’r gwaith o ddatblygu ac adolygu cynlluniau cyflenwi gwasanaethau
  4. rhoi hyblygrwydd mewn cynlluniau i gefnogi annibyniaeth, dewisiadau ac anghenion unigolion
  5. arwain y broses o gydbwyso dewisiadau ac anghenion unigolion ag adnoddau gwasanaethau drwy fodelu penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth
  6. cefnogi unigolion i reoli’r gwrthdaro rhwng eu dewisiadau, barn pobl eraill, a pholisïau’r sefydliad
  7. sicrhau bod cynlluniau gwasanaeth yn cynnwys gweithdrefnau monitro ac adolygu  
  8. cyflwyno cynlluniau gwasanaeth mewn fformatau hwylus
  9. adolygu a chadarnhau manylion cynlluniau gwasanaeth gydag unigolion ac eraill
  10. sicrhau bod unigolion yn cadw at gynlluniau cyflenwi gwasanaethau oni bai fod rhesymau wedi’u cofnodi dros beidio â gwneud hynny
  11. sefydlu gweithdrefnau ar gyfer casglu adborth gan unigolion ynghylch dewisiadau ac anghenion sy’n newid  
  12. gwerthuso adborth gan bob ffynhonnell  
  13. gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i adolygu arferion da a nodi’r newidiadau i’w gwneud i’r cynllun cyflenwi gwasanaethau
  14. cefnogi unigolion ac eraill i gytuno ar newidiadau arfaethedig i gynlluniau cyflenwi gwasanaethau, a nodi a mynd i’r afael ag unrhyw heriau
  15. adolygu a chadarnhau manylion y cynlluniau cyflenwi gwasanaethau diwygiedig gydag unigolion ac eraill  
  16. rhoi gwybod i unigolion ac eraill pan fydd newidiadau’n dod i rym a’u heffaith ar wasanaethau
  17. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau
  18. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arwain o ran cynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. rôl eraill o ran cyfrannu at y gwaith o ddatblygu, monitro ac adolygu cynlluniau cyflenwi gwasanaethau
  2. sut mae nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau ar gyfer cynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau
  3. sut mae ystyried dewisiadau ac anghenion holistaidd unigolion wrth ddatblygu, gweithredu ac adolygu cynlluniau cyflenwi gwasanaethau
  4. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol o ran cynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau
  5. dylanwad diwylliant a chefndir o ran cynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau
  6. sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi o ran cynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau
  7. sut mae cydbwyso dewisiadau ac anghenion unigolion â barn pobl eraill  
  8. dulliau i gefnogi unigolion ac eraill i fynegi eu barn, rheoli gwrthdaro, a deall eu dewisiadau a’u hanghenion eu hunain wrth gynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau
  9. sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol wrth gynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau
  10. technegau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i sicrhau bod cynlluniau gwasanaeth yn adlewyrchu eu dewisiadau a’u hanghenion
  11. strategaethau ar gyfer mynd i’r afael â newidiadau posibl mewn adnoddau, gwasanaethau neu amgylchiadau personol
  12. sut mae sicrhau bod cynlluniau cyflenwi gwasanaethau ac adborth yn cael eu cyflwyno mewn fformatau hygyrch
  13. sut mae caffael a chael gafael ar yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer cynlluniau cyflenwi gwasanaethau
  14. dulliau ar gyfer nodi, asesu a rheoli risgiau a chymryd risgiau cadarnhaol wrth gynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau, gan gynnwys pryderon diogelu
  15. sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth gynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau  
  16. strategaethau i gefnogi trefniadau gweithio mewn partneriaeth wrth ddarparu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau cyflenwi gwasanaethau
  17. y camau, y gweithdrefnau, y cofnodion a’r adroddiadau sy’n gysylltiedig â’r gwaith o ddatblygu, gweithredu ac adolygu cynlluniau cyflenwi gwasanaethau
  18. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol wrth gynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau
  19. y gwahaniaethau rhwng cynllunio sy’n cael ei arwain gan anghenion a chynllunio sy’n cael ei arwain gan wasanaeth, a sut mae hyn yn dylanwadu ar yr adolygiad a’r newidiadau i gynlluniau cyflenwi gwasanaethau
  20. yr heriau posibl sy'n gysylltiedig ag adolygu a newid cynlluniau gwasanaeth ar unigolion, eraill a’r gallu i ddarparu gwasanaethau
  21. theorïau sy'n berthnasol i arwain o ran cynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau  
  22. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain o ran cynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau  
  23. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain o ran cynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau
  24. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain o ran cynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau, a sut i fynd i'r afael â hyn
  25. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth arwain o ran cynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD418

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyflenwi Gwasanaethau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu