Arwain trefniadau gweithio mewn partneriaeth

URN: HSCCLD417
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae’r safon hon yn nodi’r gofynion ar gyfer arwain trefniadau gweithio mewn partneriaeth. Bydd angen i chi gydlynu partneriaethau, diffinio rolau a chyfrifoldebau, a sefydlu strwythurau llywodraethu. Byddwch yn nodi bylchau mewn arbenigedd, yn rheoli gwrthdaro, ac yn cefnogi eraill i ddatrys heriau. Bydd sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n ddiogel, cydymffurfedd cyfreithiol, a gwelliant parhaus yn allweddol i ddarparu gwasanaethau effeithiol a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i unigolion.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi bylchau mewn arbenigedd a phenderfynu lle mae angen cydweithio allanol
  2. casglu a dilysu gwybodaeth am bartneriaid posibl i sicrhau arbenigedd a chapasiti  
  3. sefydlu a chysylltu â phartneriaid y mae angen i chi weithio gyda nhw i gyflawni amcanion y gweithle  
  4. adnabod gwerthoedd, ethos, safonau a phwrpas partneriaid eraill
  5. gweithio mewn ffyrdd sy’n parchu sgiliau, gwerthoedd ac arbenigedd amrywiol yr holl bartneriaid  
  6. sefydlu pwrpas a threfniadau gweithio mewn partneriaeth
  7. cytuno ar ganlyniadau a rennir sy’n gysylltiedig â gweithio mewn partneriaeth  
  8. cytuno ar rolau a chyfrifoldebau pob partner i gymryd camau er mwyn cyflawni’r canlyniadau y cytunwyd arnynt  
  9. gweithio ag eraill i fonitro ac adolygu cyflawniadau’r camau a chanlyniadau  
  10. gweithredu lle mae heriau o ran cyflawni camau neu ganlyniadau  
  11. rheoli gwrthdaro rhwng buddiannau ac anghytundebau ag eraill mewn ffyrdd sy'n hybu canlyniadau cadarnhaol  
  12. gweithio ar y cyd i werthuso effeithiolrwydd partneriaethau yn erbyn amcanion y gwasanaeth
  13. gweithio ag unigolion ac eraill i sicrhau bod eu barn a’u dewisiadau’n llywio’r gwaith cynllunio a gwneud penderfyniadau
  14. gweithio ag eraill i nodi meysydd o arferion gorau a’r newidiadau sydd eu hangen i’r trefniadau gweithio mewn partneriaeth  
  15. gweithio ag eraill i ddatblygu cynlluniau gweithredu i wella trefniadau gweithio mewn partneriaeth  
  16. sefydlu trefniadau ar gyfer rhannu gwybodaeth â phartneriaid
  17. gweithio ag unigolion ac eraill i adolygu’r trefniadau rhannu gwybodaeth
  18. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain trefniadau gweithio mewn partneriaeth
  19. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arwain trefniadau gweithio mewn partneriaeth

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwrpas, cylch gwaith a chyfrifoldebau partneriaid  
  2. pwysigrwydd sefydlu trefniadau llywodraethu ar gyfer gweithio mewn partneriaeth  
  3. technegau ar gyfer cytuno ar ganlyniadau a rolau a rennir gyda phartneriaid yn deg
  4. technegau ar gyfer datrys problemau a meddwl yn flaengar wrth weithio mewn partneriaeth
  5. sut mae cyfrannu at ddatblygu systemau, arferion, polisïau a gweithdrefnau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth
  6. dulliau ar gyfer cytuno ar brotocolau a’u hadolygu gydag unigolion ac eraill ar gyfer rhannu gwybodaeth â phartneriaid
  7. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar drefniadau gweithio mewn partneriaeth  
  8. dylanwad diwylliant a chefndir ar drefniadau gweithio mewn partneriaeth  
  9. dulliau ar gyfer cefnogi eraill i weithio gydag unigolion a’u cefnogi
  10. sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi mewn trefniadau gweithio mewn partneriaeth
  11. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth weithio mewn partneriaeth
  12. sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma mewn trefniadau gweithio mewn partneriaeth
  13. strategaethau ar gyfer rheoli gwrthdaro rhwng buddiannau, materion a phryderon gyda phartneriaid
  14. dulliau ar gyfer gwerthuso effeithiolrwydd partneriaethau yn erbyn amcanion y gwasanaeth
  15. dulliau ar gyfer monitro ac adolygu cyflawniad camau a chanlyniadau wrth weithio mewn partneriaeth
  16. dulliau ar gyfer nodi meysydd o arferion gorau a meysydd i’w gwella wrth weithio mewn partneriaeth
  17. sut mae datblygu cynlluniau gweithredu i wella trefniadau gweithio mewn partneriaeth
  18. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol mewn trefniadau gweithio mewn partneriaeth
  19. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain trefniadau gweithio mewn partneriaeth
  20. theorïau sy'n berthnasol i arwain trefniadau gweithio mewn partneriaeth
  21. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain trefniadau gweithio mewn partneriaeth
  22. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain trefniadau gweithio mewn partneriaeth
  23. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain trefniadau gweithio mewn partneriaeth, a sut i fynd i'r afael â hyn
  24. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth weithio mewn partneriaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD417

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Arwain trefniadau, Gweithio mewn partneriaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu