Cydweithio ag eraill er mwyn cefnogi unigolion
URN: HSCCLD416
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gydweithio ag eraill er mwyn cefnogi unigolion. Mae hyn yn cynnwys hybu cyfraniad pobl eraill o ran cefnogi unigolion, gan weithio gyda nhw i gyflawni canlyniadau a'u grymuso i adolygu effeithiolrwydd y cymorth maent yn ei roi.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun, eraill ac unigolion wrth gydweithio
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gytuno ar yr agweddau o ofal neu gymorth a fydd yn cael eu cynnwys o fewn y trefniadau cydweithio
- arwain ar y gwaith o ddarparu gwybodaeth i gefnogi eraill i gwrdd â dewisiadau ac anghenion unigolion
- grymuso eraill i gael gafael ar adnoddau, yn ogystal â rhoi cefnogaeth a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i gyfrannu at ganlyniadau unigolion
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi a mynd i’r afael ag unrhyw gwestiynau, pryderon neu risgiau wrth gydweithio
- hybu hawliau unigolion ac eraill i ofyn cwestiynau, gwneud penderfyniadau neu newid eu meddyliau
- grymuso eraill i gymryd rhan yn y gofal neu’r cymorth y cytunwyd arno ar gyfer unigolion
- rhoi cyfleoedd i unigolion ac eraill roi adborth ar sut mae’r trefniadau cydweithio yn cwrdd â dewisiadau ac anghenion unigolion
- grymuso unigolion ac eraill i adolygu a diweddaru canlyniadau cydweithio a mynd i’r afael ag unrhyw bryderon
- cymryd cyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw newidiadau sydd eu hangen i’r trefniadau cydweithio yn cael eu rhoi ar waith
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cydweithio ag eraill er mwyn cefnogi unigolion
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth gydweithio ag eraill er mwyn cefnogi unigolion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau wrth gydweithio ag eraill er mwyn cefnogi unigolion
- sut mae datblygu diwylliant o gydweithio yn y gweithle
- pwysigrwydd grymuso eraill mewn cyfleoedd gofal a chymorth
- sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth gydweithio ag eraill er mwyn cefnogi unigolion
- y mathau o wybodaeth, adnoddau, cymorth a datblygiad sgiliau sydd ar gael, a sut i’w darparu a’u defnyddio
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi cydweithio ag eraill
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol wrth gydweithio ag eraill er mwyn cefnogi unigolion
- dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd wrth weithio ag eraill i gefnogi unigolion
- pwysigrwydd cytuno ar ganlyniadau gydag unigolion ac eraill
- sut mae cefnogi eraill i gwrdd â chanlyniadau, dewisiadau ac anghenion unigolion
- sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gydweithio ag eraill er mwyn cefnogi unigolion
- ffyrdd o gydnabod cyfraniadau cadarnhaol pobl eraill
- agweddau ar berthnasoedd sy'n effeithio ar y gallu i gyflawni canlyniadau
- sut mae cydweithio ag unigolion ac eraill i adolygu a gwerthuso cynnydd, a pham fod hyn yn bwysig
- sut mae ymateb i broblemau, gwrthdaro ac anghytundebau a allai godi wrth gydweithio ag eraill er mwyn cefnogi unigolion
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth gydweithio
- hawliau unigolion ac eraill i ofyn cwestiynau, gwneud penderfyniadau neu newid eu meddyliau, a phwysigrwydd cefnogi hyn
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cydweithio ag eraill er mwyn cefnogi unigolion
- theorïau sy'n berthnasol i gydweithio ag eraill er mwyn cefnogi unigolion
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cydweithio ag eraill er mwyn cefnogi unigolion
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gydweithio ag eraill er mwyn cefnogi unigolion
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gydweithio ag eraill er mwyn cefnogi unigolion, a sut i fynd i’r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gydweithio ag eraill er mwyn cefnogi unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD416
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cydweithio, Cefnogi Unigolion, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu