Arwain y gwaith o ddatblygu cynlluniau rheoli risg
URN: HSCCLD415
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion pan fyddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu cynlluniau rheoli risg i gefnogi annibyniaeth unigolion. Mae hyn yn cynnwys gweithio ag unigolion i gynnal asesiadau risg ac i ddatblygu cynlluniau rheoli risg. Mae’n cynnwys grymuso eraill i nodi a gweithredu newidiadau i gynlluniau rheoli risg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am unigolion ac asesiadau risg neu gynlluniau rheoli cyfredol
- cynorthwyo unigolion ac eraill i ddeall y broses asesu risg a phwrpas y broses honno
- grymuso unigolion i nodi a chael gafael ar yr wybodaeth, yr adnoddau neu’r cymorth sydd eu hangen arnynt i gymryd rhan mewn asesiadau risg i gefnogi eu hannibyniaeth
- gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i nodi’r risgiau i’w hasesu i gefnogi annibyniaeth
- cynnal asesiadau mewn ffordd sy’n hybu cyfranogiad ac annibyniaeth unigolion
- gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i gytuno ar gynlluniau rheoli risg
- trafod canlyniad cadarnhaol pan y gall dewisiadau unigolion o ran rheoli risg gyflwyno heriau
- rhoi cynlluniau rheoli risg ar waith a chefnogi unigolion ac eraill i’w dilyn
- arwain y gwaith o ddatblygu systemau a gweithdrefnau i gefnogi unigolion ac eraill i adolygu a rhoi gwybod am newidiadau sy’n cael eu nodi ar gyfer y cynlluniau rheoli risg
- gwerthuso’r wybodaeth a gafodd ei hadrodd am gynlluniau rheoli risg, a chefnogi pobl eraill i wneud hynny
- gweithio ar y cyd i gytuno ar unrhyw newidiadau i asesiadau risg a chynlluniau rheoli, a nodi sut y bydd y rhain yn cael eu hadolygu a’u rhoi ar waith
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer asesiadau risg a chynlluniau rheoli
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i arwain y gwaith o ddatblygu cynlluniau rheoli risg
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion, ac adolygu a gwerthuso’r wybodaeth honno, yn ogystal ag asesiadau risg neu gynlluniau rheoli cyfredol i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau gwybodus
- sut mae annog a chefnogi cyfranogiad ac annibyniaeth unigolion yn ystod asesiadau risg
- rôl perthnasoedd a rhwydweithiau yn y gwaith o gynllunio trefniadau rheoli risg
- sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi yn y broses asesu risg
- sut mae cerfnogi rheoleiddio emosiynol yn ystod y broses asesu risg
- y gwahanol fathau o wybodaeth, adnoddau a chymorth a allai helpu unigolion yn ystod asesiadau risg, a sut i sicrhau eu bod yn hygyrch
- gwahanol fathau o asesiadau risg a chynlluniau rheoli personol
- sut mae cefnogi niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol mewn cynlluniau asesu risg
- dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd ar gymryd risgiau
- sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i asesu risgiau gydag unigolion
- sut mae datblygu systemau a gweithdrefnau i gefnogi unigolion ac eraill i roi gwybod am newidiadau i gynlluniau rheoli risg
- y ddyletswydd foesol a moesegol i ddiogelu unigolion ac eraill, ac i amddiffyn y cyhoedd yn ehangach, a rôl cynlluniau rheoli risg yn hyn o beth
- ffyrdd o rymuso eraill i nodi newidiadau o ran unigolion yn cymryd risgiau
- sut mae gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i adolygu a rhoi adborth ar asesiadau risg a chynlluniau rheoli
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol mewn perthynas â’r gwaith o ddatblygu cynlluniau rheoli risg
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer datblygu cynlluniau rheoli risg
- theorïau sy’n berthnasol i arwain y gwaith o ddatblygu cynlluniau rheoli risg
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain y gwaith o ddatblygu cynlluniau rheoli risg
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth ddatblygu cynlluniau rheoli risg
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi yn ystod y gwaith o ddatblygu cynlluniau rheoli risg
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i ddatblygu cynlluniau rheoli risg
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain y gwaith o ddatblygu cynlluniau rheoli risg, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau rheoli risg
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD415
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Datblygu Cynlluniau Rheoli Risg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu