Arwain y broses asesu gydag unigolion
URN: HSCCLD414
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion pan fyddwch yn arwain y broses asesu gydag unigolion. Mae hyn yn cynnwys gweithio ar y cyd ag unigolion i gynnal asesiad manwl o’u dewisiadau a’u hanghenion a’r canlyniadau y maent yn dymuno’u cyflawni. Mae’n cynnwys grymuso eraill i nodi a gweithredu newidiadau o ran dewisiadau ac anghenion unigolion.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am unigolion
- cefnogi unigolion ac eraill i ddeall y broses asesu a phwrpas y broses honno
- gwrando ac ymateb mewn ffyrdd sy'n dangos eich bod yn gwerthfawrogi ac yn parchu unigolion
- grymuso unigolion i nodi a chael gafael ar yr wybodaeth, yr adnoddau neu’r cymorth sydd eu hangen arnynt i gymryd rhan yn y broses asesu
- gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i nodi eu dewisiadau a’r anghenion i’w hasesu, a pha ganlyniadau maent yn dymuno’u cyflawni
- cynnal asesiadau mewn ffordd sy’n cefnogi cyfranogiad ac annibyniaeth unigolion
- gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i gytuno ar y canlyniadau maent yn dymuno’u cyflawni yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir
- mynd ati gydag unigolion i nodi sut y gallant ddefnyddio ac adeiladu ar eu cryfderau a’u sgiliau i gyflawni eu canlyniadau
- trafod atebion mewn partneriaeth ag unigolion pan fydd modd i ganlyniadau gyflwyno heriau
- arwain y gwaith o ddatblygu systemau a gweithdrefnau i gefnogi unigolion ac eraill i roi gwybod am newidiadau i’r canlyniadau
- gweithio mewn partneriaeth â phawb sy'n rhan o’r gwaith i gytuno ar unrhyw newidiadau sydd eu hangen i'r canlyniadau asesu a sut y bydd y rhain yn cael eu rhoi ar waith
- cydnabod llwyddiannau a chyflawniadau unigolion tuag at eu canlyniadau
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain y broses asesu gydag unigolion
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a’ch cyfrifoldebau wrth gaffael gwasanaethau ar gyfer unigolion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- rôl perthnasoedd a rhwydweithiau o ran cwrdd â chanlyniadau unigolion
- dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar ddewisiadau ac anghenion unigolion
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion i gefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus ar gyfer asesiadau, a sut mae adolygu a gwerthuso'r wybodaeth honno
- sut mae annog a chefnogi cyfranogiad ac annibyniaeth unigolion yn ystod asesiadau
- y gwahanol fathau o wybodaeth, adnoddau a chymorth a allai helpu unigolion yn ystod asesiad, a sut i sicrhau eu bod yn hygyrch
- gwahanol fathau o asesiadau personol manwl
- sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth asesu unigolion
- sut mae cefnogi niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol unigolion yn y broses asesu
- dulliau o annog ac ysgogi unigolion i ddefnyddio ac adeiladu ar eu cryfderau a’u sgiliau i gyflawni eu canlyniadau
- sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi yn y broses asesu
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol yn ystod y broses asesu
- sut mae monitro canlyniadau asesiadau yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir
- egwyddorion asesiadau risg a rheoli risgiau
- sut mae datblygu systemau a gweithdrefnau i gefnogi unigolion ac eraill i roi gwybod am newidiadau i ganlyniadau
- sut mae gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i adolygu a rhoi adborth ar ganlyniadau a newidiadau
- sut mae grymuso eraill i nodi newidiadau yng nghanlyniadau unigolion
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol yn ystod y broses asesu
- gofynion o ran cofnodion ac adroddiadau ar gyfer arwain y broses asesu
- theorïau sy’n berthnasol i arwain y broses asesu gydag unigolion
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain y broses asesu gydag unigolion
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain y broses asesu gydag unigolion
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi yn ystod y broses asesu gydag unigolion
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i arwain y broses asesu gydag unigolion
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain y broses asesu gydag unigolion, a sut i fynd i’r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth arwain y broses asesu gydag unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD414
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Y Broses Asesu, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu