Arwain y gwaith o hybu cyfleoedd tai i unigolion

URN: HSCCLD413
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth arwain y gwaith o hybu cyfleoedd tai i unigolion. Mae hyn yn cynnwys hybu dewisiadau ac anghenion unigolion o ran tai yn ogystal â thrafod a chytuno ar ddarpariaeth tai gyda nhw ac ar eu cyfer.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i hybu cyfleoedd tai i unigolion  
  2. arwain y gwaith o ddarparu gwybodaeth am fanteision cyfleoedd tai ac effaith gwahaniaethu, gorthrwm ac allgáu cymdeithasol ar unigolion  
  3. gweithio ar y cyd ag eraill sy’n darparu cyfleoedd tai i nodi a chadarnhau’r hyn y gallant ei gynnig, y cyfleoedd y gallant eu darparu, a’r cyfyngiadau neu’r addasiadau rhesymol sydd eu hangen  
  4. grymuso eraill i weithio mewn partneriaeth ag unigolion i adolygu a nodi’r opsiynau tai sydd ar gael i gwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion
  5. darparu cyfleoedd i unigolion ac eraill werthuso’r manteision posibl, a nodi’r heriau i’r opsiynau tai a mynd i’r afael â nhw
  6. cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod asesiadau risg yn cael eu hadolygu neu eu cwblhau ar gyfer opsiynau tai penodol  
  7. gweithio ar y cyd ag eraill i gynorthwyo unigolion i sicrhau a chael mynediad at gyfleoedd tai  
  8. sicrhau bod systemau ar waith i gynorthwyo â’r gwaith o werthuso’r broses o gael mynediad at gyfleoedd tai  
  9. sicrhau bod adborth yn cael ei adolygu, gan nodi arferion da a mynd i’r afael ag unrhyw newidiadau
  10. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain y gwaith o hybu cyfleoedd tai i unigolion
  11. myfyrio am sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a’ch cyfrifoldebau wrth gaffael gwasanaethau ar gyfer unigolion

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. rôl cyfleoedd tai ar lesiant unigolion
  2. effaith allgáu, a gorthrwm cymdeithasol a strwythurol, ar gyfleoedd tai i unigolion    
  3. cyfleoedd tai lleol a chenedlaethol, sut i gael gafael arnynt, a’r manteision i unigolion a chymdeithas  
  4. sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth hybu cyfleoedd tai i unigolion  
  5. sut mae defnyddio ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth i arwain y gwaith o hybu cyfleoedd tai  
  6. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i hybu cyfleoedd tai
  7. dulliau i gyflwyno gwybodaeth er mwyn annog diddordeb mewn cyfleoedd tai
  8. sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu cyfleoedd tai i unigolion  
  9. sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol wrth hybu cyfleoedd tai    
  10. sut mae grymuso eraill i nodi manteision a heriau cael gafael ar gyfleoedd tai i unigolion, a sut i fynd i’r afael â nhw  
  11. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y cyfleoedd tai a ddarperir  
  12. sut mae cefnogi eraill i ystyried dylanwad diwylliant a chefndir ar ddewis cyfleoedd tai  
  13. sut mae cynorthwyo eraill i asesu’r risgiau i unigolion wrth gael gafael ar gyfleoedd tai ac i gefnogi cymryd risgiau cadarnhaol
  14. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen wrth arwain y gwaith o hybu cyfleoedd tai i unigolion
  15. theorïau sy’n berthnasol i arwain y gwaith o hybu cyfleoedd tai i unigolion      
  16. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain y gwaith o hybu cyfleoedd tai i unigolion  
  17. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain y gwaith o hybu cyfleoedd tai i unigolion
  18. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i arwain y gwaith o hybu cyfleoedd tai i unigolion  
  19. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain y gwaith o hybu cyfleoedd tai i unigolion, a sut i fynd i’r afael â hyn
  20. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth arwain y gwaith o hybu cyfleoedd tai i unigolion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD413

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Hybu Cyfleoedd Tai, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu