Arwain y gwaith o ddarparu gwybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
URN: HSCCLD412
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth arwain y gwaith o ddarparu gwybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau. Rhaid i chi allu canfod, cynnal a darparu gwybodaeth am yr amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i nodi gwasanaethau a chyfleusterau a fydd yn mynd i’r afael â chanlyniadau, dewisiadau ac anghenion
- arwain y gwaith o ddarparu gwybodaeth ac adnoddau hygyrch i gefnogi unigolion ac eraill i adolygu gwasanaethau a chyfleusterau
- datblygu systemau ar gyfer rheoli gwybodaeth sy'n ymwneud â gwasanaethau a chyfleusterau
- monitro’r gwaith o ddewis a defnyddio gwasanaethau a chyfleusterau
- sicrhau bod asesiadau risg yn cael eu hadolygu neu eu cwblhau, a chefnogi unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau a chyfleusterau i gymryd risgiau cadarnhaol
- caffael a chael gafael ar adnoddau i gefnogi unigolion ac eraill i ddefnyddio gwasanaethau a chyfleusterau
- sicrhau bod systemau ar waith i gefnogi â’r gwaith o werthuso gwasanaethau a chyfleusterau
- sicrhau y rhoddir adborth i wasanaethau a chyfleusterau, gan nodi arferion da ac unrhyw newidiadau y bydd angen mynd i’r afael â nhw
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain y gwaith o ddarparu gwybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arwain y gwaith o ddarparu gwybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr ystod o wasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael, a pham y gall fod angen i unigolion ac eraill ddefnyddio gwasanaethau a chyfleusterau
- dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar ddewis gwasanaethau a chyfleusterau ar gyfer unigolion ac eraill
- mathau o systemau i reoli gwybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau, a chyflwyno’r wybodaeth honno
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y ddarpariaeth o wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- sut mae cefnogi eraill i asesu risgiau a chefnogi unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau a chyfleusterau i gymryd risgiau cadarnhaol
- sut mae darparu cyfleoedd i adolygu a gwerthuso gwasanaethau a chyfleusterau
- sut mae darparu adborth gwerthuso i wasanaethau a chyfleusterau, a pham fod hyn yn bwysig
- sut mae arwain ar ddefnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion ac eraill i gael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau, a’u defnyddio
- sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion ac eraill i gael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau, a’u defnyddio
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth ddarparu gwybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- rôl gwasanaethau a chyfleusterau mewn perthynas â llesiant unigolion ac eraill
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain y gwaith o ddarparu gwybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- theorïau sy’n berthnasol i’r gwaith o ddarparu gwybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain y gwaith o ddarparu gwybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain y gwaith o ddarparu gwybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i ddarparu gwybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain y gwaith o ddarparu gwybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth arwain y gwaith o ddarparu gwybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD412
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Darparu Gwybodaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu