Rheoli ceisiadau am wasanaethau iechyd, cymdeithasol neu wasanaethau gofal eraill
URN: HSCCLD411
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion pan fyddwch yn rheoli ceisiadau am wasanaethau iechyd, cymdeithasol neu wasanaethau gofal eraill a ddarperir gan y gweithle. Mae hyn yn cynnwys hybu’r gwasanaethau a gynigir gan y gweithle, gwerthuso’r gallu i ddarparu gwasanaethau penodol ar gyfer unigolion, a phrosesu ceisiadau llwyddiannus ac aflwyddiannus am wasanaethau iechyd, cymdeithasol neu wasanaethau gofal eraill.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- darparu gwybodaeth gyfredol mewn fformatau hygyrch i gefnogi unigolion ac eraill i adolygu’r gwasanaethau y gall y gweithle eu darparu
- cynnal rhwydweithiau a chysylltu ag eraill i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y gwasanaethau y gall y gweithle eu darparu
- trefnu apwyntiadau ac ymweliadau ar gyfer unigolion ac eraill â’r gweithle
- cefnogi unigolion ac eraill i nodi a thrafod y gwasanaethau sy’n ofynnol, brys y ceisiadau am wasanaeth, a gofyn cwestiynau
- trefnu gwerthusiadau ar sail anghenion a risgiau
- rhoi gwybodaeth i unigolion ac eraill am y broses werthuso a sut a phryd y bydd canlyniadau’r gwerthusiadau’n cael eu rhannu
- gwerthuso ceisiadau i benderfynu a oes modd darparu gwasanaethau, gan ystyried yr adnoddau sydd ar gael
- rhoi gwybod i unigolion ac eraill a oes modd i’r gweithle ddarparu’r gwasanaethau sy’n ofynnol, a thrafod yr opsiynau neu’r gwasanaethau eraill sydd ar gael
- gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i nodi canlyniadau yn unol â’u dewisiadau a’u hanghenion
- nodi a mynd i’r afael â’r risgiau sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau
- nodi amserlenni, adnoddau a mewnbwn arbenigol ar gyfer darparu gwasanaethau, a chytuno arnynt
- sefydlu systemau i gefnogi unigolion ac eraill i roi adborth ynghylch ansawdd gwasanaethau, nodi arferion da, a’r newidiadau sy’n ofynnol
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer rheoli ceisiadau am wasanaethau iechyd, cymdeithasol neu wasanaethau gofal eraill
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a’ch cyfrifoldebau wrth gaffael gwasanaethau ar gyfer unigolion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwasanaethau iechyd, cymdeithasol neu wasanaethau gofal eraill y gall y gweithle eu darparu
- sut mae sicrhau bod gwybodaeth ar gael i bawb
- yr adnoddau sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau iechyd, cymdeithasol neu wasanaethau gofal eraill sy’n hyblyg ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn
- dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar geisiadau am wasanaethau ar gyfer unigolion
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar geisiadau am wasanaethau ar gyfer unigolion
- dulliau o hybu’r gweithle a’r gwasanaethau mae’n eu cynnig
- sut mae trefnu a chydlynu ymweliadau â’r gweithle
- sut mae paratoi a chefnogi ymweliadau llwyddiannus â’r gweithle
- sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth reoli cais am wasanaethau iechyd, cymdeithasol neu wasanaethau gofal eraill
- ffactorau i'w hystyried wrth dderbyn neu wrthod ceisiadau am wasanaethau
- pam ei fod yn bwysig rhoi gwybod i unigolion ac eraill ar unwaith os na ellir darparu gwasanaethau, a gwneud hynny mewn ffordd sensitif
- sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth reoli ceisiadau am wasanaethau iechyd, cymdeithasol neu wasanaethau gofal eraill
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol yn ystod ceisiadau am wasanaethau iechyd, cymdeithasol neu wasanaethau gofal eraill
- y gweithdrefnau, y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i brosesu ceisiadau sydd wedi cael eu derbyn neu eu gwrthod
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i reoli ceisiadau am wasanaethau iechyd, cymdeithasol neu wasanaethau gofal eraill
- sut mae nodi a mynd i’r afael â’r risgiau sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau
- sut mae derbyn, monitro a gwerthuso adborth am wasanaethau
- theorïau sy’n berthnasol i reoli ceisiadau am wasanaethau iechyd, cymdeithasol neu wasanaethau gofal eraill
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer rheoli ceisiadau am wasanaethau iechyd, cymdeithasol neu wasanaethau gofal eraill
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth reoli ceisiadau am wasanaethau iechyd, cymdeithasol neu wasanaethau gofal eraill
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i reoli ceisiadau am wasanaethau iechyd, cymdeithasol neu wasanaethau gofal eraill
- sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth reoli ceisiadau am wasanaethau iechyd, cymdeithasol neu wasanaethau gofal eraill, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth reoli ceisiadau am wasanaethau iechyd, cymdeithasol neu wasanaethau gofal eraill
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD411
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Rheoli ceisiadau am wasanaethau iechyd, cymdeithasol neu wasanaethau gofal eraill, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu