Caffael gwasanaethau ar gyfer unigolion

URN: HSCCLD410
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofyniad pan fyddwch yn caffael gwasanaethau iechyd, cymdeithasol neu ofal penodol arall i gwrdd ag anghenion unigolion. Mae hyn yn cynnwys manylu ar wasanaethau i gyflawni’r canlyniadau sydd eu hangen gan unigolion yn ogystal â thrafod a chytuno ar gontractau ar gyfer gwasanaethau penodol. Mae hefyd yn cynnwys monitro a gwerthuso ansawdd y gwasanaethau a ddarperir.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am ofynion penodol unigolion o ran gwasanaethau ynghyd â’r canlyniadau i’w cyflawni  
  2. sicrhau nad oes darpariaeth gwasanaeth yn yr ardal yn barod sy’n cwrdd ag anghenion unigolion  
  3. llunio manylebau ar gyfer y gwasanaethau sydd eu hangen ar unigolion  
  4. sicrhau bod y manylebau’n cynnwys nodau ac amcanion a sut y bydd y gwasanaethau’n cael eu monitro a'u gwerthuso  
  5. sicrhau bod y manylebau’n adlewyrchu arferion gorau wrth gomisiynu a darparu gwasanaethau  
  6. trafod manylion y contractau â darparwyr i sicrhau bod y gwasanaethau’n cynnig gwerth da am arian  
  7. cynnig contractau ar gyfer darparu gwasanaethau i ddarparwyr sydd â chynigion sy’n cwrdd â’r manylebau  
  8. sicrhau bod y contractau’n cynnwys nodau ac amcanion a sut y bydd y gwasanaethau’n cael eu monitro a'u gwerthuso  
  9. sicrhau bod contractau’n cynnwys cerrig milltir a’r taliadau i’w gwneud i ddarparwyr  
  10. sicrhau bod contractau’n cynnwys rolau a chyfrifoldebau pob parti  
  11. sicrhau bod contractau’n cynnwys y camau i’w cymryd os bydd darparwyr yn methu â darparu gwasanaethau yn unol â’r manylebau  
  12. monitro a gwerthuso ansawdd y gwasanaethau a ddarperir yn unol â chontractau  
  13. trafod canfyddiadau’r gwerthusiad gyda darparwyr perthnasol  
  14. nodi arferion da a chytuno arnynt gyda darparwyr a sut y gellir gwella’r contractau presennol  
  15. argymell newidiadau i gontractau’r dyfodol er mwyn gwella effeithiolrwydd gwasanaethau  
  16. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer caffael gwasanaethau ar gyfer unigolion
  17. .Myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a’ch cyfrifoldebau wrth gaffael gwasanaethau ar gyfer unigolion

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr ystod o wasanaethau sydd ar gael, a’r hyn maent yn ei gynnig
  2. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y gwasanaethau sy’n ofynnol gan unigolion
  3. dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar y gwasanaethau sy’n ofynnol gan unigolion
  4. sut mae cynnwys unigolion yn y gwaith o gaffael, monitro a gwerthuso gwasanaethau i gwrdd â’u dewisiadau, eu hanghenion a’u canlyniadau
  5. sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth gaffael gwasanaethau ar gyfer unigolion  
  6. sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gaffael gwasanaethau ar gyfer unigolion
  7. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth gaffael, monitro a gwerthuso gwasanaethau  
  8. ffyrdd o fonitro a gwerthuso amcanion a lefelau gwasanaeth yn effeithiol
  9. pwysigrwydd cael meini prawf clir, sut i’w creu a gwerthuso yn eu herbyn
  10. yr hyn y dylid ei gynnwys ym manylebau’r gwasanaeth, dogfennau tendro, a chontractau
  11. sut mae creu manylebau’r gwasanaeth, dogfennau tendro, a chontractau
  12. lefel y manylder sydd ei angen ar ddarparwyr i lunio tendr cywir
  13. gweithdrefnau caffael
  14.  telerau ac amodau contractau â darparwyr gwasanaeth
  15. sut mae defnyddio gwybodaeth fonitro i asesu a yw darparwyr yn cwrdd â gofynion y contract
  16. y camau unioni y gellir eu cymryd os bydd darparwyr yn methu â chwrdd â gofynion y contract
  17. arferion da a gydnabyddir wrth gomisiynu a darparu gwasanaethau
  18. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gaffael gwasanaethau ar gyfer unigolion
  19. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer caffael gwasanaethau ar gyfer unigolion
  20. theorïau sy’n berthnasol i gaffael gwasanaethau ar gyfer unigolion
  21. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer caffael gwasanaethau ar gyfer unigolion
  22. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gaffael gwasanaethau ar gyfer unigolion
  23. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gaffael gwasanaethau ar gyfer unigolion
  24. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gaffael gwasanaethau ar gyfer unigolion, a sut i fynd i’r afael â hyn
  25. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gaffael gwasanaethau ar gyfer unigolion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD410 

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Caffael gwasanaethau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu