Arwain cyfathrebu effeithiol

URN: HSCCLD41
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth arwain systemau ac ymarfer effeithiol ar gyfer cyfathrebu. Mae hyn yn cynnwys arwain ymarfer sy’n hybu cyfathrebu effeithiol ac addasu eich dulliau cyfathrebu eich hun mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.  Mae hefyd yn cynnwys arwain y gwaith o weithredu a gwella systemau sy’n hybu cyfathrebu effeithiol. Mae’r safon hefyd yn nodi sut i reoli a dosbarthu cofnodion ac adroddiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. arwain ymarfer sy'n galluogi unigolion ac eraill i gyfathrebu eu dewisiadau a’u hanghenion  
  2. addasu eich ffyrdd o weithio i gwrdd â dewisiadau ac anghenion unigolion ac eraill wrth gyfathrebu
  3. dylunio a threfnu amgylcheddau i gefnogi cyfathrebu effeithiol ar gyfer unigolion ac eraill  
  4. caffael a chefnogi eraill i ddefnyddio adnoddau, cymhorthion, dyfeisiau ac adnoddau digidol ar gyfer cyfathrebu
  5. hybu diwylliant sy'n galluogi unigolion ac eraill i drafod gwahanol safbwyntiau, barn, a rhannu pryderon  
  6. gwerthuso ffactorau sy'n effeithio ar gyfathrebu effeithiol yn y gweithle  
  7. datblygu a defnyddio amrywiaeth o systemau cyfathrebu  
  8. grymuso unigolion ac eraill i gyfrannu at y gwaith o werthuso systemau cyfathrebu  
  9. gwerthuso pa mor effeithiol mae systemau cyfathrebu, a nodi’r newidiadau sydd eu hangen
  10. gweithio ar y cyd i roi newidiadau ar waith sy’n seiliedig ar wybodaeth y gwerthusiad a thystiolaeth arall  
  11. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cyfathrebu effeithiol, a chefnogi pobl eraill i wneud hynny  
  12. darparu tystiolaeth ar gyfer eich dyfarniadau a’ch penderfyniadau mewn cofnodion ac adroddiadau  
  13. sicrhau bod cofnodion ac adroddiadau mewn fformat hygyrch ac yn cael eu storio yn unol â gofynion y gweithle
  14. cadarnhau cywirdeb cofnodion ac adroddiadau  
  15. cael gafael ar unrhyw lofnod, caniatâd neu drefniant sy’n ofynnol i ddefnyddio, storio a rhannu cofnodion ac adroddiadau
  16. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i arwain cyfathrebu effeithiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae sicrhau mynediad at wybodaeth i gefnogi unigolion ac eraill i gyfathrebu
  2. natur holistaidd datblygiad iaith ac anghenion cyfathrebu
  3. sut mae gwahaniaethau a phrofiadau yn gallu effeithio ar y ffordd mae unigolion yn cyfathrebu  
  4. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar anghenion cyfathrebu ac iaith unigolion ac eraill  
  5. dylanwad diwylliant a chefndir ar sgiliau cyfathrebu llafar a di-lafar unigolion ac eraill    
  6. ffactorau sy'n gallu cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar sgiliau cyfathrebu a datblygiad iaith  
  7. sut mae cyfathrebu’n gallu effeithio ar hunaniaeth a hunan-barch unigolion  
  8. sut mae cefnogi eraill gyda’r camau i'w cymryd os yw cyfathrebu'n cyfleu straen neu drallod  
  9. sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gyfathrebu’n effeithiol    
  10. sut mae cefnogi eraill â dulliau a thechnegau i hybu sgiliau cyfathrebu i alluogi unigolion i fynegi eu hanghenion, eu barn a'u dewisiadau  
  11. sut mae caffael gwahanol fathau o gymhorthion, dyfeisiau ac adnoddau digidol i wella cyfathrebu  
  12. sut mae dylunio amgylcheddau i gyfathrebu yn mor effeithiol â phosibl  
  13. sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i hybu cyfathrebu effeithiol  
  14. sut mae cefnogi eraill i adnabod ymddygiad fel ffordd o gyfathrebu  
  15. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth gyfathrebu  
  16. rôl rhyngweithio wrth ddatblygu a chefnogi iaith a chyfathrebu  
  17. pwysigrwydd chwarae neu weithgareddau o ran cefnogi cyfathrebu effeithiol
  18. sut mae cynorthwyo eraill ag egwyddorion gwrando gweithredol
  19. y mathau o systemau cyfathrebu sy’n cael eu defnyddio yn y gweithle
  20. sut mae adolygu gwybodaeth a chael gafael ar gymorth i ddatblygu ymarfer a systemau cyfathrebu  
  21. sut mae defnyddio ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth i fonitro, gwerthuso a gwella ymarfer a systemau cyfathrebu  
  22. y gwahanol fathau o drefniadau rhannu gwybodaeth a pha bryd i'w defnyddio
  23. sut mae cydbwyso’r angen i fod yn agored â gofynion cyfrinachedd mewn perthynas â chofnodion ac adroddiadau    
  24. sut mae sicrhau bod data dilys a dibynadwy yn cael ei ddefnyddio mewn cofnodion ac adroddiadau  
  25. y gwahaniaeth rhwng ffaith, barn a dyfarniad wrth gofnodi gwybodaeth
  26. pam mae cyfathrebu proffesiynol yn bwysig yn y gweithle, a sut i gefnogi eraill â hyn
  27. sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai effeithio ar hawl unigolion o ran cyfathrebu effeithiol  
  28. theorïau sy'n berthnasol i arwain cyfathrebu effeithiol  
  29. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain cyfathrebu effeithiol  
  30. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain cyfathrebu effeithiol
  31. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i arwain cyfathrebu effeithiol  
  32. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain cyfathrebu effeithiol, a sut i fynd i'r afael â hyn
  33. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu o ran arwain cyfathrebu effeithiol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD41

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyfathrebu, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu