Hybu hunan-barch, hunaniaeth a llesiant emosiynol cadarnhaol
URN: HSCCLD39
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn amlinellu’r gofynion ar gyfer hybu hunan-barch, ymdeimlad o hunaniaeth a llesiant emosiynol unigolion. Mae'n golygu gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i adnabod agweddau sy'n cael effaith gadarnhaol ar eu hunan-barch a'u hymdeimlad o hunaniaeth, yn ogystal â hybu eu llesiant emosiynol a chymdeithasol a'u hunanddelwedd gadarnhaol. Mae heriau, hunan-ganfyddiad a chredoau sy'n effeithio ar lesiant a hunan-barch yr unigolyn yn cael eu harchwilio a'u cefnogi. Mae'n cynnwys cydweithio i werthuso effeithiolrwydd y cymorth a ddarperir.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i weithredu, monitro a rhoi adborth ar strategaethau i feithrin hunan-barch, hunaniaeth a llesiant yr unigolyn
- cefnogi unigolion i nodi’r hyn sy’n bwysig i’w hunan-barch, hunaniaeth a llesiant
- annog unigolion i nodi cryfderau a sgiliau mewn perthynas â gwerthoedd, credoau, delwedd a hunaniaeth
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i fynd i’r afael â heriau a hunan-ganfyddiadau sy’n lleihau hunan-barch, ymdeimlad o hunaniaeth a llesiant
- sylwi a chydnabod emosiynau, arwyddion dilafar ac ymddygiad unigolion
- cefnogi unigolion i nodi strategaethau ar gyfer ymdopi â rheoleiddio emosiynol
- mynd ati gydag unigolion ac eraill i bennu’r strategaethau a’r canlyniadau maent yn dymuno eu cyflawni i feithrin hunan-barch, hunaniaeth a llesiant
- defnyddio cyfleoedd sy'n codi’n naturiol i hybu hunan-barch a hunanddelwedd gadarnhaol unigolion
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i roi adborth ar gynnydd tuag at gwrdd â chanlyniadau a nodi newidiadau i strategaethau
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i hybu hunan-barch, hunaniaeth a llesiant emosiynol unigolion
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu hunan-barch, hunaniaeth a llesiant emosiynol cadarnhaol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- rôl perthnasoedd o ran meithrin gwytnwch a datblygu strategaethau ymdopi
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth ddatblygu hunan-barch, hunaniaeth a llesiant
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth oresgyn heriau a hunan-ganfyddiadau sy’n effeithio ar lesiant
- effaith ar hunan-barch, hunaniaeth a llesiant yn sgil stereoteipio ar sail rhagdybiaethau
- ffyrdd o greu amgylcheddau diogel a grymuso unigolion i archwilio eu meddyliau a’u teimladau
- sut mae cael gafael ar wybodaeth i gefnogi hunan-barch, hunaniaeth a llesiant unigolion
- defnyddio cyfleoedd sy'n codi’n naturiol i atgyfnerthu hunan-barch, hunaniaeth a llesiant yn gadarnhaol
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi hunan-barch, hunaniaeth a llesiant
- y cysylltiadau rhwng hunan-barch, hunaniaeth, hunanddelwedd a llesiant, a’r ffactorau sy'n effeithio arnynt
- pwysigrwydd deall safbwyntiau unigryw, diddordebau, galluoedd a phrofiad yr unigolyn o ran datblygu ei hunaniaeth, ei hunan-barch a’i lesiant ei hun
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar hunan-barch, hunaniaeth a llesiant
- dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd ar hunan-barch, hunaniaeth a llesiant unigolion
- sut gall unigolion sydd ag ymdeimlad isel o hunaniaeth, hunan-barch a hunanddelwedd fod mewn perygl o gael eu hecsbloetio, a ffyrdd o leihau'r risg honno
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i hybu hunan-barch, hunaniaeth a llesiant emosiynol cadarnhaol
- sut mae cefnogi unigolion ac eraill i roi adborth ar gynnydd tuag at ganlyniadau
- sut mae rhoi adborth i lywio’r canlyniadau a chefnogi newidiadau
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i hybu hunan-barch, hunaniaeth a llesiant emosiynol unigolion
- damcaniaethau sy’n berthnasol i hybu hunan-barch, hunaniaeth a llesiant emosiynol cadarnhaol
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu hunan-barch, hunaniaeth a llesiant emosiynol cadarnhaol
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu hunan-barch, hunaniaeth a llesiant emosiynol cadarnhaol
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu hunan-barch, hunaniaeth a llesiant emosiynol cadarnhaol
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu hunan-barch, hunaniaeth a llesiant emosiynol cadarnhaol, a sut i fynd i’r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu hunan-barch, hunaniaeth a llesiant emosiynol cadarnhaol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD39
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
hunan-barch, hunaniaeth, llesiant emosiynol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu