Hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
URN: HSCCLD38
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth hybu a diogelu hawliau unigolion. Mae hyn yn cynnwys grymuso unigolion i ymarfer eu hawliau a pharchu hawliau pobl eraill, gan hybu diwylliant sy'n seiliedig ar hawliau ac sy'n gwerthfawrogi ac yn parchu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pob unigolyn. Mae hefyd yn mynd i’r afael â hawliau unigolion mewn perthynas â gwybodaeth amdanynt eu hunain a'r angen i roi hyder i unigolion y bydd eu hawliau'n cael eu cynnal yn y lleoliad gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- hybu hawliau unigolion i gael mynediad at wybodaeth amdanynt eu hunain mewn fformatau hygyrch, ac i wneud sylwadau a chwynion
- sicrhau hawliau unigolion i gyfathrebu yn eu dewis iaith a dull
- arddangos diwylliant o ymarfer gwrth-wahaniaethol sy'n hybu parch at urddas a phreifatrwydd unigolion
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i adnabod eu profiad bywyd, eu cefndir, eu gwerthoedd a’u credoau
- grymuso unigolion i eirioli dros eu hawliau, eu gwerthoedd, eu diwylliant, eu daliadau ysbrydol a'u dewisiadau
- grymuso unigolion i ymarfer eu hawliau a pharchu hawliau pobl eraill
- sicrhau hawliau unigolion i wneud dewisiadau a phenderfyniadau gwybodus am eu bywydau a’u llesiant
- sicrhau bod hawliau, gwerthoedd, credoau a dewisiadau unigolion wrth wraidd pob gweithred a phenderfyniad
- hybu hawliau unigolion i reoli risgiau ac i gymryd risgiau cadarnhaol
- cefnogi unigolion gyda chymhlethdod y penderfyniadau y mae angen iddynt eu gwneud i gydbwyso eu hawliau, eu gwerthoedd a'u dewisiadau â rhai pobl eraill
- cefnogi unigolion i adnabod strategaethau ar gyfer ymdopi â rheoleiddio emosiynol wrth ddelio â heriau o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau
- modelu ymarfer gwrth-wahaniaethol sy'n annog eraill i weithio mewn ffyrdd sy'n hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau
- ymyrryd a gweithredu er mwyn mynd i'r afael â gwahaniaethu gan unigolion ac eraill
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rôl a'ch cyfrifoldebau i hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- beth yw nodweddion gwarchodedig
- y gwahanol fathau o wahaniaethu a'r ymddygiad a allai fod yn fynegiant o'r rhain
- effeithiau posibl stigma, stereoteipio, rhagfarn a labelu ar unigolion
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol yn ystod heriau i gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau
- y rhagdybiaethau a'r gorthrwm sy'n amgylchynu gwahanol grwpiau a'r ffyrdd y mae hyn yn cael ei ymgorffori mewn cymdeithas a sefydliadau
- sut mae sicrhau bod hawliau ac anghenion unigolion yn cael eu cynrychioli, gan ddefnyddio eiriolwyr, technoleg ddigidol a dehonglwyr
- effaith niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
- effaith anghydraddoldebau cymdeithasol, economaidd ac iechyd
- pwysigrwydd rhoi gofal tosturiol i gefnogi llesiant ysbrydol
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, chynhwysiant a hawliau unigolion
- sut mae grymuso unigolion i ymarfer eu hawliau a pharchu hawliau pobl eraill
- dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd ar gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
- cymhlethdod y penderfyniadau y mae angen i unigolion eu gwneud i gydbwyso eu hawliau, eu gwerthoedd a'u dewisiadau â rhai pobl eraill
- sut a ble i gael gafael ar wybodaeth a chefnogaeth i hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
- egwyddorion asesiadau risg, rheoli risgiau a chymryd risgiau cadarnhaol
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
- damcaniaethau sy’n berthnasol i gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
- sut mae ymateb i faterion a phryderon wrth hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion, a sut i fynd i’r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD38
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cydraddoldebau, Amrywiaeth, Cynhwysiant, Hawliau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu