Cynnal gwasanaeth ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd
URN: HSCCLD374
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth hybu’r gwaith o gynnal gwasanaeth ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd. Mae’n rhaid i chi allu negodi a phennu gofynion y gwasanaeth gyda phlant a phobl ifanc a theuluoedd, sefydlu systemau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth yn gywir a gwerthuso gwasanaethau i sicrhau y llwyddir i gwrdd ag anghenion plant a phobl ifanc a theuluoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill o ran y gofal i’w roi i blant neu bobl ifanc
- sicrhau bod gwybodaeth ar gael am wasanaethau
- cefnogi teuluoedd i fynegi’r hyn maent ei angen o wasanaethau i blant neu bobl ifanc
- cyfathrebu â theuluoedd mewn ffordd sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth a gwahaniaethau diwylliannol
- trafod y dewisiadau a’r opsiynau gwasanaeth sydd ar gael gyda theuluoedd, a’u hannog i ofyn cwestiynau ac egluro unrhyw fanylion
- gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i gytuno ar yr wybodaeth a fydd yn cael ei chofnodi am wasanaethau
- cefnogi teuluoedd i rannu gwybodaeth berthnasol am ddewisiadau, anghenion ac arferion plant neu bobl ifanc
- cefnogi teuluoedd i rannu unrhyw bryderon am blant neu bobl ifanc ac unrhyw ystyriaethau arbennig sy’n berthnasol i’w gofal
- sicrhau bod eraill yn cael gwybod am y gofal i’w roi i blant neu bobl ifanc
- sicrhau bod teuluoedd yn ymwybodol o’r ddeddfwriaeth, y polisïau a’r gweithdrefnau perthnasol
- sicrhau bod manylion cyswllt yn gywir a bod prosesau cyswllt mewn argyfwng ar waith
- trefnu bod cytundebau â theuluoedd yn cael eu hadolygu’n rheolaidd
- gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i gytuno ar amseriad ac amlder y gwaith adolygu contractau
- cefnogi teuluoedd i nodi manteision rhannu a chyfnewid gwybodaeth
- sicrhau y cytunir ar fformatau ac amlder cyfnewid gwybodaeth gyda theuluoedd, yn unol â’u dewisiadau
- hwyluso’r gwaith o gyfnewid gwybodaeth â theuluoedd
- adolygu gofal plant neu bobl ifanc i sicrhau y llwyddir i gwrdd â’u hanghenion
- gofyn am adborth gan deuluoedd am y gwasanaethau a ddarperir, a thrafod unrhyw newidiadau sy’n ofynnol
- ymgynghori ag eraill i gasglu adborth ynghylch y gwasanaethau a ddarperir, a nodi cyfleoedd i ddatblygu
- rhoi newidiadau ar waith ar sail adborth
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cynnal gwasanaeth ar gyfer plant neu bobl ifanc a theuluoedd
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth gynnal gwasanaeth ar gyfer plant neu bobl ifanc a theuluoedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gwasanaethau’r gweithle
- sut mae darparu gwybodaeth glir a hygyrch am wasanaethau i blant a phobl ifanc a theuluoedd
- sut mae sicrhau bod eraill yn cael gwybod ac y cytunir ar rolau’n glir â theuluoedd
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma mewn gwasanaethau i blant a phobl ifanc a theuluoedd
- sut mae cadw manylion cyswllt yn gyfredol a sicrhau bod prosesau cyswllt mewn argyfwng ar waith
- pwysigrwydd trefnu cyfarfodydd adolygu rheolaidd gyda theuluoedd i asesu gwasanaethau
- manteision rhannu gwybodaeth â theuluoedd i gefnogi â’r gwaith o ofalu am blant a phobl ifanc
- sut mae hwyluso’r gwaith o gyfnewid gwybodaeth â theuluoedd
- egwyddorion cyfrinachedd a sut mae esbonio ffiniau cyfrinachedd i deuluoedd
- dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar ddarparu gwasanaethau
- sut mae cyfathrebu’n effeithiol â theuluoedd mewn ffordd sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth a gwahaniaethau diwylliannol
- pwysigrwydd annog teuluoedd i rannu pryderon ac ystyriaethau arbennig
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y gwasanaeth ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gynnal gwasanaeth ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd
- sut mae cynnal gwasanaeth ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd mewn ffordd sy'n cefnogi rheoleiddio emosiynol
- pwysigrwydd gofyn am adborth gan deuluoedd ac eraill, a sut i’w ddefnyddio i wella gwasanaethau
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gynnal gwasanaeth ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cynnal gwasanaeth ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd
- theorïau sy'n berthnasol i gynnal gwasanaeth ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cynnal gwasanaeth ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd
- sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth gynnal gwasanaeth ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gynnal gwasanaeth ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD374
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cynnal gwasanaethau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu