Hybu a rheoli busnes gofal plant newydd
URN: HSCCLD373
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae’r safon hon yn amlinellu’r gwaith o hybu a rheoli’r ddarpariaeth o leoliadau gwarchod plant a gofal plant newydd y mae gennych chi gyfrifoldebau rheoli drostynt. Mae wedi’i dylunio i gefnogi a hybu gofal, dysg, datblygiad a diogelwch plant.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- archwilio’r camau sydd eu hangen i sefydlu busnes gofal plant newydd, gan gynnwys asesu’r galw lleol a nodi’r math o wasanaeth gofal plant sydd ei angen ar deuluoedd
- ymchwilio i strategaethau marchnata ar gyfer y busnes gofal plant, gan gynnwys dod o hyd i argymhellion o ran hybu a phennu ffioedd
- hybu a marchnata’r busnes gofal plant er mwyn denu a dargadw teuluoedd
- sicrhau bod y busnes yn cydymffurfio â gofynion busnes gofal plant, gan gynnwys asesiadau risg ac yswiriant
- ymateb i ymholiadau am leoliadau a chydweithio â theuluoedd i drafod y gwasanaethau a gynigir ynghyd ag asesu eu hanghenion
- rhannu gwybodaeth ac adnoddau gyda theuluoedd i ddangos ansawdd gofal a chymorth y busnes
- sefydlu a chynnal y polisïau a’r systemau gofynnol ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ac ansawdd parhaus
- datblygu a rheoli trefniadau cytundebol, ynghyd â chasglu ffioedd
- sefydlu systemau ariannol sy’n sicrhau bod cofnodion cywir yn cael eu cadw
- sicrhau bod cyflenwad o adnoddau chwarae, ac adolygu eu hansawdd a’u haddasrwydd
- gwerthuso llwyddiant y busnes o ran cyflenwad a galw
- casglu adborth gan deuluoedd ynghylch y gofal plant sy’n cael ei dderbyn
- gwerthuso adborth a nodi ffyrdd y gellid gwella’r busnes
- adolygu a diweddaru polisïau, ffioedd a threfniadau talu yn unol ag amodau’r farchnad ac adborth
- rhoi’r wybodaeth sy'n ofynnol i eraill
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu a rheoli busnes gofal plant newydd
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu a rheoli busnes gofal plant newydd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae ymchwilio’r camau ar gyfer sefydlu busnes gofal plant, gan gynnwys strwythur cyfreithiol, gofynion cofrestru, a chynllunio busnes
- sut mae asesu’r galw am wasanaeth gofal plant yn lleol ynghyd â chanfod bylchau yn y ddarpariaeth bresennol
- y gwahanol fathau o wasanaethau gofal plant sydd ar gael, a sut i benderfynu pa un sy'n bodloni anghenion y gymuned orau
- strategaethau marchnata sy’n addas ar gyfer lleoliadau gofal plant newydd, gan gynnwys dulliau digidol a chymunedol
- technegau marchnata ar gyfer prosesu a chyfathrebu gwybodaeth yn effeithiol i deuluoedd a’r gymuned ehangach
- sut mae datblygu strwythur prisio yn seiliedig ar amodau’r farchnad leol a chostau’r gwasanaeth
- sut mae meincnodi polisïau ac arferion yn erbyn darparwyr eraill yn eich ardal
- sut mae sicrhau bod gwybodaeth am fusnes gofal plant newydd ar gael
- pwysigrwydd brandio a chyfathrebu clir i ddenu a dargadw teuluoedd
- sut mae cynnal asesiadau risg a rhoi mesurau ar waith i atal a lleihau peryglon yn yr amgylchedd gofal plant
- sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma mewn busnes gofal plant newydd
- sut mae meithrin perthynas waith gadarnhaol â theuluoedd
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth reoli busnes gofal plant newydd
- dylanwad diwylliant a chefndir, a sut y dylent fod yn bresennol mewn amgylcheddau gofal plant
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol drwy amgylcheddau gofal plant cadarnhaol
- yr ystod o bolisïau sydd eu hangen ar gyfer busnes gofal plant newydd
- sut mae ymwneud â dysgu a datblygu arferion gorau a chyfredol
- pwrpas a chynnwys contractau gofal plant
- egwyddorion cadw cofnodion ariannol a chyfrifoldebau ariannol sy’n gysylltiedig â chyflogaeth
- sut mae cadw cofnodion incwm a gwariant yn gywir ac yn gyfreithiol
- y mathau o wybodaeth sydd eu hangen gan deuluoedd, a sut i sicrhau ei bod yn gywir, yn gyflawn ac yn hygyrch
- sut mae datblygu gweithdrefnau clir ar gyfer storio, rhannu ac adalw cofnodion cyfrinachol a data personol yn ddiogel
- sut mae sicrhau bod adnoddau a deunyddiau’n briodol yn ddatblygiadol, yn gynhwysol, yn gynaliadwy ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau ansawdd a diogelwch
- ffyrdd o werthuso gan ddefnyddio mesurau perfformiad
- sut mae casglu, adolygu ac ymateb i adborth gan deuluoedd
- theorïau sy’n berthnasol i hybu a rheoli busnes gofal plant newydd
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu a rheoli busnes gofal plant newydd
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu a rheoli busnes gofal plant newydd, a sut i fynd i’r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu a rheoli busnes gofal plant newydd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD373
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Rheoli busnes, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu