Gweithio gyda theuluoedd mewn cymunedau
URN: HSCCLD372
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion ar gyfer cefnogi teuluoedd mewn cymunedau pan fydd angen gofal neu gymorth arnynt. Mae hyn yn cynnwys datblygu perthnasoedd a gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i gael gafael ar wybodaeth, gwasanaethau a chymorth cymunedol sy’n berthnasol i ddewisiadau, anghenion a chanlyniadau’r teulu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod y ffactorau emosiynol, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n effeithio ar deuluoedd a pharchu eu profiadau a’u safbwyntiau cyfunol
- adnabod a hybu’r gwahanol rolau o fewn teuluoedd a rhwydweithiau cymunedol
- gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i adnabod a chytuno ar ddisgwyliadau, ffiniau a chanlyniadau ar gyfer eu gofal neu gymorth
- annog teuluoedd i adnabod meysydd o gryfder, risg a gwydnwch
- gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i gynllunio’r gofal neu gymorth sydd ei hangen arnynt i gyflawni canlyniadau
- gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i adnabod a chael gafael ar yr adnoddau, yr wybodaeth, y gwasanaethau a’r cymorth cymunedol sydd ar gael
- mynd ati gyda theuluoedd i archwilio’r cymhellion dros gyflawni canlyniadau ac effaith newid yn eu bywydau
- cefnogi teuluoedd i osod meini prawf a chamau gweithredu ar gyfer monitro a gwerthuso canlyniadau
- cytuno ar sut y bydd cynlluniau’n cael eu cofnodi a’u rhannu, a phwy sy’n gallu cael mynediad at yr wybodaeth
- cefnogi teuluoedd ac eraill i weithredu a monitro cynlluniau yn erbyn canlyniadau
- gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ac eraill i werthuso cynlluniau yn erbyn canlyniadau
- adnabod ac atgyfnerthu ymdrechion, cryfderau a chynnydd tuag at ganlyniadau mewn cymunedau
- grymuso teuluoedd i fynd i’r afael â heriau o ran cyflawni canlyniadau mewn cymunedau
- cefnogi teuluoedd i adolygu ansawdd y gofal, y cymorth a’r gwasanaethau
- adnabod newidiadau i gynlluniau a chanlyniadau gyda theuluoedd ac eraill, a mynd i’r afael â nhw
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gweithio gyda theuluoedd mewn cymunedau
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth weithio gyda theuluoedd mewn cymunedau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gwahanol rolau unigolion o fewn teuluoedd a chymunedau
- natur a strwythur amrywiol teuluoedd, gan gynnwys cyd-destunau diwylliannol a chefndirol gwahanol, a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar ddeinameg teulu a’r gymuned
- y math o adnoddau, gwybodaeth, gwasanaethau sydd ar gael i deuluoedd a sut y gellir cael gafael arnynt
- strategaethau i gefnogi teuluoedd i adeiladu rhwydweithiau cymorth yn y gymuned
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth weithio gyda theuluoedd mewn cymunedau
- sut mae defnyddio dulliau cyfathrebu cynhwysol i feithrin perthynas agored a pharchus y gellir ymddiried ynddi gyda theuluoedd
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth weithio gyda theuluoedd mewn cymunedau
- y ffactorau emosiynol, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n effeithio ar deuluoedd a chymunedau
- rôl cysylltiadau cymunedol o ran cefnogi llesiant ac anghenion cymdeithasol, emosiynol ac economaidd
- ffyrdd o hwyluso profiadau a safbwyntiau unigol a chyfunol
- y newidiadau y gall teuluoedd profiadu mewn cymunedau
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar weithio gyda theuluoedd mewn cymunedau
- sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol teuluoedd mewn cymunedau
- pwysigrwydd cytuno ar ddisgwyliadau, ffiniau a chanlyniadau gyda theuluoedd
- y cysylltiad rhwng disgwyliadau teuluoedd a’u dealltwriaeth o gryfderau, risgiau a ffactorau gwydnwch
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i weithio gyda theuluoedd mewn cymunedau
- pwysigrwydd ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth a’r defnydd o fodelau neu adnoddau wrth gynllunio, monitro a gwerthuso canlyniadau
- manteision adnabod ac atgyfnerthu ymdrechion, cryfderau a chynnydd teuluoedd
- sut mae gofyn am gymorth wrth weithio gyda theuluoedd mewn cymunedau
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gweithio gyda theuluoedd mewn cymunedau
- theorïau sy’n berthnasol i weithio gyda theuluoedd mewn cymunedau
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer gweithio gyda theuluoedd mewn cymunedau
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth weithio gyda theuluoedd mewn cymunedau
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth weithio gyda theuluoedd mewn cymunedau, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth weithio gyda theuluoedd mewn cymunedau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD372
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Gweithio gyda theuluoedd mewn cymunedau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu