Gweithio gyda theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain
URN: HSCCLD371
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion ar gyfer cefnogi teuluoedd yn eu cartrefi eu hunain. Mae hyn yn dechrau drwy baratoi ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd a gweithio mewn partneriaeth i nodi meysydd lle mae angen cymorth. Mae’r safon yn cynnwys cefnogi’r teulu i fynd i’r afael â heriau gyda’r nod o gyflawni, monitro a gwerthuso’r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am deuluoedd a’r heriau maent yn eu hwynebu
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gynllunio ar gyfer eich ymweliad cyntaf
- cyfathrebu â theuluoedd i’w paratoi ar gyfer eich ymweliad, a chytuno ar ddyddiad ac amser ymweld â’u cartref
- cadarnhau â’r gweithle beth yw’r trefniadau teithio ar gyfer ymweld â chartref y teulu a’r manylion cyswllt
- ymweld â theuluoedd yn unol â’r cynlluniau y cytunwyd arnynt
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu teuluoedd
- gweithio mewn partneriaeth ag aelodau o’r teulu i drafod yr heriau maent yn eu hwynebu a nodi eu dewisiadau a’u hanghenion
- nodi gwahaniaethau mewn safbwyntiau ymysg aelodau o’r teulu, gan hybu parch at bawb
- cynorthwyo aelodau o’r teulu i gael gafael ar wybodaeth am adnoddau a’r opsiynau sydd ar gael i gwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion
- cefnogi teuluoedd i adolygu a nodi dewisiadau o’r opsiynau sydd ar gael
- annog aelodau o’r teulu i nodi unrhyw bryderon o’r opsiynau a ddewiswyd a sut y bwriedir mynd i’r afael â’r rhain
- gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ac eraill i gytuno ar ganlyniadau’r gwaith i fynd i’r afael â’r heriau maent yn eu hwynebu
- grymuso aelodau o’r teulu i drafod pa gyfraniad a newidiadau y bydd angen i bob un ohonynt eu gwneud i gyflawni canlyniadau
- cefnogi annibyniaeth aelodau o’r teulu i gymryd rhan mewn gweithgareddau i gyflawni canlyniadau
- annog teuluoedd ac eraill i werthuso’r cynnydd tuag at ganlyniadau
- rhoi eich adborth ynghylch y cynnydd a wnaed, a nodi a mynd i’r afael ag unrhyw newidiadau sy’n angenrheidiol
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i weithio gyda theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i weithio gyda theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth wrth baratoi i weithio gyda theuluoedd i fynd i’r afael â heriau yn y cartref, a sut mae adolygu’r wybodaeth honno
- sut mae sefydlu cynlluniau ar gyfer eich ymweliad cyntaf, a pham fod hyn yn bwysig
- eich rolau a’ch cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu a chefnogi teuluoedd i fynd i’r afael â heriau yn y cartref
- ffyrdd effeithiol o reoli gwrthdaro a sgyrsiau heriol
- sut mae cydbwyso dewisiadau ac anghenion aelodau o’r teulu gan gynnal cyfrinachedd
- ffactorau a all achosi heriau mewn teuluoedd
- pwysigrwydd cyfathrebu’n effeithiol mewn teuluoedd, a sut i gefnogi hyn
- yr adnoddau a’r opsiynau gwahanol sydd ar gael i gefnogi teuluoedd i fynd i’r afael â heriau yn y cartref
- sut mae cefnogi teuluoedd i ddatblygu sgiliau, galluoedd a gwybodaeth i amddiffyn, parchu, gofalu a bondio â’i gilydd, a pham mae hyn yn bwysig
- y rolau a’r cyfrifoldebau gwahanol mewn teuluoedd, a pham mae angen cymorth ar rai unigolion gyda hyn
- pwysigrwydd perthnasoedd diogel o ran llesiant aelodau unigol o’r teulu
- dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd ar y ffordd yr eir i’r afael â heriau
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi teuluoedd i fynd i’r afael â heriau yn y cartref
- effaith tarfu, gan gynnwys parhad gweithiwr, ar deuluoedd
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi teuluoedd i fynd i’r afael â heriau yn y cartref
- effaith straen a sut y gall effeithio ar ymddygiad
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth fynd i’r afael a heriau yn y cartref
- sut gallai niwroamrywiaeth ac anghenion ychwanegol fod angen adnoddau ac opsiynau gwahanol i fynd i’r afael â heriau teuluol yn y cartref
- arferion gweithio ar eich pen eich hun ar gyfer ymweld â theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain
- sut mae cynnal asesiadau risg wrth ymweld â theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi gweithio gyda theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain
- technegau arsylwi a phwysigrwydd arsylwi holistaidd wrth ymweld â theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain
- .pwysigrwydd casglu amrywiaeth o dystiolaeth i lywio eich ymarfer
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gweithio gyda theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain
- theorïau sy’n berthnasol i weithio gyda theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer gweithio gyda theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth weithio gyda theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i weithio gyda theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth weithio gyda theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth weithio gyda theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD371
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Gweithio gyda theuluoedd, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu