Gofalu am blant a phobl ifanc gartref
URN: HSCCLD370
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth ofalu am blant a phobl ifanc mewn cartref. Gallai hyn olygu eich cartref chi neu gartref y teulu, er enghraifft, fel nani. Mae’r safon yn ymwneud â darparu amgylcheddau cadarnhaol i blant a phobl ifanc yn y cartref. Mae'n mynd i’r afael â pherthnasoedd cytundebol a pherthnasoedd bob dydd gyda theuluoedd a’u disgwyliad o ran gofal plant a phobl ifanc. Mae hefyd yn mynd i’r afael â chytundeb ynghylch gweithgareddau allanol fel tripiau ac unrhyw beth a ddysgir o weithgareddau o’r fath.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i ddeall y gofal sydd ei angen ar blant neu bobl ifanc
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun, eraill a theuluoedd i gefnogi plant neu bobl ifanc
- meithrin perthynas gadarnhaol â theuluoedd, gan sicrhau dulliau cyfathrebu clir a chyd-ddealltwriaeth
- nodi manylion cyswllt mewn argyfwng a chytuno ar beth i’w wneud os bydd rhywbeth annisgwyl yn codi
- casglu gwybodaeth gan deuluoedd am ddewisiadau, anghenion, arferion a gofynion arbennig plant neu bobl ifanc
- gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i gynllunio sut i gwrdd ag anghenion gofal corfforol plant neu bobl ifanc
- cytuno â theuluoedd pa brofiadau a ganiateir y tu allan i’r cartref yn ddigymell a pha rai y mae angen caniatâd ychwanegol ar eu cyfer
- cefnogi cyfnodau pontio i mewn ac allan o’ch gofal, gan feithrin perthnasoedd a chefnogi plant neu bobl ifanc i deimlo’n ddiogel
- cyfathrebu â phlant neu bobl ifanc mewn ffordd sy’n eu helpu i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi
- cynllunio a darparu profiadau sy’n cefnogi dysg a datblygiad unigol plant neu bobl ifanc
- sicrhau bod profiadau'n gynhwysol ac yn cefnogi plant neu bobl ifanc i gymryd rhan mewn ffyrdd sy’n cwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion
- sefydlu arferion cyson sy’n creu ymdeimlad o ddiogelwch ac yn cefnogi datblygiad perthnasoedd o ymddiriedaeth
- annog plant neu bobl ifanc i wneud penderfyniadau am amgylcheddau a phrofiadau
- cefnogi plant neu bobl ifanc i ddatblygu annibyniaeth ar eu cyflymder eu hunain
- rhoi gofal corfforol ymatebol a pharchus mewn ffyrdd sy’n sicrhau cysur ac urddas
- cynllunio bwydlenni, byrbrydau a diodydd sy’n cwrdd ag anghenion deiet a maeth y plant neu bobl ifanc sydd yn eich gofal
- cynnwys plant neu bobl ifanc yn y gwaith o gynllunio a pharatoi bwyd neu fyrbrydau, yn ôl eu galluoedd
- sefydlu arferion dyddiol cytbwys sy’n cynnwys amser i chwarae, ymarfer corff, gorffwys, a phrofiadau dan do ac yn yr awyr agored
- sicrhau bod plant neu bobl ifanc yn cael eu goruchwylio, gartref ac ar dripiau
- cynllunio a chytuno ar dripiau gyda theuluoedd, gan gynnwys plant neu bobl ifanc yn y gwaith o ddewis profiadau
- trefnu cludiant diogel ar gyfer y tripiau
- sicrhau bod plant neu bobl ifanc wedi’u gwisgo’n addas ar gyfer gwahanol brofiadau a thywydd
- defnyddio tripiau, chwarae, a gweithgareddau bob dydd i gefnogi dysg a datblygiad, ac ymwybyddiaeth o risgiau plant neu bobl ifanc
- ymgysylltu ag eraill i gyfoethogi profiadau plant neu bobl ifanc
- arsylwi ar gynnydd a datblygiad plant neu bobl ifanc drwy eu profiadau a’u rhyngweithiadau
- sicrhau amgylcheddau diogel a diddorol, gan asesu a mynd i’r afael â risgiau a chymryd risgiau cadarnhaol
- sicrhau bod teuluoedd ac eraill yn cael gwybodaeth am brofiadau, cynnydd datblygiadol plant neu bobl ifanc, a meysydd lle mae angen cymorth ychwanegol
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gofalu am blant neu bobl ifanc gartref
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth ofalu am blant neu bobl ifanc gartref
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut gall newidiadau effeithio ar blant a phobl ifanc, a ffyrdd o’u cefnogi
- hawliau plant a phobl ifanc i fynegi eu dewisiadau a chymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt
- ffactorau a all effeithio ar ddatblygiad plant
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ddatblygiad plant a phobl ifanc
- dylanwad diwylliant, cefndir, ysbrydolrwydd ac amgylcheddau’r cartref ar ddatblygiad a rhyngweithiadau plant a phobl ifanc
- pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i ddeall eu disgwyliadau o ran gofal plant a phobl ifanc
- sut mae meithrin perthnasoedd â theuluoedd drwy gyfathrebu a chytundebau ysgrifenedig
- sut mae casglu, cofnodi, adrodd a pharchu gwybodaeth am ddewisiadau, anghenion, arferion a gofynion arbennig plant a phobl ifanc
- sut mae cynllunio a chwrdd ag anghenion gofal corfforol plant a phobl ifanc mewn partneriaeth â theuluoedd
- rôl arferion, cyfathrebu a pherthnasoedd diogel o ran cefnogi plant a phobl ifanc i deimlo’n ddiogel, yn hyderus, a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i ofalu am blant a phobl ifanc gartref
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth ofalu am blant a phobl ifanc gartref
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol mewn plant a phobl ifanc gartref
- sut mae cynllunio a darparu profiadau cynhwysol sy’n cefnogi dysg, datblygiad ac annibyniaeth plant a phobl ifanc, gan ystyried cynaliadwyedd
- sut mae cynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau am amgylcheddau, profiadau, ac arferion bob dydd
- sut mae defnyddio chwarae, tripiau, a phrofiadau bob dydd i gefnogi plant a phobl ifanc i ddatblygu ymwybyddiaeth o risg
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i wella profiadau a dysg plant a phobl ifanc
- strategaethau ar gyfer arsylwi ac asesu datblygiad a llesiant plant a phobl ifanc
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gyfathrebu â theuluoedd
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gofalu am blant neu bobl ifanc gartref
- theorïau sy'n berthnasol i ofalu am blant a phobl ifanc gartref
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer gofalu am blant a phobl ifanc gartref
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth ofalu am blant a phobl ifanc gartref
- sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth ofalu am blant a phobl ifanc gartref, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth ofalu am blant a phobl ifanc gartref
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD370
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Gofalu, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu