Hybu ymarfer sy’n ystyriol o drawma
URN: HSCCLD37
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth hybu ymarfer sy’n ystyriol o drawma. Mae'n cynnwys cydnabod y gall unigolion ddioddef trawma ar unrhyw adeg yn eu bywydau, boed hynny yn ystod plentyndod neu oedoloaeth. Mae ymarfer sy'n ystyriol o drawma yn gofyn am ddulliau cyfathrebu cynhwysol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n seiliedig ar berthynas. Mae hyn yn cynnwys cefnogi adferiad drwy ddiogelwch, ymddiriedaeth a chydweithio, gan rymuso unigolion i gael dewis a rheolaeth yn eu bywydau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gafael ar wybodaeth ac adnoddau ynghylch dulliau sy’n ystyriol o drawma wrth ymarfer
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i adnabod effaith bosibl eu trawma
- creu a hybu amgylcheddau cynhwysol a diogel sy'n gwerthfawrogi unigolion ac yn eu cefnogi
- adnabod a lleihau sbardunau amgylcheddol, seicolegol a synhwyraidd posibl sy'n gysylltiedig â thrawma unigolion
- hybu diwylliant o agoredrwydd, cydgefnogaeth ac arferion sy’n seiliedig ar hawliau yn y gweithle
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gynllunio, gweithredu, a gwerthuso canlyniadau ar gyfer rheoleiddio emosiynol ac adferiad, sy'n lleihau’r risg o ail-drawmeiddio unigiolion
- meithrin perthnasoedd cyson sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gydag unigolion ac eraill a defnyddio egwyddorion ymarfer sy'n ystyriol o drawma
- defnyddio a hybu dulliau cyfathrebu cynhwysol sy’n cwrdd ag anghenion cymorth i gyfathrebu, diwylliant a dewisiadau unigolion
- defnyddio dulliau y cytunwyd arnynt i gefnogi adferiad, rheoleiddio emosiynol a lleihau'r risgiau o wneud i unigolion ail-fyw’r trawma
- parchu a chydnabod emosiynau a phrofiadau unigolion
- hybu ac arddangos empathi, gwrando’n weithredol a bod yn broffesiynol wrth ryngweithio
- hybu ac arddangos pwyll, amynedd a'r gallu i addasu, yn enwedig o dan bwysau
- cefnogi ac annog unigolion i ddatblygu ymddiriedaeth mewn perthnasoedd a gwneud cysylltiadau cadarnhaol ag eraill
- grymuso ac annog unigolion i adeiladu ar eu cryfderau a chael dewis a rheolaeth yn eu bywydau
- grymuso ac annog unigolion i wneud penderfyniadau ac addasu i newid
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion wrth ddarparu gofal neu gymorth
- ailddatgan cryfderau, ymdrechion a chyflawniadau unigolion
- gofyn am adborth gan unigolion ac eraill i sicrhau bod eich ymarfer yn ddiogel, yn ddibynadwy ac yn grymuso
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu ymarfer sy’n ystyriol o drawma
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu ymarfer sy'n ystyriol o drawma
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ble i gael gafael ar wybodaeth ac adnoddau ynghylch dulliau sy’n ystyriol o drawma wrth ymarfer
- egwyddorion ymarfer sy'n ystyriol o drawma a sut i’w defnyddio wrth gynorthwyo unigolion
- mathau o ddigwyddiadau a phrofiadau a allai achosi trawma, gan gynnwys profiadau niweidiol yn ystod plentyndod
- sut mae creu amgylcheddau cynhwysol a diogel sy'n gwerthfawrogi unigolion ac yn eu cefnogi
- effaith trawma ar yr ymennydd, y corff, ymddygiad ac ymatebion i straen
- sut mae lleihau’r risgiau o ail-drawmeiddio a drawma dirprwyol
- y sbardunau amgylcheddol, seicolegol a synhwyraidd posibl sy'n gysylltiedig â thrawma
- arwyddion llafar a di-lafar unigolion a allai awgrymu trawma
- sut mae adnabod ymddygiad fel ffordd o gyfathrebu
- pwysigrwydd defnyddio a hybu dulliau cyfathrebu cynhwysol sy’n cwrdd ag anghenion cymorth i gyfathrebu, diwylliant a dewisiadau unigolion
- eich rôl o ran hybu diwylliant o agoredrwydd, cydgefnogaeth ac arferion sy’n seiliedig ar hawliau yn y gweithle
- dulliau a thechnegau ar gyfer datblygu rheoleiddio emosiynol
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gynllunio, gweithredu, a gwerthuso canlyniadau ar gyfer adferiad
- sut mae gofyn am gyngor ynghylch cefnogi adferiad arbenigol
- yr adnoddau lleol a chenedlaethol ar gyfer cefnogaeth ac adferiad sy’n ymwneud â thrawma
- sut mae monitro a rhoi’r dulliau y cytunwyd arnynt ar waith i wella adferiad unigolion a lleihau'r risgiau o’u ail-drawmeiddio
- sut mae cryfhau gwytnwch unigolion a chefnogi eu hadferiad
- rôl cymuned, diwylliant, rhwydweithiau a pherthnasoedd wrth hybu adferiad
- sut mae meithrin perthynas sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar unigolion sydd wedi profi trawma
- sut mae defnyddio gwrando gweithredol, empathi ac iaith y corff wrth gefnogi unigolion sydd wedi profi trawma
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion sydd wedi profi trawma
- sut mae gwella capasiti a gallu unigolion i ddatblygu ymddiriedaeth a gwneud cysylltiadau ag eraill
- sut mae grymuso unigolion i adeiladu ar eu cryfderau a chael dewis a rheolaeth yn eu bywydau
- rôl adborth o ran meithrin perthynas ddiogel a dibynadwy sy'n grymuso
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu ymarfer sy’n ystyriol o drawma
- damcaniaethau sy’n berthnasol i hybu ymarfer sy’n ystyriol o drawma
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu ymarfer sy’n ystyriol o drawma
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu ymarfer sy'n ystyriol o drawma
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu ymarfer sy’n ystyriol o drawma, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu ymarfer sy’n ymarfer ystyriol o drawma
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD37
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Trawma, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu