Hybu arferion gofal plant wrth fyw mewn grŵp
URN: HSCCLD369
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion ar gyfer hybu ac adolygu gweithgareddau bywyd bob dydd gyda phlant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys cyfrannu at y gwaith o gynllunio, gweithredu ac adolygu bywyd bob dydd gyda phlant a phobl ifanc yn ogystal â gweithio â grwpiau i hybu twf a datblygiad yr unigolyn. Mae hefyd yn hybu arferion gofal plant wrth fyw mewn grŵp fel profiad cadarnhaol sy’n ofalgar, yn feithringar ac yn ymatebol i anghenion plant a phobl ifanc.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi anghenion cyfathrebu, iaith a datblygiadol plant neu bobl ifanc
- addasu amgylcheddau i gwrdd ag anghenion cyfathrebu a datblygu plant neu bobl ifanc
- hybu a chynnal amgylcheddau diogel ynghyd â diwylliant o brofiadau grŵp cadarnhaol
- gwrando ac ymateb mewn ffordd sy'n dangos gwerth a pharch at farn a phrofiadau plant neu bobl ifanc
- bod ar gael i blant neu bobl ifanc ac eraill pan fyddant yn dymuno cyfathrebu â chi
- bod yn hyblyg ac yn ymatebol i anghenion a dewisiadau’r unigolyn a’r grŵp
- annog plant neu bobl ifanc i gymryd tro, rhannu lle, ac ystyried barn a theimladau pobl eraill
- hybu strategaethau i gefnogi plant neu bobl ifanc i ddatblygu trefniadau gosod ffiniau a rheoleiddio emosiynol
- cefnogi plant neu bobl ifanc ac eraill i gytuno ar ganlyniadau mesuradwy y gellir eu cyflawni ar gyfer byw mewn grŵp
- cefnogi plant neu bobl ifanc ac eraill i nodi gweithgareddau byw mewn grŵp sy’n eu cynorthwyo i gyflawni eu canlyniadau
- gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc ac eraill i gynllunio eu gweithgareddau unigol a byw mewn grŵp, gan ystyried anghenion eraill a chymorth ychwanegol
- gweithio â phlant neu bobl ifanc ac eraill i gynllunio sut i reoli risgiau yn eu gweithgareddau bob dydd a byw mewn grŵp
- annog plant neu bobl ifanc ac eraill i gynllunio sut y bydd eu canlyniadau’n cael eu monitro a'u hadolygu
- cefnogi datblygiad ac annibyniaeth plant a phobl ifanc yn ystod gweithgareddau bob dydd a byw mewn grŵp
- dathlu ac atgyfnerthu ymdrechion a chyflawniadau plant neu bobl ifanc
- monitro cynnydd ac ymateb i risgiau wrth gynorthwyo plant neu bobl ifanc mewn gweithgareddau bob dydd a byw mewn grŵp
- cefnogi plant neu bobl ifanc i ddatrys unrhyw heriau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau bob dydd a byw mewn grŵp
- grymuso plant neu bobl ifanc ac eraill i adolygu eu cynnydd a’u canlyniadau
- annog plant neu bobl ifanc i adolygu’r cryfderau maent yn eu cynnig i grwpiau
- gweithio gyda phlant neu bobl ifanc i gytuno ar newidiadau i’w gweithgareddau bob dydd a byw mewn grŵp
- gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc ac eraill i roi adborth ar wella ansawdd gofal a byw mewn grŵp
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu arferion gofal plant wrth fyw mewn grŵp
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu arferion gofal plant wrth fyw mewn grŵp
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am anghenion plant a phobl ifanc o ran cyfathrebu, iaith a datblygiad
- pwysigrwydd perthnasoedd o ran teimlo’n ddiogel, eich bod yn cael eich cynnwys, ac yn cael gofal
- ffactorau sy’n achosi risgiau a’r rhai sy’n sicrhau gofal diogel ac effeithiol i blant a phobl ifanc
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma mewn arferion gofal plant wrth fyw mewn grŵp
- sut mae stigma yn effeithio ar blant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o fyw mewn grŵp
- sut mae adnabod ymddygiad fel ffordd o gyfathrebu
- rôl cyfathrebu effeithiol o ran cefnogi plant a phobl ifanc i gael eu clywed a’u deall
- ffyrdd o gadw plant a phobl ifanc wrth galon eu gofal a'u cefnogaeth
- sut mae gweithio’n hyblyg i gwrdd â dewisiadau ac anghenion unigolion a grwpiau
- pwysigrwydd datblygu a hybu perthnasoedd cyson, gofalgar a meithringar
- sut mae cefnogi plant a phobl ifanc i ddatblygu dulliau rheoleiddio emosiynol
- sut mae cefnogi plant a phobl ifanc i osod a chynnal ffiniau parchus
- pwysigrwydd cynnwys plant a phobl ifanc mewn penderfyniadau am eu bywydau
- yr effaith gadarnhaol y gall rhyngweithio grŵp a phrofiadau ar y cyd ei chael ar ganlyniadau i blant a phobl ifanc
- sut a ble i gael gafael ar wybodaeth a chymorth ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc
- sut mae cefnogi niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol mewn arferion gofal plant a byw mewn grŵp
- pwysigrwydd perthnasoedd sefydlog ac effaith ansicrwydd a newid
- dylanwad diwylliant a chefndir ar arferion gofal plant wrth fyw mewn grŵp
- sut mae gweithio mewn partneriaeth â phlant a phobl ifanc ac eraill i gynllunio, monitro a gwerthuso canlyniadau
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi mewn arferion gofal plant wrth fyw mewn grŵp
- dulliau gweithio mewn grŵp a deinameg ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc i ddatblygu a ffynnu
- sut mae sicrhau’r lefel briodol o gymorth lle mae ei angen
- ffactorau sy’n cefnogi plant a phobl ifanc i ffynnu a chyflawni eu llawn botensial wrth fyw mewn grŵp
- sut mae ymateb i faterion a phryderon sy’n codi wrth fyw mewn grŵp
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu arferion gofal plant wrth fyw mewn grŵp
- sut mae defnyddio tystiolaeth i ddangos cynnydd a gwerthuso canlyniadau
- sut mae gwasanaethau, perthnasoedd a byw mewn grŵp yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cyfleoedd ar gyfer twf
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol wrth hybu arferion gofal plant wrth fyw mewn grŵp
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu arferion gofal plant wrth fyw mewn grŵp
- theorïau sy’n berthnasol i hybu arferion gofal plant wrth fyw mewn grŵp
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu arferion gofal plant wrth fyw mewn grŵp
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu arferion gofal plant wrth fyw mewn grŵp
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu arferion gofal plant wrth fyw mewn grŵp, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu arferion gofal plant wrth fyw mewn grŵp
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD369
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Arferion Plant, Byw mewn Grwp, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu