Gweithio gyda phlant a phobl ifanc drwy gyfnodau pontio

URN: HSCCLD368
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc i nodi’r newidiadau sy’n digwydd, neu sydd ar fin digwydd, yn eu bywydau. Gall newidiadau sy’n deillio o ddigwyddiadau bywyd fod yn brofiad a all effeithio arnynt yn emosiynol, yn ymddygiadol neu’n ddatblygiadol. Gall newidiadau o’r fath fod yn hysbys ac wedi’u cynllunio neu heb eu cynllunio, ond yn fwy na dim maent yn cael effaith fawr ar blant a phobl ifanc.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am newidiadau plant neu bobl ifanc
  2. nodi a chytuno ar rôl a chyfrifoldebau eich hun ac eraill wrth gefnogi plant neu bobl ifanc yn ystod cyfnodau pontio
  3. defnyddio strategaethau cyfathrebu sy’n addas i oedran a chyfnod datblygu plant neu bobl ifanc
  4. esbonio i blant neu bobl ifanc ac eraill pa wybodaeth y gallai fod yn rhaid i chi ei rhannu  
  5. gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc ac eraill i gynllunio sut i reoli cyfnodau pontio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y plentyn  
  6. nodi’r risgiau i lesiant plant neu bobl ifanc yn sgil cyfnodau pontio  
  7. defnyddio arsylwadau a sgiliau gwrando i asesu emosiynau, ymddygiad ac ymatebion plant neu bobl ifanc
  8. rhoi cyfleoedd i blant neu bobl ifanc ac eraill archwilio sut maent yn teimlo am newidiadau  
  9. cefnogi plant neu bobl ifanc ac eraill i ofyn cwestiynau
  10. amseru rhyngweithiadau er mwyn hybu cyfranogiad a chyd-ddealltwriaeth
  11. mynd ati gyda phlant neu bobl ifanc ac eraill i archwilio’r cryfderau y gallant eu defnyddio yn ystod cyfnodau pontio  
  12. cyflwyno gwybodaeth i blant neu bobl ifanc ac eraill am y cymorth sydd ar gael mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y plentyn
  13. gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gael mynediad at y cymorth sydd ar gael  
  14. gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc ac eraill i fonitro ac adolygu cynnydd yn ystod y cyfnodau pontio  
  15. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i weithio gyda phlant neu bobl ifanc drwy gyfnodau pontio  
  16. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth weithio gyda phlant neu bobl ifanc drwy gyfnodau pontio

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y math o newid y gall plant a phobl ifanc fynd drwyddo  
  2. yr effeithiau y gall newidiadau eu cael ar blant a phobl ifanc ac eraill
  3. yr arwyddion bod plant a phobl ifanc yn mynd drwy newidiadau  
  4. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar newidiadau
  5. dylanwad diwylliant a chefndir ar newidiadau  
  6. gwahanol dechnegau i alluogi plant a phobl ifanc i archwilio pryderon a mynegi meddyliau a theimladau  
  7. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc drwy gyfnodau pontio
  8. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol yn ystod cyfnodau pontio
  9. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi plant a phobl ifanc drwy gyfnodau pontio
  10. pwysigrwydd cynllun pontio rhagweithiol a chydlynol
  11. rôl perthnasoedd a rhwydweithiau cefnogi mewn cyfnodau pontio  
  12. sut mae ymateb i faterion neu bryderon a allai effeithio ar blant a phobl ifanc
  13. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi plant a phobl ifanc drwy gyfnodau pontio
  14. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i weithio gyda phlant neu bobl ifanc drwy gyfnodau pontio
  15. theorïau sy'n berthnasol i weithio gyda phlant a phobl ifanc drwy gyfnodau pontio
  16. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc drwy gyfnodau pontio
  17. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc drwy gyfnodau pontio
  18. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi plant a phobl ifanc drwy gyfnodau pontio
  19. sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc drwy gyfnodau pontio, a sut i fynd i'r afael â hyn
  20. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc drwy gyfnodau pontio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD368

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyfnodau Pontio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu