Hybu oedolaeth, dinasyddiaeth ac annibyniaeth
URN: HSCCLD367
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn amlinellu'r gofynion ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc i baratoi ar gyfer oedolaeth, dinasyddiaeth, ac annibyniaeth. Mae’n cynnwys cefnogi plant a phobl ifanc i gael gafael ar gymorth, cyngor a gwybodaeth am y meysydd hyn. Mae hyn yn cynnwys nodi’r sgiliau a’r galluoedd sydd eu hangen ar gyfer dinasyddiaeth ac oedolaeth effeithiol a pharatoi plant a phobl ifanc ar gyfer annibyniaeth a newidiadau yn y dyfodol fel addysg, cyflogaeth, iechyd, tai, rhyngweithio cymdeithasol a pherthnasoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gafael ar gymorth, cyngor a gwybodaeth i baratoi plant neu bobl ifanc ar gyfer oedolaeth, dinasyddiaeth ac annibyniaeth
- hybu amgylcheddau cynhwysol lle mae plant neu bobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu, ac amgylcheddau sy’n cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau, cymryd risgiau cadarnhaol a diwylliant sy’n seiliedig ar hawliau
- annog plant neu bobl ifanc i rannu eu meddyliau, eu teimladau a’u pryderon am oedolaeth, dinasyddiaeth, ac annibyniaeth
- meithrin perthynas â phlant neu bobl ifanc i ddatblygu ymddiriedaeth a chyfathrebu agored
- darparu’r cymorth iawn ar gyfer lefel annibyniaeth a datblygiad plant neu bobl ifanc
- gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc i nodi eu dyheadau
- gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc i nodi canlyniadau o ran paratoi ar gyfer oedolaeth
- mynd ati gyda phlant neu bobl ifanc i archwilio eu cymhellion dros gyflawni canlyniadau a sut y gallant ddylanwadu ar newid yn eu bywydau
- gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc i nodi eu sgiliau, eu galluoedd a’u cryfderau o ran paratoi ar gyfer oedolaeth, dinasyddiaeth ac annibyniaeth, a chynllunio’r camau y mae angen eu cymryd i gyflawni eu canlyniadau a’u dyheadau
- gweithio gyda phlant neu bobl ifanc i nodi a goresgyn heriau i gyflawni eu canlyniadau a’u dyheadau
- gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc i gynllunio adnoddau, gwybodaeth, gwasanaethau a chymorth cymunedol
- cefnogi plant neu bobl ifanc i osod meini prawf a chamau gweithredu i fonitro a gwerthuso’r canlyniadau
- cytuno ar sut y bydd cynlluniau’n cael eu cofnodi, eu rhannu, a phwy fydd yn cael mynediad at yr wybodaeth
- cefnogi plant neu bobl ifanc ac eraill i weithredu a monitro cynlluniau yn erbyn meini prawf a chamau gweithredol penodol
- cefnogi plant neu bobl ifanc i feithrin perthnasoedd, datrys gwrthdaro a datblygu gwydnwch mewn perthynas â heriau a rhwystrau
- annog plant neu bobl ifanc i ddeall safbwyntiau pobl eraill a dangos urddas, caredigrwydd a thosturi
- rhoi plant neu bobl ifanc mewn cysylltiad â modelau rôl cadarnhaol a all ddarparu arweiniad a chefnogaeth wrth fynd drwy newidiadau
- cefnogi plant neu bobl ifanc i ddatblygu dulliau rheoleiddio emosiynol yn ystod cyfnodau pontio neu drawsnewid
- gweithio gyda gwahanol asiantaethau a gwasanaethau i sicrhau cyfnodau pontio didrafferth
- adnabod ac atgyfnerthu ymdrechion, cryfderau a chynnydd tuag at y canlyniadau i blant neu bobl ifanc
- grymuso plant neu bobl ifanc i werthuso eu canlyniadau
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen mewn perthynas â’ch gwaith gyda phlant neu bobl ifanc
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu oedolaeth, dinasyddiaeth, ac annibyniaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ble a sut mae cael gafael ar gymorth, cyngor a gwybodaeth i gefnogi plant a phobl ifanc i baratoi ar gyfer oedolaeth, dinasyddiaeth, ac annibyniaeth
- strategaethau ar gyfer meithrin perthnasoedd ymddiriedus a chyfathrebu’n agored â phlant a phobl ifanc
- sut mae creu diwylliant diogel a chefnogol sy’n hybu gwneud penderfyniadau, cymryd risgiau cadarnhaol a hawliau
- sut mae cysoni’r cymorth sydd ei angen ar gyfer plant a phobl ifanc wth iddynt ddatblygu annibyniaeth
- y ffactorau emosiynol, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc wrth iddynt baratoi ar gyfer oedolaeth, dinasyddiaeth ac annibyniaeth
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
- ffyrdd o ymgysylltu â phlant a phobl ifanc wrth archwilio eu dyheadau ar gyfer addysg, cyflogaeth, iechyd, tai, rhyngweithio cymdeithasol a pherthnasoedd yn y dyfodol
- sut mae cefnogi plant a phobl ifanc i weld eu hunain fel dinasyddion llwyddiannus, hyderus a chyfrifol yn ogystal â chyfranwyr effeithiol at gymdeithas
- y sgiliau, y galluoedd a’r cryfderau y bydd eu hangen ar blant a phobl ifanc i gynllunio ar gyfer oedolaeth, dinasyddiaeth ac annibyniaeth, ac i’w paratoi ar gyfer hynny
- sut mae llunio cynlluniau effeithiol y gellir eu cyflawni
- yr heriau cymdeithasol, economaidd-gymdeithasol, amgylcheddol a chorfforol y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu wrth baratoi ar gyfer oedolaeth, dinasyddiaeth ac annibyniaeth
- y sgiliau ymarferol a’r wybodaeth sy’n berthnasol i oedolaeth, dinasyddiaeth ac annibyniaeth
- yr arwyddion a all ddangos bod plant a phobl ifanc yn barod ar gyfer oedolaeth, dinasyddiaeth ac annibyniaeth
- strategaethau i gefnogi plant a phobl ifanc i feithrin perthnasoedd, datrys gwrthdaro a datblygu gwydnwch
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth baratoi plant a phobl ifanc ar gyfer oedolaeth, dinasyddiaeth ac annibyniaeth
- strategaethau i gefnogi plant a phobl ifanc i ddatblygu sgiliau i reoleiddio eu hemosiynau eu hunain
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar baratoi ar gyfer oedolaeth, dinasyddiaeth ac annibyniaeth
- sut mae cefnogi plant a phobl ifanc sy'n ofalwyr i baratoi ar gyfer oedolaeth, dinasyddiaeth ac annibyniaeth
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i baratoi plant a phobl ifanc ar gyfer oedolaeth, dinasyddiaeth ac annibyniaeth
- rôl dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau o ran paratoi plant a phobl ifanc ar gyfer oedolaeth, dinasyddiaeth ac annibyniaeth
- pwysigrwydd grymuso plant a phobl ifanc i ddatrys problemau a rhwystrau
- sut mae dod o hyd i gymorth, cyngor ac arweiniad pan fydd plant a phobl ifanc yn methu â datrys problemau a rhwystrau
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu oedolaeth, dinasyddiaeth, ac annibyniaeth
- theorïau sy’n berthnasol i oedolaeth, dinasyddiaeth, ac annibyniaeth
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu oedolaeth, dinasyddiaeth, ac annibyniaeth
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu oedolaeth, dinasyddiaeth, ac annibyniaeth
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu oedolaeth, dinasyddiaeth, ac annibyniaeth
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu oedolaeth, dinasyddiaeth, ac annibyniaeth, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu oedolaeth, dinasyddiaeth, ac annibyniaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD367
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Oedolaeth, Dinasyddiaeth, Annibyniaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu