Gweithio gyda phlant a phobl ifanc i reoli agweddau ar eu bywydau
URN: HSCCLD366
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn amlinellu'r gofynion ar gyfer gweithio mewn partneriaeth â phlant a phobl ifanc i’w cefnogi i wneud penderfyniadau a rheoli amrywiol agweddau ar eu bywydau. Mae'n cynnwys datblygu annibyniaeth mewn perthynas â dillad, edrychiad, gofod personol gartref, arian a gweithgareddau. Ar ben hynny, mae'n golygu eu helpu i nodi a meithrin eu cryfderau, eu diddordebau a'u galluoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am blant neu bobl ifanc
- cefnogi plant neu bobl ifanc ac eraill i nodi eu cryfderau, eu diddordebau a’u galluoedd
- cefnogi plant neu bobl ifanc ac eraill i nodi dewisiadau, anghenion a chanlyniadau mewn perthynas â’u gofal a chymorth
- gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc ac eraill i nodi’r risgiau posibl a manteision cymryd risgiau cadarnhaol
- gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc i wneud penderfyniadau am eu dillad a’u hymddangosiad, ac i reoli hynny
- gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc i wneud penderfyniadau am eu harian, ac i reoli hynny
- gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc i wneud penderfyniadau am eu gofod personol gartref, ac i reoli hynny
- gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc i wneud penderfyniadau am eu gweithgareddau cymdeithasol, ac i reoli hynny
- cefnogi plant neu bobl ifanc i gael gafael ar ddyfeisiau ac adnoddau digidol ac i reoli eu presenoldeb ar-lein
- cefnogi plant neu bobl ifanc i feithrin eu hunaniaeth a’u hunan-barch
- annog plant neu bobl ifanc i ddatblygu perthynas ag eraill
- cefnogi plant neu bobl ifanc i adnabod sut mae eu diddordebau, eu cryfderau a’u galluoedd yn gallu gwella eu llesiant a’u canlyniadau
- cefnogi plant neu bobl ifanc i reoli risgiau, heriau a chyfyngiadau mewn perthynas â diogelu
- cefnogi plant neu bobl ifanc i nodi strategaethau ar gyfer rheoleiddio emosiynol
- cefnogi plant neu bobl ifanc i ddatblygu gwydnwch a dysgu o heriau
- dathlu dyfalbarhad, ymdrechion neu lwyddiant plant neu bobl ifanc, ac annog eraill i wneud hynny
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gweithio gyda phlant neu bobl ifanc i reoli agweddau ar eu bywydau
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth weithio â phlant neu bobl ifanc i reoli agweddau ar eu bywydau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich rôl o ran hybu hawliau, dewisiadau, llesiant a chyfranogiad plant a phobl ifanc
- y sgiliau cyfathrebu a gwrando sydd eu hangen i ymwneud â phlant a phobl ifanc, ac i ryngweithio’n effeithiol â nhw
- sut mae cefnogi plant a phobl ifanc i ddatblygu dulliau rheoleiddio emosiynol
- sut mae pŵer a dylanwad yn gallu cael eu defnyddio a’u camddefnyddio wrth gefnogi plant a phobl ifanc i reoli agweddau ar eu bywydau
- sut a ble i gael gafael ar wybodaeth a chymorth a all lywio eich ymarfer wrth gefnogi plant a phobl ifanc i reoli eu bywydau
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar sut mae plant a phobl ifanc yn rheoli agweddau ar eu bywydau
- dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar sut mae plant a phobl ifanc yn rheoli agweddau ar eu bywydau
- sut mae gwneud trefniadau ymarferol a sicrhau adnoddau i gefnogi plant a phobl ifanc, gan ystyried cynaliadwyedd
- sut mae nodi a rheoli risgiau a chefnogi cymryd risgiau cadarnhaol
- sut mae cefnogi plant a phobl ifanc i ddefnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol ac i reoli eu presenoldeb ar-lein yn ddiogel
- pwysigrwydd perthnasoedd a rhwydweithiau cymorth cyson ar gyfer plant a phobl ifanc
- pam ei fod yn bwysig cydnabod dyfalbarhad, ymdrech a llwyddiant er llesiant plant a phobl ifanc
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi plant a phobl ifanc i reoli eu bywydau
- ffyrdd o ddarparu gwybodaeth a chyngor a fydd yn galluogi plant a phobl ifanc i reoli eu dillad, eu hedrychiad, eu harian, eu cartref a’u gweithgareddau
- pwysigrwydd, buddion a dulliau o ddatblygu hyder plant a phobl ifanc
- ffyrdd o annog plant a phobl ifanc i ddilyn eu diddordebau a gwella eu cryfderau a’u galluoedd
- rôl chwarae, adloniant a hamdden mewn perthynas ag iechyd a llesiant plant a phobl ifanc
- sut mae ymateb yn hyblyg i’r gwahanol lefelau o gymorth ac atebolrwydd sydd eu hangen ar gyfer plant a phobl ifanc
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi plant a phobl ifanc i reoli agweddau ar eu bywydau
- sut mae cefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni eu llawn botensial
- sut mae hybu dewis a chymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi plant a phobl ifanc i reoli agweddau ar eu bywydau
- sut mae ymateb i faterion neu bryderon wrth gefnogi plant a phobl ifanc i reoli agweddau ar eu bywydau
- theorïau sy'n berthnasol i weithio gyda phlant a phobl ifanc i reoli agweddau ar eu bywydau
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc i reoli agweddau ar eu bywydau
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc i reoli agweddau ar eu bywydau
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc i reoli agweddau ar eu bywydau, a sut i fynd i’r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc i reoli agweddau ar eu bywydau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD366
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Rheoli agweddau ar eu bywydau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu