Rhoi meddyginiaeth i blant
URN: HSCCLD364
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth roi meddyginiaeth i blant. Mae'r safon yn cynnwys defnyddio meddyginiaeth gan gynnwys caniatâd, paratoi, rhoi meddyginiaeth, yn ogystal â rhoi arferion ar waith i sicrhau bod cyflenwadau meddyginiaeth yn cael eu derbyn, eu storio, eu dychwelyd a'u gwaredu'n ddiogel.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill mewn perthynas â rhoi meddyginiaeth i blant
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am roi meddyginiaeth i blant
- gweithio mewn partneriaeth â phlant a theuluoedd i gadarnhau sut, ble a phryd y bydd meddyginiaeth yn cael ei rhoi a chael caniatâd i wneud hynny
- gweithio mewn partneriaeth â phlant a theuluoedd i gadarnhau’r adnoddau a’r cymorth sydd eu hangen ar gyfer rhoi meddyginiaeth
- annog a chefnogi plant a theuluoedd i ofyn cwestiynau a mynegi eu barn neu bryderon mewn perthynas â rhoi meddyginiaeth
- sicrhau bod y feddyginiaeth yn ei chynhwysydd gwreiddiol a bod label fferyllfa glir arni gyda'r enw, y dos, y dyddiad dod i ben ac unrhyw ofynion penodol
- dilyn dulliau atal a rheoli heintiau ar gyfer defnyddio meddyginiaeth, a chefnogi plant i wneud hynny
- cadarnhau pryd y rhoddwyd meddyginiaeth ddiwethaf a'r dos a roddwyd
- gwirio’r enw, y feddyginiaeth, y dos, y llwybr a’r amser, ac yna paratoi'r feddyginiaeth
- paratoi’r amgylchedd a’r cyfarpar sydd ei angen i roi’r feddyginiaeth
- defnyddio dulliau cyfathrebu effeithiol i roi cefnogaeth a sicrwydd wrth roi meddyginiaeth i blant
- gwylio bod meddyginiaeth yn cael ei chymryd a chadw llygad rhag ofn y bydd unrhyw adwaith
- storio neu ddychwelyd meddyginiaeth yn unol â gofynion y feddyginiaeth benodol a'r gweithle
- gwaredu neu ddychwelyd meddyginiaeth sydd heb gael ei defnyddio neu sy’n hen
- rhoi gwybod i deuluoedd neu eraill sydd angen cael gwybod am roi meddyginiaeth
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer rhoi meddyginiaeth i blant
- Meddyliwch ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a’ch cyfrifoldebau wrth roi meddygniniaeth i blant
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am roi meddyginiaeth i blant, a sut mae adolygu’r wybodaeth honno
- y mathau cyffredin o feddyginiaeth i blant a’u defnydd cyffredinol
- y gwahanol ddosbarthiadau o feddyginiaeth a’r goblygiadau o ran storio, defnyddio a gwaredu’n ddiogel
- y llwybrau y gellir eu defnyddio i roi meddyginiaeth yn y corff
- gwahanol ffurfiau meddyginiaeth
- pwysigrwydd dysgu a datblygu wrth roi meddyginiaeth i blant, a’r risgiau posibl os nad oes gan rywun y sgiliau i wneud hynny
- oedran cydsynio plant ar gyfer triniaeth feddygol ac ystyriaethau capasiti
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar roi meddyginiaeth i blant
- rôl caniatâd rhieni o ran rhoi meddyginiaeth i blant a phwy sydd â chyfrifoldeb rhiant
- pam y dylid rhoi terfyn amser ar ganiatâd ar gyfer meddyginiaeth
- sut mae asesiadau risg yn gallu cael eu defnyddio i gefnogi annibyniaeth plant o ran rhoi meddyginiaeth
- dylanwad diwylliant a chefndir ar roi meddyginiaeth i blant
- y gofynion wrth roi meddyginiaeth newydd am y tro cyntaf
- ystyriaethau ychwanegol ar gyfer meddyginiaethau sydd i gael eu rhoi yn ôl yr angen
- yr adnoddau a’r cyfarpar a all helpu wrth roi meddyginiaeth
- y mathau o dechnoleg ddigidol a all gefnogi wrth roi meddyginiaeth i blant
- sut mae defnyddio technegau di-gyffwrdd wrth baratoi meddyginiaeth
- rhagofalon hylendid a chanlyniadau posibl peidio â’u dilyn wrth roi meddyginiaeth
- sut mae cefnogi plant a theuluoedd i ddeall y rheswm dros ragofalon hylendid
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi plant wrth roi meddyginiaeth
- sut mae rhoi cymorth a chysur i blant wrth roi meddyginiaeth a delio ag unrhyw heriau ymarferol
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth roi meddyginiaeth i blant
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth roi meddyginiaeth
- sut mae adnabod a delio ag adwaith neu argyfwng iechyd wrth roi meddyginiaeth
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer rhoi meddyginiaeth i blant
- theorïau sy’n berthnasol i roi meddyginiaeth i blant
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer rhoi meddyginiaeth i blant
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth roi meddyginiaeth i blant
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill wrth roi meddyginiaeth i blant
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth roi meddyginiaeth i blant, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, myfyrio, a dysgu a datblygu wrth roi meddyginiaeth i blant
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD364
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Rhoi Meddyginiaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu