Hybu anghenion gofal personol plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
URN: HSCCLD363
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol i gwrdd â’u hanghenion gofal personol o ran hylendid, maeth a symudedd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phlant a phobl ifanc i ddatblygu cynlluniau i gwrdd â’u hanghenion gofal personol a'u cefnogi i roi'r cynlluniau hyn ar waith. Mae hefyd yn cynnwys cyfrannu at werthuso pa mor effeithiol mae'r cynlluniau a'r ddarpariaeth wedi bod o ran cwrdd â’u hanghenion gofal personol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael caniatâd a wybodaeth am anghenion gofal personol plant neu bobl ifanc
- chwilio am wybodaeth a nodi gwahanol ffyrdd o gwrdd ag anghenion gofal personol plant neu bobl ifanc
- sicrhau bod cynlluniau’n parchu preifatrwydd, urddas, annibyniaeth a chynhwysiant plant neu bobl ifanc
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i werthuso effeithiolrwydd y ddarpariaeth ar gyfer anghenion gofal
- gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc i nodi eu barn a’u dewisiadau o ran eu hanghenion gofal personol
- cefnogi plant neu bobl ifanc i nodi sut mae eu sgiliau a'u gwybodaeth yn gallu cwrdd â’u hanghenion
- helpu plant neu bobl ifanc i gwrdd â’u hanghenion gofal personol wrth reoli risgiau
- annog a chefnogi annibyniaeth plant neu bobl ifanc mewn gweithgareddau sy’n cefnogi eu hanghenion gofal personol
- cefnogi plant neu bobl ifanc â rheoleiddio emosiynol ac i ddeall rhwystredigaethau
- cefnogi plant neu bobl ifanc ac eraill i roi adborth ynghylch effeithiolrwydd y ddarpariaeth
- rhoi adborth ynghylch effeithiolrwydd y ddarpariaeth
- nodi a mynd i’r afael â’r newidiadau sydd eu hangen i gefnogi anghenion gofal personol plant neu bobl ifanc
- gweithio mewn partneriaeth i ymgymryd â newidiadau i’r cynllun personol, y rhesymau pam y cafodd y rhain eu gwneud, a sut y sicrheir adnoddau ar eu cyfer
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer anghenion gofal personol plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- Meddyliwch sut y gwanethoch chi gyflawni eich rolau a’ch cyfrifoldebau wrth hybu anghenion gofal plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y newidiadau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu ac effaith newid ar eu hanghenion gofal personol
- yr anghenion gofal personol amrywiol y gall fod gan blant a phobl ifanc o ran hylendid, maeth a symudedd
- sut mae datblygu a gweithredu cynlluniau personol sy’n mynd i’r afael ag anghenion penodol plant a phobl ifanc
- sut mae nodi a rheoli risgiau sy'n gysylltiedig â gweithgareddau gofal personol
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i hybu gofal personol, dysg a datblygiad plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- technegau ar gyfer cyfathrebu'n effeithiol â phlant a phobl ifanc am eu hanghenion gofal personol a’u dewisiadau
- sut mae sicrhau bod gweithgareddau gofal personol yn cael eu cynnal mewn ffordd sy'n parchu preifatrwydd ac urddas plant a phobl ifanc
- sut mae darparu cymorth emosiynol i blant a phobl ifanc yn ystod gweithgareddau gofal personol
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi gofal personol plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol yn ystod gweithgareddau gofal personol
- defnydd addas o derminoleg arbenigol i gefnogi dealltwriaeth o anghenion gofal personol plant a phobl ifanc
- y cymorth arbenigol sydd ar gael i blant a phobl ifanc, teuluoedd ac eraill mewn perthynas â gofal personol
- pwysigrwydd teuluoedd o ran cefnogi anghenion gofal personol plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- sut mae cynllunio dulliau personol sy'n cwrdd â gofynion gofal personol plant a phobl ifanc
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar anghenion gofal personol a dewisiadau
- dylanwad diwylliant a chefndir ar anghenion gofal personol a dewisiadau
- sut mae addasu ymarfer i gwrdd ag anghenion gofal personol plant a phobl ifanc
- sut mae gwerthuso effeithiolrwydd y ddarpariaeth ar gyfer anghenion gofal personol
- yr amrywiaeth o ddyfeisiau ac adnoddau digidol, cymhorthion a chyfarpar a’u defnydd diogel mewn gofal personol
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu anghenion gofal personol plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- theorïau sy’n berthnasol i hybu anghenion gofal personol plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu anghenion gofal personol plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu gofal personol plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill wrth hybu anghenion gofal personol plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth hybu anghenion gofal personol plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu anghenion gofal personol plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD363
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Anghenion gofal personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu