Hybu rhaglenni a gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol

URN: HSCCLD362
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth hybu rhaglenni a gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion cymorth ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys cyfrannu at asesu anghenion cymorth a lefelau datblygiadol penodol plant a phobl ifanc, cefnogi’r gwaith o gynnal rhaglenni a gweithgareddau cefnogi i gwrdd â dewisiadau ac anghenion plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol, a chyfrannu at werthuso cyfranogiad plant a phobl ifanc mewn rhaglenni a gweithgareddau cefnogi.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am ddatblygiad, dewisiadau, ac anghenion cymorth plant neu bobl ifanc
  2. nodi prosesau a fframweithiau asesu i sicrhau dull addas er mwyn deall dewisiadau ac anghenion plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol  
  3. cefnogi plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol ac eraill i drafod pwrpas asesiadau, beth maent yn ei olygu, a sut maent yn cael eu defnyddio i roi cymorth
  4. cefnogi plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol ac eraill i roi gwybod am eu dewisiadau, eu pryderon a’u barn am asesiadau  
  5. nodi meysydd lle mae gan blant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol ac eraill safbwyntiau gwahanol, a chytuno ar ffyrdd o reoli'r gwahaniaethau hyn  
  6. ymgymryd â meysydd asesu rydych chi’n gyfrifol amdanynt a chynorthwyo eraill i wneud hynny  
  7. gweithio mewn ffyrdd sy'n cydnabod arbenigedd, profiad a diwylliant plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol ac eraill  
  8. cyfrannu at nodi canlyniadau gweithgareddau a rhaglenni datblygu ar gyfer plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol  
  9. gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol ac eraill i archwilio a gwerthuso gwahanol opsiynau i gwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion  
  10. cefnogi plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol ac eraill i fynegi eu barn a’u dewisiadau am raglenni a gweithgareddau  
  11. nodi adnoddau sy'n cefnogi cymryd rhan, datblygu a rheoli risg mewn perthynas â phlant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol  
  12. cyfrannu at gytuno ar raglenni a gweithgareddau a sut y byddant yn cael eu cynnal er mwyn cefnogi plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol yn y ffordd orau  
  13. cynnal gweithgareddau yr ydych chi’n gyfrifol amdanynt ac annog annibyniaeth ymysg plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol i gymryd rhan mewn rhaglenni a gweithgareddau  
  14. monitro unrhyw newidiadau mewn plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol yn ystod eu cyfranogiad a chymryd camau addas
  15. defnyddio arsylwadau i asesu effaith gweithgareddau a rhaglenni ar blant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol  
  16. cefnogi plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol ac eraill i roi adborth am raglenni a gweithgareddau  
  17. gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol ac eraill i adnabod y newidiadau y mae angen eu gwneud i raglenni a gweithgareddau  
  18. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar raglenni a gweithgareddau i blant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  19. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu rhaglenni a gweithgareddau ar gyfer plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. arwyddocâd newidiadau yn natblygiad plant a phobl ifanc a sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar eu gofynion o ran datblygiad
  2. dylanwad diwylliant a chefndir ar ddewis rhaglenni a gweithgareddau i blant a phobl ifanc
  3. sut mae creu a gweithredu cynlluniau datblygu unigol sy’n mynd i’r afael â dewisiadau ac anghenion plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol  
  4. technegau ar gyfer asesu a rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau datblygiadol, a chefnogi cymryd risgiau cadarnhaol  
  5. ffyrdd o gyfathrebu â phlant a phobl ifanc am eu nodau datblygiadol, eu dewisiadau, a’r gweithgareddau y byddant yn cymryd rhan ynddynt
  6. sut mae darparu cymorth emosiynol a seicolegol i blant a phobl ifanc yn ystod asesiadau a gweithgareddau datblygiadol mewn ffordd breifat ac urddasol
  7. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu rhaglenni a gweithgareddau i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  8. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth gymryd rhan mewn rhaglenni a gweithgareddau  
  9. sut mae defnyddio terminoleg ac iaith addas i drafod anghenion datblygiadol a gofal â phlant a phobl ifanc, teuluoedd, ac eraill
  10. yr ystod o wasanaethau cymorth arbenigol lleol a chenedlaethol sydd ar gael i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol, sut mae cael gafael ar yr adnoddau hyn, a phwysigrwydd arferion cynaliadwy  
  11. pwysigrwydd teuluoedd o ran asesu a chwrdd ag anghenion datblygu plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  12. yr heriau datblygiadol penodol sy’n codi mewn perthynas â gwahanol anghenion ychwanegol a sut mae’r rhain yn dylanwadu ar ofal, dysg a datblygiad plant a phobl ifanc
  13. patrymau datblygiadol nodweddiadol a'r amrywiadau unigol o ran anghenion datblygiadol, a sut mae rhoi cyfrif am y gwahaniaethau hyn wrth gynllunio gweithgareddau gofal a dysgu
  14. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i hybu rhaglenni a gweithgareddau i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  15. sut mae dylunio a chynllunio dulliau personol sy'n cwrdd ag anghenion gofal datblygiadol plant a phobl ifanc
  16. sut mae addasu eich ymarfer a’ch ymyriadau i gwrdd ag anghenion datblygiadol plant a phobl ifanc
  17. dulliau i werthuso effeithiolrwydd cymorth datblygiadol  
  18. rôl dyfeisiau ac adnoddau digidol o ran cefnogi anghenion gofal personol a datblygu plant a phobl ifanc, a sut i’w defnyddio’n ddiogel ac yn effeithiol
  19. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu rhaglenni a gweithgareddau i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  20. theorïau sy’n berthnasol i hybu rhaglenni a gweithgareddau i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  21. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu rhaglenni a gweithgareddau i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  22. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu rhaglenni a gweithgareddau i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  23. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu rhaglenni a gweithgareddau i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  24. sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth hybu rhaglenni a gweithgareddau i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol, a sut i fynd i'r afael â hyn
  25. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu rhaglenni a gweithgareddau i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD362

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Rhaglenni, Gweithgareddau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu