Hybu’r defnydd o dechnoleg ddigidol wrth i blant a phobl ifanc ddysgu
URN: HSCCLD361
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn amlinellu'r gofynion ar gyfer hybu’r defnydd o dechnoleg ddigidol wrth i blant a phobl ifanc ddysgu. Mae'n cynnwys integreiddio amrywiaeth o weithgareddau digidol mewn dysgu bob dydd, cefnogi datblygiad llythrennedd digidol, a sicrhau mynediad teg at adnoddau digidol. Dylai'r defnydd o dechnoleg ddigidol ategu profiadau dysgu ymarferol a rhyngweithiadau cymdeithasol yn hytrach na’u disodli.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynllunio ar gyfer defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol mewn ffyrdd sy'n gwella profiadau dysgu ymarferol a rhyngweithiadau cymdeithasol yn hytrach na’u disodli
- gwerthuso'r adnoddau digidol sydd ar gael o ran eu haddasrwydd i gefnogi dysgu
- ystyried sut y gellir integreiddio dyfeisiau ac adnoddau digidol mewn dysgu sy’n seiliedig ar chwarae ac arferion dyddiol addas
- sicrhau bod eraill yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg ddigidol i gefnogi dysgu digidol plant neu bobl ifanc
- nodi a mynd i’r afael â heriau i fynediad digidol, gan sicrhau tegwch a chynhwysiant
- defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi chwarae archwiliol penagored sy'n ennyn diddordeb ac yn addas o ran datblygiad
- gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i gefnogi plant neu bobl ifanc i ddysgu drwy brofiadau digidol
- rhoi cyfleoedd i deuluoedd gymryd rhan mewn dysgu digidol
- sicrhau bod plant neu bobl ifanc yn gallu cael gafael ar gynnwys digidol o ansawdd uchel sy'n hybu gallu creadigol a chwilfrydedd
- sicrhau bod plant neu bobl ifanc yn cael amser i ymgysylltu, archwilio ac ymgyfarwyddo â dyfeisiau ac adnoddau digidol ar eu cyflymder eu hunain
- cefnogi plant neu bobl ifanc i adnabod gwahanol fathau o dechnoleg ddigidol a’u prif gydrannau
- cefnogi plant neu bobl ifanc i ddatblygu sgiliau i ddefnyddio technoleg ddigidol
- cefnogi plant neu bobl ifanc i ddefnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol mewn cyd-destunau ystyrlon ac ar gyfer pwrpasau go iawn
- hybu hyder a hunan-barch plant neu bobl ifanc drwy brofiadau digidol cadarnhaol
- annog plant neu bobl ifanc i ddefnyddio technoleg ddigidol i ymchwilio a chyfathrebu syniadau, datrys problemau a mynegi eu hunain
- datblygu strategaethau ar gyfer monitro ymgysylltiad digidol a datblygiad sgiliau plant neu bobl ifanc
- gweithredu prosesau gwerthuso i asesu effaith technoleg ddigidol ar allu plant neu bobl ifanc i ddysgu
- cefnogi plant neu bobl ifanc â diogelwch ar-lein, preifatrwydd, a defnydd cyfrifol o ddyfeisiau ac adnoddau digidol
- adolygu ac addasu strategaethau dysgu digidol yn seiliedig ar arsylwadau, adborth ac arferion gorau sy'n dod i'r amlwg
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer defnyddio technoleg ddigidol wrth i blant neu bobl ifanc ddysgu
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu’r defnydd o dechnoleg ddigidol wrth i blant neu bobl ifanc ddysgu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd cydbwyso profiadau digidol â dysgu ymarferol yn y byd go iawn
- sut gall profiadau digidol gefnogi datblygiad corfforol, cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol fel rhan o'r cwricwlwm ehangach
- strategaethau ar gyfer addasu dysgu digidol ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n amrywio o ran oed, gallu ac anghenion
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi dysgu dwyieithog ac amlieithog
- y sgiliau digidol hanfodol y mae angen i blant a phobl ifanc eu datblygu yn ystod eu plentyndod cynnar, gan gynnwys gwe-lywio, datrys problemau a gallu creadigol sylfaenol
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth gefnogi plant a phobl ifanc i ddefnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol
- ystyriaethau diogelwch ar-lein i blant a phobl ifanc, gan gynnwys preifatrwydd data, cynnwys sy'n addas i’r oedran, a seiberwydnwch
- sut mae dewis a gwerthuso adnoddau digidol sy’n cyd-fynd ag arferion gorau mewn dysgu cynnar
- dulliau ar gyfer atal mynediad at gynnwys anaddas ar-lein
- sut mae sicrhau bod dysgu digidol yn gynhwysol ac yn hygyrch i blant a phobl ifanc
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ryngweithiadau plant a phobl ifanc â dyfeisiau ac adnoddau digidol
- dylanwad diwylliant a chefndir ar y defnydd o ddyfeisiau ac adnoddau digidol
- pwysigrwydd cefnogi teuluoedd i ddatblygu sgiliau digidol er mwyn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc wrth iddyn nhw ddysgu
- sut y gellir defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi rheoleiddio emosiynol
- dulliau ar gyfer asesu ymgysylltiad digidol a chynnydd plant a phobl ifanc
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi plant a phobl ifanc i ddefnyddio technoleg ddigidol
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu’r defnydd o dechnoleg ddigidol wrth i blant a phobl ifanc ddysgu
- theorïau sy’n berthnasol i’r defnydd o dechnoleg ddigidol wrth i blant a phobl ifanc ddysgu
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu’r defnydd o dechnoleg ddigidol wrth i blant a phobl ifanc ddysgu
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu’r defnydd o dechnoleg ddigidol wrth i blant a phobl ifanc ddysgu
- sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth hybu’r defnydd o dechnoleg ddigidol wrth i blant a phobl ifanc ddysgu, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth ddefnyddio technoleg ddigidol wrth i blant a phobl ifanc ddysgu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD361
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Technoleg digidol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu