Hybu potensial addysgol plant a phobl ifanc
URN: HSCCLD360
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth hybu potensial addysgol plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys cefnogi plant a phobl ifanc i nodi eu dyheadau addysgol ac yna’u helpu i gynllunio a chael mynediad at gyfleoedd a gweithgareddau addysgol. Mae hefyd yn cynnwys annog a chefnogi plant a phobl ifanc pan fyddant yn ymgymryd â gweithgareddau addysgol ac adolygu pa mor effeithiol mae'r gweithgareddau wedi bod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi anghenion cyfathrebu, iaith a datblygiadol plant neu bobl ifanc
- hybu amrywiaeth, cynhwysiant, hygyrchedd a chyfranogiad
- gwrando ac ymateb mewn ffordd sy'n dangos eich bod yn gwerthfawrogi ac yn parchu plant neu bobl ifanc
- gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc i nodi eu cryfderau, eu potensial addysgol a’r canlyniadau maent yn dymuno’u cyflawni yn ystod eu bywydau
- nodi gyda phlant neu bobl ifanc sut y gallant adeiladu ar eu cryfderau a’u potensial addysgol i gyflawni eu canlyniadau
- cefnogi plant neu bobl ifanc i archwilio’r hyn sy’n eu hysgogi a gosod nodau realistig y gellir eu cyflawni ynghyd â chanlyniadau mesuradwy
- cefnogi plant neu bobl ifanc i nodi a mynegi eu pryderon, eu hofnau a’r risgiau posibl
- gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc ac eraill i gynllunio a rheoli eu pryderon, eu hofnau a’r risgiau posibl
- gweithio mewn partneriaeth â’r plentyn neu berson ifanc ac eraill i gynllunio, cydlynu a chael gafael ar yr adnoddau sydd ar gael ynghyd â chymorth i gyflawni eu nodau a’u canlyniadau addysgol
- gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc ac eraill ar atebion creadigol ar gyfer adnoddau a chymorth
- grymuso plant neu bobl ifanc ac eraill i gynllunio unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen i gyflawni eu nodau a’u canlyniadau addysgol
- cynnwys plant neu bobl ifanc mewn perthynas â sut y bydd nodau a chanlyniadau addysgol yn cael eu monitro a'u hadolygu
- cydnabod llwyddiannau a chyflawniadau addysgol plant neu bobl ifanc
- annog eraill i gydnabod llwyddiannau a chyflawniadau addysgol plant neu bobl ifanc
- monitro’r gwaith o weithredu’r adnoddau a'r cymorth a gynlluniwyd
- defnyddio strategaethau i ddatblygu sgiliau hunanreoleiddio plant neu bobl ifanc wrth reoli heriau
- mynd ati mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc ac eraill i adolygu cyflawniadau, nodau a chanlyniadau addysgol, a nodi unrhyw newidiadau sy’n angenrheidiol
- rhoi gwybod i eraill am gynnydd a newidiadau i adnoddau, cymorth, nodau a chanlyniadau addysgol plant neu bobl ifanc
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen am nodau a chanlyniadau addysgol plant neu bobl ifanc
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu potensial addysgol plant a phobl ifanc
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar gofnodion a gwybodaeth am anghenion cyfathrebu, iaith a datblygiadol plant a phobl ifanc
- sut a ble i gael gafael ar adnoddau a chymorth ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc
- yr ystyriaethau ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal o ran cyflawni eu canlyniadau addysgol
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma mewn cymorth addysgol
- egwyddorion asesiadau risg, rheoli risgiau a chymryd risgiau cadarnhaol
- sut mae gweithio mewn partneriaeth â phlant a phobl ifanc ac eraill i nodi beth sy'n bwysig iddynt yn eu bywydau a pham
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi mewn cymorth addysgol
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol yn ystod cymorth addysgol
- sut mae adnabod ymddygiad fel ffordd o gyfathrebu
- pwysigrwydd cwrdd ag anghenion addysgol plant a phobl ifanc a'r cysylltiad rhwng addysg a'r canlyniadau maent yn dymuno’u cyflawni yn ystod eu bywydau
- sut mae gweithio mewn partneriaeth â phlant a phobl ifanc ac eraill i nodi, mesur a gwerthuso eu canlyniadau
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial addysgol
- ffactorau sy’n cefnogi plant a phobl ifanc i ffynnu a chyflawni eu llawn botensial
- sut mae cefnogi niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol plant a phobl ifanc mewn cymorth addysgol
- sut mae stereoteipiau a stigma yn gallu cyfyngu ar ddatblygiad addysgol plant a phobl ifanc
- ffactorau amgylcheddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol a all wella neu gyfyngu ar gyflawniad a datblygiad addysgol
- dylanwad diwylliant a chefndir ar y cymorth addysgol i blant a phobl ifanc
- sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu ac yn cyflawni drwy addysg a sut mae hyn yn perthyn i agweddau eraill ar eu datblygiad
- yr adnoddau, yr wybodaeth a'r cyngor sydd ar gael i gefnogi datblygiad addysgol a chyflawniadau plant a phobl ifanc
- y mathau o gyfleoedd sy’n codi’n naturiol sy'n cefnogi plant a phobl ifanc mewn perthynas â’u cyflawniad a’u datblygiad addysgol
- y ddarpariaeth addysgol leol a’r opsiynau sydd ar gael i gefnogi anghenion addysgol plant a phobl ifanc
- y dulliau o annog ac ysgogi plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial addysgol
- theorïau sy’n berthnasol i botensial addysgol plant a phobl ifanc
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu potensial addysgol plant a phobl ifanc
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, urddas, cynhwysiant a hawliau wrth hybu potensial addysgol plant a phobl ifanc
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu potensial addysgol plant a phobl ifanc
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi yn ystod addysg plant a phobl ifanc
- sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth hybu potensial addysgol plant a phobl ifanc, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu potensial addysgol plant a phobl ifanc
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD360
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Potensial Addysgol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu