Hybu effeithiolrwydd timau

URN: HSCCLD36
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion ar gyfer hybu effeithiolrwydd timau. Mae'n cynnwys cydlynu rolau o fewn timau, meithrin arferion tîm, cefnogi cyfranogiad llawn, a chynnal safonau proffesiynol uchel.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rhannu gwybodaeth am dimau, canlyniadau, a gweledigaeth a phwrpas y gweithle  
  2. nodi a chytuno ar sut mae rolau a chyfrifoldebau yn cyfrannu at ganlyniadau timau ynghyd â gweledigaeth a phwrpas y gweithle  
  3. hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau er mwyn dangos parch a gwerthfawrogiad at eraill
  4. hybu diwylliant o ddidwylledd, cydgefnogaeth, uniondeb a llesiant yn y gweithle  
  5. modelu ymarfer proffesiynol
  6. defnyddio dulliau cyfathrebu proffesiynol effeithiol yn y gweithle  
  7. creu amgylcheddau i rannu syniadau, safbwyntiau a phryderon i weithio’n well mewn tîm  
  8. grymuso eraill i reoli newid ac ymgymryd â thasgau newydd  
  9. rhoi cefnogaeth a chyngor i eraill i'w galluogi i gyflawni eu rolau a'u cyfrifoldebau
  10. rhoi gwybodaeth a sgiliau i eraill wrth rannu tasgau  
  11. grymuso eraill i ymarfer hunanofal, rheoleiddio emosiynau a datblygu gwytnwch  
  12. ymarfer hunanofal, rheoleiddio eich emosiynau a datblygu gwytnwch
  13. sicrhau bod arferion gwaith yn cael eu cyflawni fel y cytunwyd
  14. rhannu’r diweddaraf ag eraill am gynnydd tuag at derfynau amser ac ymrwymiadau  
  15. gwahodd adborth am eich cyfraniad at dimau a’i effeithiolrwydd a datblygu strategaethau gwella  
  16. annog eraill i nodi gwerth eu rolau a'u cryfderau
  17. chwilio am gyfleoedd i rannu gwybodaeth a sgiliau ag eraill  
  18. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu effeithiolrwydd timau  
  19. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu effeithiolrwydd timau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae cael gafael ar wybodaeth am dimau, canlyniadau, a gweledigaeth a phwrpas y gweithle
  2. pwysigrwydd cytuno ar rolau a chyfrifoldebau’r unigolyn a’r tîm
  3. sut mae cyfrannu at ddiwylliant o ddidwylledd, cydgefnogaeth, uniondeb a llesiant yn y tîm
  4. pwysigrwydd safonau ymarfer proffesiynol uchel
  5. pwysigrwydd arweinyddiaeth ar bob lefel yn y gweithle
  6. sut mae cymryd rhan mewn gwerthusiadau tîm a'r gweithle
  7. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar hybu effeithiolrwydd timau
  8. ffactorau sy’n creu amgylcheddau diogel ac sy’n annog rhannu syniadau a heriau
  9. pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol a deall safbwyntiau pobl eraill
  10. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu effeithiolrwydd timau
  11. yr egwyddorion sy'n sail i weithio'n effeithiol mewn tîm
  12. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi gweithio mewn tîm
  13. dulliau o ryngweithio a sut gallant effeithio ar waith tîm
  14. dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd ar y ffordd rydych yn gweithio ag eraill
  15. sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi gydag aelodau’r tîm
  16. yr effeithiau y mae blaenoriaethau gwaith yn eu cael ar eraill a sut mae cynnig cymorth a chefnogaeth  
  17. pwysigrwydd rhoi gwybod i eraill pan nad ydych chi’n gallu cadw at derfynau amser ac ymrwymiadau
  18. eich cryfderau a meysydd i'w datblygu wrth weithio mewn tîm a strategaethau gwella  
  19. sut a ble i gael gafael ar wybodaeth a chymorth a all lywio eich ymarfer o ran gweithio mewn tîm  
  20. sut mae cyfrannu at natur broffesiynol y timau, a chefnogi eraill i wneud hynny
  21. technegau i gefnogi hunanofal, rheoleiddio emosiynol a gwytnwch yn wyneb rhwystrau
  22. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i hybu effeithiolrwydd timau
  23. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu effeithiolrwydd timau
  24. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu effeithiolrwydd timau
  25. damcaniaethau sy’n berthnasol i effeithiolrwydd timau
  26. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu effeithiolrwydd timau  
  27. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu effeithiolrwydd timau
  28. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu effeithiolrwydd timau, a sut i fynd i'r afael â hyn
  29. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu effeithiolrwydd timau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD36

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Effeithiolrwydd timau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu