Hybu'r broses o gaffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth hybu'r broses o gaffael iaith newydd neu ychwanegol yng nghyd-destun amrywiaeth o leoliadau gofal plant. Bydd yn eich galluogi i hybu'r broses o weithio gyda phlant pan fydd iaith y cartref yn wahanol i iaith y lleoliad. Mae'r safon yn gofyn i chi nodi eich cyfraniad at drochi iaith, a chyfrannu at amgylchedd dysgu cadarnhaol. Mae hefyd yn ymwneud â chynnwys teuluoedd yng nghynnydd y plentyn, cefnogi asesu a chynllunio, a gweithio gyda phlant drwy weithgareddau i ddatblygu sgiliau dysgu iaith. Yn olaf, mae’n gofyn i chi gyfrannu at y gwaith o fonitro a gwerthuso cynnydd plant o ran dysgu iaith yn ogystal â’r amgylchedd o ran hybu dysgu iaith. Mae'r safon hon yn ymwneud â throchi llwyr mewn iaith newydd ac nid yw wedi'i chynllunio i ymdrin â throchi rhannol lle mae iaith newydd neu ychwanegol yn cael ei haddysgu fel rhan o gwricwlwm.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- hybu'r gweithle fel amgylchedd trochi iaith
- nodi eich cryfderau a meysydd i'w gwella wrth ddefnyddio’r iaith drochi
- gwerthuso a datblygu eich defnydd o’r iaith drochi ar lafar
- gwerthuso a datblygu eich defnydd o’r iaith drochi yn ysgrifenedig
- defnyddio dulliau cyfathrebu llafar a di-lafar i wneud i blant deimlo’n ddiogel a bod croeso iddynt, gan barchu eu hunaniaeth ddiwylliannol
- modelu rhyngweithiadau yn yr iaith drochi ag eraill
- cyfathrebu â phlant yn yr iaith drochi
- modelu ynganiad clir a chywir o’r iaith drochi
- dadansoddi a chefnogi camau caffael iaith mewn plant
- cefnogi plant i symud drwy gamau caffael iaith ar eu cyflymder eu hunain, gan sicrhau bod anghenion plant unigol yn cael eu hystyried
- gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ac eraill i asesu a chefnogi caffael iaith fel rhan o anghenion holistaidd plant
- gwahaniaethu rhwng heriau caffael iaith a heriau eraill i blant
- cefnogi â rheoleiddio emosiynol plant wrth gaffael iaith
- nodi pryd mae angen cymorth arbenigol i gyfathrebu â theuluoedd a phlant
- cynnwys teuluoedd ym mhrofiadau dysgu iaith y plant
- rhoi gwybodaeth i deuluoedd am adnoddau cymorth ychwanegol ar gyfer trochi iaith
- dangos parch at hunaniaeth ddiwylliannol a dewisiadau iaith plant a theuluoedd
- defnyddio profiadau a rhyngweithiadau i gefnogi caffael iaith
- nodi a darparu cyfleoedd i hybu iaith lafar
- defnyddio caneuon a rhigymau i gefnogi’r defnydd o’r iaith drochi
- nodi a darparu cyfleoedd i hybu llythrennedd yn unol â cham datblygu plant
- integreiddio profiadau trochi iaith o fewn y gwaith o gynllunio'r cwricwlwm a gwerthfawrogi cyfleoedd dysgu digymell
- annog plant i ddefnyddio'r iaith drochi â phlant eraill ac mewn lleoliadau gwahanol
- annog a dathlu ymdrechion plant wrth ddefnyddio’r iaith drochi
- mesur a chofnodi cynnydd plant unigol o ran caffael iaith a diweddaru eu teuluoedd
- gwerthuso effeithiolrwydd adnoddau a gweithgareddau dysgu iaith
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i adolygu a gwella effeithiolrwydd yr amgylchedd trochi iaith
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu’r broses o gaffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu’r broses o gaffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- beth yw amgylcheddau iaith drochi
- sut mae newid o un iaith i drochi mewn iaith arall yn gallu effeithio ar blant
- dylanwad diwylliant, cefndir ac iaith gartref plant a theuluoedd ar ddysgu iaith
- pwysigrwydd sicrhau eich bod yn rhugl yn yr iaith drochi
- pwysigrwydd cywirdeb yn yr iaith drochi ysgrifenedig
- egwyddorion a thechnegau trochi ieithyddol yng nghyd-destun amgylcheddau dysgu
- methodolegau iaith drochi a dulliau iaith sy’n cael eu rhannu
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi â chyfathrebu effeithiol mewn iaith drochi
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y ffordd mae plant yn caffael iaith a sgiliau cyfathrebu
- y camau y gall plant eu dilyn wrth gaffael iaith newydd a sut mae ymateb i bob cam
- pwysigrwydd cael disgwyliadau clir ar gyfer plant o ran caffael iaith drochi
- termau a thechnegau allweddol caffael iaith mewn amgylcheddau trochi
- sut mae nodi a chefnogi caffael geirfa allweddol a geiriau sy’n codi’n aml
- sut mae gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd yn y broses o gaffael iaith a’u cefnogi i roi cefnogaeth wrth ddysgu’r iaith yng nghyd-destun y cartref
- gwerth gweithgareddau grŵp i blant wrth gaffael iaith newydd a sut i'w cefnogi
- sut mae creu amgylcheddau croesawgar a chyfeillgar ar gyfer dysgu iaith
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi’r broses o gaffael iaith
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth gaffael iaith
- gwerth arddangosfeydd, adnoddau, dyfeisiau ac adnoddau digidol mewn amgylcheddau dysgu iaith
- pwysigrwydd profiadau sy'n cael eu harwain gan blant yn ogystal ag oedolion, a sut i’w defnyddio ar gyfer dysgu iaith drochi
- y cylch arsylwi, asesu a chynllunio ar gyfer caffael iaith
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu’r broses o gaffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu’r broses o gaffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant
- theorïau sy’n berthnasol i’r broses o gaffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu’r broses o gaffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu’r broses o gaffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu’r broses o gaffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant, a sut i fynd i’r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gaffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.