Hybu datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith ar gyfer dysgu cynnar plant
URN: HSCCLD358
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth hybu datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith ar gyfer dysgu cynnar plant. Mae'n gofyn i chi weithio gyda theuluoedd i gefnogi plant i ddatblygu llythrennedd, rhifedd ac iaith. Mae'n gofyn i chi weithio gydag eraill yn y lleoliad i fonitro, gwerthuso a chefnogi llythrennedd, rhifedd ac iaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ac eraill i nodi anghenion unigol plant o ran datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith
- cytuno ar strategaethau â theuluoedd ac eraill i gefnogi datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith unigol plant
- gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i greu mannau a phrofiadau dysgu ar y cyd sy'n cefnogi datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith plant
- cynllunio a gweithredu strategaethau wedi’u targedu ar y cyd ag eraill i gefnogi grwpiau o blant i wella eu sgiliau llythrennedd, rhifedd ac iaith
- dewis gwybodaeth berthnasol o fframweithiau blynyddoedd cynnar i arwain a chefnogi datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith
- darparu’r adnoddau a’r amgylcheddau sydd eu hangen i weithredu strategaethau ar gyfer cefnogi datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith plant
- gweithio mewn partneriaeth i hybu sgiliau llythrennedd, rhifedd ac iaith plant drwy fannau, profiadau a rhyngweithiadau diddorol ac ysgogol
- defnyddio profiadau bob dydd a chwilfrydedd naturiol plant i annog archwilio a datblygiad mewn llythrennedd, rhifedd ac iaith
- defnyddio arsylwadau a rhyngweithiadau i lywio'r gwaith cynllunio drwy nodi anghenion o ran llythrennedd, rhifedd ac iaith ac ymateb i’r diddordebau sy'n dod i'r amlwg ymysg y plant
- defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n hybu ac yn ymestyn datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith plant
- addasu profiadau dysgu i gwrdd ag anghenion amrywiol plant
- darparu cymorth personol sy'n adlewyrchu cynnydd yr unigolyn ac anghenion datblygiad plant
- defnyddio amrywiaeth o ddulliau arsylwi ac asesu i olrhain datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith plant
- cynnwys plant yn y gwaith o lunio eu profiadau dysgu eu hunain, gan werthfawrogi eu lleisiau a'u dewisiadau
- adnabod a chynnwys eraill i gefnogi a gwella datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith plant
- parchu a dathlu iaith y cartref, acen a thafodiaith plant er mwyn hybu cynhwysiant diwylliannol a chyfoethogi llythrennedd a dysgu iaith
- meithrin dulliau cyfathrebu agored, croesawgar a pharhaus â theuluoedd i annog gweithio mewn partneriaeth a sicrhau bod datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith plant yn cael ei gefnogi gartref ac yn y gweithle
- darparu gwybodaeth glir a hygyrch i deuluoedd i'w grymuso i gefnogi plant i ddysgu llythrennedd, rhifedd ac iaith yn y cartref
- cefnogi teuluoedd i gydnabod, dathlu ac adeiladu ar gryfderau a sgiliau llythrennedd, rhifedd ac iaith plant
- cefnogi teuluoedd i adnabod rôl chwarae a phrofiadau bob dydd o ran datblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd ac iaith
- adnabod a mynd i’r afael ag unrhyw heriau sy'n atal teuluoedd rhag cefnogi datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith plant
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i adolygu a gwerthuso profiadau llythrennedd, rhifedd ac iaith yn y gweithle
- myfyrio a gwella dull y gweithle o gynnwys teuluoedd yn natblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith plant
- cwblhau'r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith ar gyfer dysgu cynnar plant
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith ar gyfer dysgu cynnar plant
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd arferion a chyfnodau pontio o ran darparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith
- cyfnodau datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith mewn plant
- sgiliau allweddol a chysyniadau datblygiad rhifedd
- cyfnodau dysgu cysyniadau rhifedd cynnar
- sgiliau allweddol a chysyniadau llythrennedd ymddangosol
- pwrpas fframweithiau cwricwlwm blynyddoedd cynnar o ran cefnogi datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith plant
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i hybu datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith plant
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ddatblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith plant
- sut mae sicrhau cydbwysedd rhwng profiadau sy’n cael eu harwain gan blant a rhai sy’n cael eu harwain gan oedolion i greu cyfleoedd dysgu ystyrlon
- arwyddocâd dysgu sy'n seiliedig ar chwarae fel sylfaen ar gyfer datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith
- sut mae defnyddio arsylwadau a rhyngweithiadau i lywio'r gwaith cynllunio ac addasu profiadau dysgu i blant unigol
- sut mae addasu profiadau ar gyfer anghenion dysgu unigolion a grwpiau o blant
- strategaethau ar gyfer creu profiadau dysgu hyblyg y gellir eu haddasu, gan ymateb i fomentau mewn bywyd go iawn a chwilfrydedd plant
- sut mae creu amgylcheddau ysgogol a diddorol sy'n cefnogi cyfleoedd i archwilio, datrys problemau ac ymholi
- y mathau o leoedd, profiadau a rhyngweithiadau sy’n cefnogi datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith orau
- arwyddocâd chwarae corfforol, seiliedig ar fyd natur, yn yr awyr agored o ran hybu datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith
- sut mae cael gafael ar adnoddau cynaliadwy ac addasu amgylcheddau i gwrdd ag anghenion plant
- sut mae integreiddio profiadau yn y byd go iawn, dyfeisiau ac adnoddau digidol, ac adnoddau penagored i gyfoethogi dysgu
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith
- sut mae cynllunio ar gyfer datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith mewn ffordd sy'n cefnogi rheoleiddio emosiynol
- rôl teuluoedd ac eraill o ran cefnogi datblygiad plant a chreu cyfleoedd dysgu ar y cyd
- dylanwad diwylliant a chefndir ar ddatblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith
- y gwahaniaeth rhwng dysgu wedi'i bersonoli a dulliau dysgu gwahaniaethol
- heriau penodol ar gyfer dysgu cynnar plant mewn lleoliadau amlieithog a dwyieithog
- rôl hunanwerthusiad o ran gwella cynllunio ac ymarfer
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith ar gyfer dysgu cynnar plant
- theorïau sy’n berthnasol i ddatblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith plant
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith ar gyfer dysgu cynnar plant
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith ar gyfer dysgu cynnar plant
- sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth hybu datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith ar gyfer dysgu cynnar plant, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith ar gyfer dysgu cynnar plant
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD358
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu