Arsylwi a chefnogi cynnydd plant yn unol â fframweithiau blynyddoedd cynnar
URN: HSCCLD357
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae’r safon hon yn nodi’r gofynion ar gyfer arsylwi a chefnogi cynnydd plant o fewn y fframweithiau blynyddoedd cynnar perthnasol. Mae'n cynnwys gweithio gyda theuluoedd, plant ac eraill i gynllunio arsylwadau ystyrlon ac asesiadau sy'n sail i ymarfer. Mae hefyd yn golygu creu mannau dysgu a phrofiadau diddorol ar y cyd â phlant a theuluoedd. Dylai'r dull gweithredu gyd-fynd â gwerthoedd ac ethos y gweithle a bod yn gyson â'r fframweithiau yn eich gwlad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis gwybodaeth berthnasol o fframweithiau blynyddoedd cynnar i arwain a llywio arsylwadau ac asesiadau
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gynllunio arsylwadau ac asesiadau addas
- creu amgylcheddau meithringar a diogel yn emosiynol lle mae teuluoedd yn teimlo'n gyfforddus yn trafod dulliau dysgu a datblygu plant
- defnyddio dulliau sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n seiliedig ar chwarae wrth gynllunio arsylwadau
- cynnwys plant yn y gwaith o lunio eu taith ddysgu drwy werthfawrogi eu lleisiau a sicrhau bod arsylwadau’n rhan annatod a phleserus o’u profiadau
- cynllunio arsylwadau sy’n hyblyg ac yn ymatebol i ddiddordebau datblygol, chwilfrydedd a rhyngweithiadau plant
- arsylwi mewn ffordd sy'n rhoi darlun holistaidd o deithiau dysgu, rhyngweithiadau a llesiant emosiynol plant
- sicrhau bod arsylwadau ac arferion asesu’n adlewyrchu ethos, gwerthoedd ac egwyddorion addysgegol y gweithle
- defnyddio arferion bob dydd a phrofiadau chwarae fel cyfleoedd i arsylwi
- sicrhau bod arsylwadau’n hybu amrywiaeth, cynhwysiant, ac arferion teg a gwrthwahaniaethol
- cael gafael ar adnoddau i gefnogi arsylwadau myfyriol
- rhannu a myfyrio ar arsylwadau â phlant a theuluoedd
- defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar gryfderau i annog teuluoedd i rannu adborth ynghylch datblygiad plant
- addasu dulliau a strategaethau yn seiliedig ar fyfyrdodau gyda theuluoedd ac eraill
- adnabod a dathlu cyflawniadau plant, a’u cynorthwyo mewn ffordd sensitif a chefnogol wrth iddynt gymryd y camau nesaf
- sicrhau bod asesiadau ffurfiannol a chrynodol yn llywio'r gwaith cynllunio, gan ymateb i ddiddordebau, dewisiadau ac anghenion sy'n dod i'r amlwg ymysg y plant
- nodi pryd mae angen cymorth ychwanegol ar blant a mynnu ymyriadau addas
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arsylwi a chefnogi cynnydd plant yn unol â fframweithiau blynyddoedd cynnar
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arsylwi a chefnogi cynnydd plant yn unol â fframweithiau blynyddoedd cynnar
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd arferion a chyfnodau pontio o ran darparu parhad a diogelwch i blant
- ffactorau cymdeithasol, corfforol ac economaidd sy'n effeithio ar ddatblygiad plant
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ddatblygiad plant
- effaith ymlyniad, perthnasoedd a llesiant ar allu plant i ymwneud â dysgu
- pwrpas fframweithiau cwricwlwm blynyddoedd cynnar o ran cefnogi dysgu a datblygu holistaidd plant
- rôl arsylwadau mewn cylchoedd cynllunio
- dulliau arsylwi a chofnodi plant yn y gweithle
- dulliau sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n seiliedig ar chwarae i gefnogi arsylwadau ac asesiadau
- sut mae defnyddio arsylwadau fel adnoddau myfyriol i lywio'r gwaith cynllunio a chreu profiadau dysgu ystyrlon a diddorol
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth arsylwi ac asesu plant
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth arsylwi ac asesu
- pwysigrwydd dulliau cynllunio ymatebol a chylchol sy’n adeiladu ar brofiadau a diddordebau esblygol plant
- disgwyliadau cyrff rheoleiddio ac arolygiaethau mewn perthynas â chynllunio a gweithredu cwricwlwm
- ystyriaethau moesegol a mesurau diogelu sy'n gysylltiedig ag arsylwi ar blant, gan gynnwys pwysigrwydd sensitifrwydd a gwrthrychedd
- dylanwad diwylliant a chefndir ar sut rydych yn cynllunio ar gyfer arsylwi ac asesu
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth arsylwi ac asesu
- strategaethau ar gyfer nodi lleisiau plant
- sut mae defnyddio asesiadau, cofnodion ac adroddiadau yn effeithiol i olrhain dysgu a llywio’r camau nesaf
- sut mae rhannu arsylwadau ac asesiadau yn fewnol ac yn allanol yn unol â chyfrinachedd a diogelwch digidol
- theorïau sy’n berthnasol i arsylwi a chefnogi cynnydd plant yn unol â fframweithiau blynyddoedd cynnar
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arsylwi a chefnogi cynnydd plant yn unol â fframweithiau blynyddoedd cynnar
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arsylwi a chefnogi cynnydd plant yn unol â fframweithiau blynyddoedd cynnar
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arsylwi a chefnogi cynnydd plant yn unol â fframweithiau blynyddoedd cynnar, a sut i fynd i’r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth arsylwi a chefnogi cynnydd plant yn unol â fframweithiau blynyddoedd cynnar
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD357
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cynnydd Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu