Rhoi fframweithiau blynyddoedd cynnar ar waith i lywio'r gwaith o gynllunio cwricwlwm
URN: HSCCLD356
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion ar gyfer rhoi fframweithiau blynyddoedd cynnar ar waith i lywio'r gwaith o gynllunio cwricwlwm. Mae’n cynnwys datblygu a gweithredu cynlluniau. Mae'n gofyn i chi fonitro fframweithiau blynyddoedd cynnar a myfyrio ar eich ymarfer. Dylai'r gwaith o gynllunio a rhoi'r cwricwlwm ar gyfer y blynyddoedd cynnar ar waith fod yn gyson â'r fframweithiau yn eich gwlad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio fframweithiau blynyddoedd cynnar i lywio'r gwaith o gynllunio cwricwlwm sy'n cefnogi dysgu a datblygu holistaidd
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i sicrhau bod gwybodaeth newydd am gynllunio cwricwlwm yn cael ei rhannu
- sefydlu cylch cynllunio parhaus sy'n adeiladu ar brofiadau blaenorol
- sicrhau bod cynlluniau’n adlewyrchu gwerthoedd, ethos a dull addysgegol y gweithle
- gwreiddio ymarfer gwrthwahaniaethol a chynhwysol yn yr holl waith cynllunio
- defnyddio arsylwadau a rhyngweithiadau i lywio'r gwaith cynllunio, gan ymateb i ddiddordebau, dewisiadau ac anghenion sy'n dod i'r amlwg ymysg y plant
- sicrhau dulliau hyblyg, gan ganiatáu ar gyfer natur ddigymell, chwilfrydedd a chyfleoedd dysgu bywyd go iawn
- gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ac eraill i greu mannau a phrofiadau dysgu ar y cyd sy'n cefnogi datblygiad plant
- cynllunio cydbwysedd rhwng profiadau sy’n cael eu harwain gan blant a rhai sy’n cael eu harwain gan oedolion
- darparu amgylcheddau dysgu sy'n cefnogi cyfleoedd chwarae ystyrlon ar eich pen eich hun ac mewn grŵp, dysgu sy'n seiliedig ar ymchwiliadau, a phrofiadau yn y byd go iawn
- hwyluso amgylcheddau ysgogol a diogel yn yr awyr agored lle gall plant archwilio a dysgu drwy chwarae sy'n seiliedig ar natur
- darparu dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi chwarae a dysgu, gan sicrhau bod adnoddau digidol yn cefnogi yn hytrach na disodli profiadau chwarae yn y byd go iawn
- cynllunio ar gyfer pontio, gan sicrhau parhad mewn dysgu wrth i blant symud drwy wahanol brofiadau
- cynnwys plant yn y gwaith o lunio eu profiadau dysgu eu hunain, gan werthfawrogi eu lleisiau a'u dewisiadau
- darparu cyfleoedd ar gyfer chwarae’n rhydd, darganfod dan arweiniad, a datrys problemau â chefnogaeth
- addasu cynlluniau ar sail asesiad parhaus, gan ddarparu cefnogaeth neu heriau addas
- hwyluso profiadau dysgu diddorol sy'n seiliedig ar brofiadau ymatebol sydd wedi'u cynllunio
- dathlu llwyddiannau plant, a’u defnyddio i lywio'r camau dysgu nesaf
- nodi pryd mae angen cymorth ychwanegol ar blant a mynnu ymyriadau addas
- mynd ati i fyfyrio ar y cyd ag eraill i werthuso a mireinio cynlluniau cwricwlwm
- monitro ac asesu cyfranogiad a chynnydd plant, gan ddefnyddio canfyddiadau i addasu cynlluniau i gwrdd ag anghenion plant
- cyfathrebu â theuluoedd ynghylch sut mae cynlluniau cwricwlwm yn cefnogi datblygiad plant ac yn eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau
- cwblhau'r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer rhoi fframweithiau blynyddoedd cynnar ar waith i lywio'r gwaith o gynllunio cwricwlwm
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i roi fframweithiau blynyddoedd cynnar ar waith i lywio’r gwaith o gynllunio cwricwlwm
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd arferion a chyfnodau pontio o ran darparu parhad a diogelwch i blant
- ffactorau cymdeithasol, corfforol ac economaidd sy'n effeithio ar ddatblygiad plant
- sut mae niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol yn gallu cael eu cefnogi wrth gynllunio ar gyfer dysgu
- effaith ymlyniad, perthnasoedd a llesiant ar allu plant i ymwneud â dysgu
- dylanwad diwylliant a chefndir plant ar sut rydych yn cynllunio ar gyfer cwricwlwm a dysgu
- pwrpas fframweithiau cwricwlwm blynyddoedd cynnar o ran cefnogi dysgu a datblygu holistaidd plant
- pwysigrwydd dulliau cynllunio ymatebol a chylchol
- sut mae sicrhau cydbwysedd rhwng profiadau sy’n cael eu harwain gan blant a rhai sy’n cael eu harwain gan oedolion i greu cyfleoedd dysgu ystyrlon
- arwyddocâd dysgu sy'n seiliedig ar chwarae o ran datblygu ac archwilio
- sut mae sicrhau bod cynlluniau’n adlewyrchu ethos, gwerthoedd a dull addysgegol y gweithle
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i roi fframweithiau ar gyfer addysg gynnar ar waith drwy gynllunio cwricwlwm
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gynllunio ar gyfer dysgu
- sut mae defnyddio arsylwadau a rhyngweithiadau i lywio'r gwaith cynllunio ac addasu profiadau dysgu i blant unigol
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth gynllunio cwricwlwm
- strategaethau ar gyfer creu profiadau dysgu hyblyg y gellir eu haddasu, gan ymateb i fomentau mewn bywyd go iawn a chwilfrydedd plant
- arwyddocâd dewis rhydd ac awtonomiaeth o ran cefnogi hyder a chymhelliant plant
- sut mae creu amgylcheddau ysgogol a diddorol sy'n cefnogi cyfleoedd i archwilio, datrys problemau ac ymholi
- sut mae integreiddio profiadau yn y byd go iawn, adnoddau digidol, ac adnoddau cynaliadwy penagored i gyfoethogi dysgu
- sut mae gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ac eraill i greu cyfleoedd dysgu
- arwyddocâd chwarae corfforol, seiliedig ar fyd natur, yn yr awyr agored o ran hybu llesiant a thwf holistaidd
- sut mae defnyddio asesiadau, cofnodion ac adroddiadau yn effeithiol i olrhain dysgu a llywio’r camau nesaf
- rôl hunanwerthusiad wrth gynllunio cwricwlwm
- disgwyliadau cyrff rheoleiddio ac arolygiaethau mewn perthynas â chynllunio a gweithredu cwricwlwm
- theorïau sy’n berthnasol i roi fframweithiau blynyddoedd cynnar ar waith i lywio'r gwaith o gynllunio cwricwlwm
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer rhoi fframweithiau blynyddoedd cynnar ar waith i lywio'r gwaith o gynllunio cwricwlwm
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth roi fframweithiau blynyddoedd cynnar ar waith i lywio'r gwaith o gynllunio cwricwlwm
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth roi fframweithiau blynyddoedd cynnar ar waith i lywio'r gwaith o gynllunio cwricwlwm, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth roi fframweithiau blynyddoedd cynnar ar waith i lywio'r gwaith o gynllunio cwricwlwm
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD356
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cynllunio Cwricwlwm, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu