Hybu Chwarae
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth hybu chwarae. Gofynnir i chi arsylwi ac asesu sut mae chwarae yn cefnogi pob agwedd ar ddatblygiad plant, gan gynnwys twf corfforol, emosiynol, cymdeithasol a gwybyddol. Mae’n rhaid i chi greu amgylcheddau chwarae cynhwysol ac ysgogol, ymateb i arwyddion chwarae’r plant, a sicrhau cydbwysedd rhwng chwarae sy'n cael ei arwain gan blant a chwarae sy'n cael ei arwain gan oedolion. Bydd disgwyl i chi fyfyrio ar eich ymarfer, cydweithio â theuluoedd ac eraill, ac ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus i wella’r cyfleoedd i chwarae ar gyfer pob plentyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynllunio a rhoi chwarae ar waith sy'n cefnogi pob agwedd ar ddatblygiad plant
- creu amgylchedd diogel ac ysgogol lle mae mannau chwarae, profiadau a rhyngweithiadau yn gynhwysol ac yn cwrdd ag anghenion amrywiol pob plentyn
- darparu profiadau chwarae sy'n annog plant i archwilio a chysylltu â’r amgylchedd naturiol
- cynnwys arferion cynaliadwy mewn lleoliadau chwarae
- hwyluso cydbwysedd rhwng cyfleoedd chwarae sy’n cael eu harwain gan blant a rhai sy’n cael eu harwain gan oedolion
- rhoi strategaethau ar waith i gefnogi plant ag anghenion ychwanegol yn ystod gweithgareddau chwarae
- meithrin diwylliant o chwilfrydedd, creadigrwydd ac ymholi drwy fannau chwarae ac adnoddau sydd wedi'u cynllunio'n feddylgar
- defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i hwyluso profiadau chwarae plant
- arsylwi ac ymateb i arwyddion chwarae plant, gan ymestyn y dysgu a'r datblygu drwy ymyriadau addas
- annog a chefnogi plant i wneud dewisiadau ac arwain chwarae eu hunain
- cefnogi plant i asesu risgiau iddyn nhw’u hunain ac eraill wrth chwarae
- dilyn gweithdrefnau ar gyfer asesu risg ac iechyd a diogelwch heb gyfyngu ar y cyfleoedd i chwarae a datblygu
- myfyrio ar ddewisiadau chwarae plant ac addasu'r amgylchedd i wella eu profiadau
- cydweithio â theuluoedd i ddeall patrymau chwarae a dewisiadau plant a sut y gallant gefnogi chwarae adref
- ymgysylltu ag adnoddau cymunedol i gyfoethogi profiadau chwarae plant
- meithrin perthnasoedd cryf ag eraill i gefnogi chwarae a datblygiad plant
- casglu adborth am lefelau cyfranogiad a ffactorau amgylcheddol er mwyn asesu effeithiolrwydd y ddarpariaeth chwarae
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer y ddarpariaeth chwarae
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu chwarae
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- hawl plentyn i chwarae
- y gwahanol fathau o chwarae
- sut mae chwarae yn cefnogi pob agwedd ar ddatblygiad plant
- sut mae chwarae yn cefnogi rheoleiddio emosiynol a llesiant plant
- sut gall chwarae ddod â llawenydd a boddhad
- pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng chwarae sy’n cael ei arwain gan blant a chwarae sy’n cael ei arwain gan oedolion
- sut mae arsylwi ar arwyddion chwarae, a’u dehongli, i ymestyn dysgu a datblygiad plant
- sut mae annog a chefnogi plant i wneud dewisiadau ac arwain eu chwarae eu hunain
- pam y dylai plant gael y cyfle i brofi heriau a risgiau
- sut mae cynnal asesiadau risg sy’n cydbwyso rhagofalon rhesymol ac yn darparu cyfleoedd i chwarae a datblygu
- sut mae cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau yn llywio chwarae ac yn dylanwadu ar ddyluniad cyfleoedd chwarae cynhwysol
- strategaethau i gefnogi plant ag anghenion cymorth ychwanegol a niwroamrywiaeth i chwarae
- sut mae dylunio a chreu mannau chwarae diogel, cynhwysol ac ysgogol a phrofiadau sy’n cwrdd ag anghenion amrywiol plant
- pwysigrwydd chwarëusrwydd, caredigrwydd a thosturi wrth feithrin perthnasoedd cadarnhaol a chreu amgylcheddau chwarae cynhwysol
- dylanwad diwylliant a chefndir ar ddewisiadau chwarae, rhyngweithiadau, ac ymgysylltiad plant
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i greu amgylcheddau chwarae diogel, cefnogol a meithringar
- sut mae cynllunio mannau a phrofiadau chwarae sy’n ysgogi natur chwilfrydig, greadigol a holgar
- pwysigrwydd addasu amgylcheddau chwarae yn seiliedig ar ddewisiadau a diddordebau plant sy'n esblygu
- manteision chwarae naturiol ac yn yr awyr agored o ran cefnogi llesiant, dysgu a chysylltiad â'r amgylchedd
- sut mae integreiddio arferion cynaliadwy mewn lleoliadau chwarae, gan leihau gwastraff a hybu bioamrywiaeth
- defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i hwyluso chwarae, gan sicrhau eu bod yn cefnogi yn hytrach na disodli profiadau chwarae cyfoethog yn y byd go iawn
- y newidiadau y gall plant a phobl ifanc fynd drwyddynt wrth chwarae
- y patrymau disgwyliedig o ran datblygiad o’u geni hyd at 21 oed
- Y ffactorau sy'n effeithio ar dwf y ffoetws a datblygiad yr ymennydd
- sut mae ffactorau cymdeithasol, corfforol ac economaidd yn dylanwadu ar gyfleoedd plant i gymryd rhan mewn profiadau chwarae ystyrlon
- ffyrdd o gefnogi teuluoedd i ddeall a gwerthfawrogi chwarae ac adnabod patrymau chwarae, dewisiadau a chynnydd datblygiadol plant
- sut mae dadansoddi adborth i asesu effeithiolrwydd y ddarpariaeth chwarae
- sut mae dod o hyd i adnoddau cymunedol ac ymwneud â nhw i wella profiadau chwarae plant
- damcaniaethau sy'n berthnasol i hybu chwarae
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu chwarae
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu chwarae
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu chwarae, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu o ran hybu chwarae
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.