Cynllunio a threfnu amgylcheddau ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd

URN: HSCCLD354
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth gynllunio a threfnu amgylcheddau ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae hyn yn cynnwys cynllunio a darparu amgylchedd ffisegol diogel a gofal personol sy'n ofalgar, yn feithringar ac yn ymatebol i anghenion plant a phobl ifanc. Mae hefyd yn cynnwys trefnu lle ac adnoddau i ddarparu amgylchedd ysgogol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio mewn partneriaeth ag eraill i greu a chynnal amgylcheddau diogel i blant neu bobl ifanc a theuluoedd
  2. dilyn asesiadau risg a gweithdrefnau iechyd a diogelwch
  3. addasu amgylcheddau i gwrdd â dewisiadau ac anghenion plant neu bobl ifanc a theuluoedd, gan hybu cynhwysiant a hygyrchedd  
  4. hybu a gwerthfawrogi amrywiaeth o fewn amgylcheddau a'r ystod o brofiadau a rhyngweithiadau a ddarperir
  5. sicrhau bod amgylcheddau ffisegol yn cefnogi’r gwaith o gynllunio gweithgareddau chwarae a datblygiad holistaidd plant neu bobl ifanc  
  6. trefnu arddangosfeydd gweledol a chyffyrddol i ysgogi chwilfrydedd a datblygiad plant neu bobl ifanc
  7. cynnwys deunyddiau naturiol, cynaliadwy a phenagored mewn amgylcheddau  
  8. darparu cyfleoedd rheolaidd i chwarae yn yr awyr agored
  9. trefnu amgylcheddau i ddarparu cyfleoedd i ymarfer corff a chwarae corfforol
  10. trefnu a strwythuro amgylcheddau ffisegol i fanteisio i'r eithaf ar brofiadau synhwyraidd a chyfleoedd chwarae a dysgu o wahanol fathau
  11. cynllunio a threfnu lleoedd ffisegol hygyrch i ddarparu amgylcheddau cyfforddus ac ysgogol i blant neu bobl ifanc
  12. annog plant neu bobl ifanc a theuluoedd i gymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau am amgylcheddau
  13. hybu’r defnydd o ddyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi chwarae a dysgu, gan sicrhau bod adnoddau digidol yn cefnogi yn hytrach na disodli profiadau chwarae cyfoethog yn y byd go iawn
  14. darparu mannau tawel a phreifatrwydd i blant neu bobl ifanc a theuluoedd  
  15. annog a chydnabod cefndir diwylliannol plant neu bobl ifanc a theuluoedd
  16. dathlu a chydnabod ymdrechion a chyflawniadau plant neu bobl ifanc, a bod yn ymatebol i’w hemosiynau a phrofiadau  
  17. rhoi cefnogaeth i blant neu bobl ifanc a theuluoedd drwy brosesau pontio  
  18. rhoi trefniadau hyblyg a sensitif ar waith ar gyfer setlo yn ystod cyfnodau pontio
  19. darparu gofal cyson ac amgylcheddau sefydlog i blant neu bobl ifanc, yn unol â’u cam datblygiadol, eu dewisiadau a’u hanghenion
  20. cyfathrebu ffiniau a chyfyngiadau ymddygiad gan ddefnyddio iaith gyson
  21. hybu arferion hyblyg i gefnogi llesiant plant neu bobl ifanc
  22. annog plant neu bobl ifanc i gymryd cyfrifoldeb drostynt eu hunain ac i ddod yn fwy annibynnol, yn unol â’u cam datblygu ac anghenion
  23. modelu arferion cynaliadwy i blant neu bobl ifanc er mwyn hybu effaith eu gweithredoedd ar yr amgylchedd
  24. rhoi sicrwydd a chysur i blant neu bobl ifanc a theuluoedd
  25. sicrhau bod teuluoedd ac eraill yn cael gwybodaeth am gynnydd datblygiadol plant neu bobl ifanc  
  26. gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc a theuluoedd i nodi anghenion gofal penodol  
  27. sicrhau y llwyddir i gwrdd ag anghenion gofal personol a chorfforol plant neu bobl ifanc gan ystyried dewisiadau’r teulu yn ogystal ag arferion diwylliannol ac ysbrydol
  28. sicrhau y llwyddir i gwrdd ag anghenion maeth plant neu bobl ifanc gan ystyried dewisiadau’r teulu yn ogystal ag arferion diwylliannol ac ysbrydol
  29. sicrhau bod mesurau atal a rheoli heintiau yn cael eu defnyddio wrth drin a storio bwyd, a gwaredu gwastraff
  30. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cynllunio a threfnu’r amgylchedd ar gyfer plant neu bobl ifanc a theuluoedd  
  31. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth gynllunio a threfnu amgylcheddau ar gyfer plant neu bobl ifanc a theuluoedd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae sicrhau bod gwybodaeth am amgylcheddau ar gael i blant a phobl ifanc ac eraill
  2. dylanwad diwylliant a chefndir ar sut rydych chi’n cynllunio ac yn trefnu amgylcheddau i blant a phobl ifanc a theuluoedd  
  3. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gynllunio a threfnu amgylcheddau i blant a phobl ifanc a theuluoedd
  4. sut mae cynllunio a threfnu amgylcheddau mewn ffordd sy'n cefnogi rheoleiddio emosiynol
  5. sut mae cefnogi plant a phobl ifanc â’r newidiadau y gallant eu profi
  6. ffyrdd o ddarparu amgylcheddau cynnes, diogel ac anogol i blant a phobl ifanc mewn partneriaeth â theuluoedd
  7. sut mae addasu amgylcheddau i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cymryd rhan gyfartal
  8. sut mae datblygu perthynas gyson, ofalgar a meithringar gyda phlant a phobl ifanc
  9. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gynllunio a threfnu amgylcheddau i blant a phobl ifanc a theuluoedd
  10. rôl chwarae o ran cefnogi datblygiad holistaidd  
  11. sut mae hybu llesiant emosiynol, hyder a gwydnwch plant a phobl ifanc
  12. sut mae adnabod ymddygiad fel ffordd o gyfathrebu
  13. pwysigrwydd bod yn realistig, yn gyson ac yn gefnogol wrth ymateb i ymddygiad plant a phobl ifanc
  14. sut mae rhoi anogaeth ystyrlon a dathlu cyflawniadau plant a phobl ifanc
  15. sut mae annog plant a phobl ifanc i ofyn cwestiynau a gwneud dewisiadau gwybodus am faterion sy’n effeithio arnynt  
  16. sut mae ymateb i wrthdaro a all godi rhwng plant a phobl ifanc ac eraill  
  17. gweithdrefnau’r gweithle ar gyfer arsylwi ac asesu a sut mae'r rhain yn cysylltu â fframweithiau cwricwlwm neu ddatblygu
  18. pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â phlant a phobl ifanc i gynllunio amgylcheddau
  19. sut mae cynllunio mannau, profiadau a rhyngweithiadau ar gyfer datblygu a dysgu  
  20. sut mae dod o hyd i ddeunyddiau a chyfarpar sy'n hybu chwarae a datblygu, a sut i’w defnyddio  
  21. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol mewn amgylcheddau i gwrdd ag anghenion plant a phobl ifanc a theuluoedd
  22. egwyddorion cynaliadwyedd a sut i fynd ati i’w cynnwys mewn arferion bob dydd yn y gweithle
  23. rôl asesiadau risg a rheoli risg wrth gynllunio a threfnu amgylcheddau
  24. sut mae darparu amgylcheddau diogel sy'n annog cymryd risgiau cadarnhaol
  25. sut mae trin a gwaredu gwastraff yn ddiogel
  26. sut mae sicrhau hylendid dwylo effeithiol a phwysigrwydd defnyddio cyfarpar diogelu personol  
  27. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cynllunio a threfnu amgylcheddau ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd  
  28. theorïau sy'n berthnasol i gynllunio a threfnu amgylcheddau ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd
  29. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cynllunio a threfnu amgylcheddau ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd
  30. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gynllunio a threfnu amgylcheddau ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd
  31. sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth gynllunio a threfnu amgylcheddau ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd, a sut i fynd i'r afael â hyn
  32. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gynllunio a threfnu amgylcheddau ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD354

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cynllunio, Trefnu Amgylcheddau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu