Hybu amgylcheddau cadarnhaol ar gyfer babanod a phlant bach

URN: HSCCLD353
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth hybu amgylcheddau cadarnhaol a fydd yn gwella datblygiad corfforol, cymdeithasol, emosiynol, gwybyddol ac ieithyddol babanod a phlant bach.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio mewn partneriaeth ag eraill i greu a chynnal amgylcheddau diogel
  2. meithrin a chynnal perthynas â babanod neu blant bach
  3. ennyn diddordeb a sylw babanod neu blant bach gan ddefnyddio dulliau sy'n addas i'w ffafriaeth, eu hanghenion a'u cam datblygiadol  
  4. gweithio mewn partneriaeth â phlant bach, teuluoedd ac eraill i asesu a chytuno ar anghenion datblygiadol
  5. gweithio mewn partneriaeth â phlant bach, teuluoedd ac eraill i ddatblygu a rhoi cynlluniau ar waith i fynd i’r afael ag anghenion datblygiadol  
  6. sicrhau bod amgylcheddau’n cefnogi cyfleoedd i fabanod neu blant bach chwarae o fewn fframweithiau datblygiadol neu’r cwricwlwm  
  7. darparu profiadau bwriadol ac ymatebol sy'n cefnogi datblygiad babanod neu blant bach  
  8. sicrhau bod adnoddau a lleoedd yn cefnogi profiadau cadarnhaol a rhyngweithiadau babanod neu blant bach  
  9. darparu arferion hyblyg o ddydd i ddydd i ysgogi a hybu datblygiad mewn amgylcheddau
  10. ymateb i sgemâu datblygol babanod neu blant bach  
  11. cynnwys deunyddiau naturiol, cynaliadwy a phenagored mewn amgylcheddau i ysgogi chwilfrydedd a natur greadigol  
  12. hybu defnydd effeithiol o le i alluogi babanod neu blant bach i ddatblygu eu sgiliau corfforol ac ymarfer eu cyrff cyfan  
  13. sicrhau bod babanod a phlant bach yn gallu cael mynediad at brofiadau awyr agored yn rheolaidd  
  14. adnabod a dathlu ymdrechion a chyflawniadau babanod neu blant bach  
  15. nodi pwrpas ac amcanion arsylwi ar fabanod neu blant bach mewn amgylcheddau
  16. cynnwys babanod neu blant bach yn y gwaith o arsylwi a chofnodi gwahanol agweddau datblygiad  
  17. gwerthuso cynnydd datblygiadol mewn amgylcheddau yn seiliedig ar dystiolaeth o arsylwadau a gwybodaeth gan eraill  
  18. gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ac eraill i fonitro ac adolygu cynnydd ac ymateb i newidiadau mewn dewisiadau, anghenion ac amgylchiadau  
  19. rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i blant bach, teuluoedd ac eraill am weithgareddau a chynnydd datblygiadol  
  20. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu amgylcheddau cadarnhaol ar gyfer babanod neu blant bach
  21. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu amgylcheddau cadarnhaol ar gyfer babanod neu blant bach

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. datblygiad cyn geni a ffactorau sy'n effeithio ar dwf y ffetws a datblygiad yr ymennydd
  2. y patrymau disgwyliedig o ran datblygiad o adeg geni hyd at 21 oed
  3. ffactorau cymdeithasol, corfforol ac economaidd sy'n effeithio ar ddatblygiad babanod a phlant bach  
  4. dylanwad diwylliant a chefndir ar hybu amgylcheddau cadarnhaol ar gyfer babanod a phlant bach
  5. sut mae darparu amgylcheddau cynnes, diogel ac anogol i fabanod a phlant bach mewn partneriaeth â theuluoedd
  6. sut mae sicrhau bod gwybodaeth am amgylcheddau’n hygyrch
  7. sut mae addasu amgylcheddau i sicrhau bod babanod a phlant bach yn gallu cymryd rhan yn gyfartal
  8. sut mae cefnogi niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol mewn amgylcheddau cadarnhaol ar gyfer babanod a phlant bach
  9. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i hybu amgylcheddau cadarnhaol ar gyfer babanod a phlant bach
  10. rôl amgylcheddau ar berthnasoedd cyson, gofalgar a meithringar â babanod a phlant bach
  11. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu amgylcheddau cadarnhaol ar gyfer babanod a phlant bach
  12. pwysigrwydd modelu a datblygu dysgu drwy gyd-destunau sy’n ystyrlon ac yn ddiddorol i fabanod a phlant bach
  13. rôl chwarae o ran cefnogi datblygiad holistaidd mewn amgylcheddau  
  14. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol, llesiant, hyder a gwydnwch drwy amgylcheddau cadarnhaol
  15. sut y gall amgylcheddau gefnogi’r newidiadau y gallai babanod a phlant bach fynd drwyddynt  
  16. cysyniad sgemâu a sut i ymateb i sgemâu datblygol babanod a phlant bach
  17. gweithdrefnau eich gweithle ar gyfer arsylwi ac asesu, a sut mae'r rhain yn cysylltu â fframweithiau cwricwlwm neu ddatblygu  
  18. sut mae cynllunio lleoedd, profiadau a rhyngweithiadau yn yr amgylchedd ar gyfer datblygu a dysgu  
  19. sut mae dod o hyd i ddeunyddiau a chyfarpar sy'n hybu chwarae a datblygu, a sut i’w defnyddio, gan ystyried cynaliadwyedd
  20. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol mewn amgylcheddau i gwrdd ag anghenion babanod a phlant bach
  21. egwyddorion asesiadau risg a rheoli risgiau amgylcheddau
  22. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu amgylcheddau cadarnhaol ar gyfer babanod a phlant bach
  23. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu amgylcheddau cadarnhaol ar gyfer babanod a phlant bach
  24. theorïau sy’n berthnasol i hybu amgylcheddau cadarnhaol ar gyfer babanod a phlant bach
  25. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu amgylcheddau cadarnhaol ar gyfer babanod a phlant bach
  26. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu amgylchedd cadarnhaol ar gyfer babanod a phlant bach
  27. sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth hybu amgylcheddau cadarnhaol ar gyfer babanod a phlant bach, a sut i fynd i'r afael â hyn
  28. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu amgylcheddau cadarnhaol ar gyfer babanod a phlant bach

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD353

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Amgylcheddau Cadarnhaol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu